Ymchwil i Hanes Teuluol / Milwrol?
GWASANAETH YMHOLIADAU YMCHWIL Y FFIWSILWYR BRENHINOL CYMREIG
Mae’r wybodaeth yr ydym yn ei chadw yn ein harchifau gan fwyaf yn gofnodion hanesyddol o’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, eu catrodau a’u hunedau hanesyddol. Mae modd canfod gwybodaeth a ffotograffau ar gyfer nifer cyfyngedig o filwyr y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig drwy’r gwasanaeth ymholi, ond nid oes modd gwarantu hyn. Mae ffi gymedrol am y gwasanaeth hwn.
YMHOLIADAU AR-LEINFel llawer o amgueddfeydd eraill, bydd ffi gymedrol am unrhyw waith ymchwil a gynhelir yn archifdy Wrecsam. Dilynwch y ddolen isod, a fydd yn mynd â chi at ddau opsiwn talu a ffurflen ymholi yn seiliedig ar faint a chymhlethdod eich ymholiad penodol. www.wrexham.gov.uk/PayArchives YMWELWYRMae modd cael mynediad at Lyfrgell Ymchwil y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn y cyfleuster ymchwil cyflawn o fewn Amgueddfa ac Archifdy Wrecsam. Rydym yn argymell galw ymlaen llaw i drefnu apwyntiad, er mwyn sicrhau bod y dogfennau yr ydych chi’n gwneud cais amdanynt ar gael. CYSYLLTUI gael rhagor o wybodaeth a chymorth ffoniwch 01978 297480 neu e-bostiwch: localstudies@wrexham.gov.uk Mae gwybodaeth am amseroedd agor a chyfleusterau ar y safle ar gael drwy wefan Amgueddfa ac Archif Wrecsam drwy’r ddolen isod:
|
MAE'R PROSIECT GWYNEBAU'R MILIWR O'R RHYFEL BYD CYNTAF YN CRYFHAU YN DDYDDIOL.
Oes diddordeb ganddoch mewn gwirfoddoli i help chwilio am luniau'r RWF yn y Rhyfel Byd 1af? Oes ganddoch chi neu ydych yn gwybod am rywyn sydd hefo lluniau o'r RWF yn y Rhyfel Byd 1af? Rydym yn awyddus i glywed ganddoch. Cliciwch yma i lawrlwytho ein taflen wybodaeth. |
RHAI LLUNIAU ODDIAR EIN PROSIECT GWYNEBAU'R MILWYR BU FARW.Cliciwch yma i weld y lluniau. |