Bookmark and Share
Rhannwch ein gwefan ar rwydweithiau cymdeithasol:
picture
 

Ein Harwyr Chwaraeon

Cymraeg - English

picture



Mae gan y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig gysylltiadau â nifer o athletwyr llwyddiannus ac elit. Cyrhaeddodd rhai binacl eu llwyddiant yn ystod eu cyfnod o wasanaeth gyda'r Gatrawd; gosododd eraill seiliau eu llwyddiant diweddarach yn ystod eu gwasanaeth. Ceir detholiad o'u straeon ar y tudalennau hyn.

Bu chwaraeon yn bwysig i Fyddin Prydain ers tro byd, fel modd o wella ffitrwydd, codi ysbryd tîm a chyflawniad unigol.

Tîm Criced Depo'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, 1898

Sefydlwyd gornestau ymladd am wobrau yn y Fyddin ddechrau'r 19eg ganrif a sefydlwyd Ysgol Gymnasteg ffurfiol y Fyddin yn Aldershot ar ôl Rhyfel y Crimea. Cafodd chwaraeon eu cynnwys yn niwygiadau'r 19eg ganrif i'r Fyddin gyda'r nod o wella bywyd y milwr cyffredin ac fel sbardun i recriwtio. Roedd swyddogaeth bwysig i Addysg Gorfforol yn yr hyfforddiant, tra bo campau eraill yn cael eu defnyddio i ddod ag ymdeimlad o ddisgyblaeth i'r gweithgareddau hamdden. Roedd gan filwyr lawer o amser hamdden i'w lenwi, yn enwedig y rheini oedd ar ddyletswydd garsiwn dramor. Deuai swyddogion â brwdfrydedd am chwaraeon oedd wedi'i feithrin mewn ysgolion bonedd. Roedd chwaraeon felly yn ddiddordeb y gallai swyddogion a milwyr cyffredin ei rannu - roedd yn llesol i'r berthynas rhwng y rhengoedd.

Tîm Pêl-droed Bataliwn Cyntaf y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, Dulyn 1912

 

Yn draddodiadol, pêl-droed a rygbi fu'r campau mwyaf poblogaidd yn y Fyddin, sy'n adlewyrchu sefyllfa bywyd sifiliaid.
Cynhaliwyd Cyfarfodydd Athletau Blynyddol y Fyddin o 1876. Ar ôl amharodrwydd ar y dechrau i gofleidio'r gamp, sefydlwyd Pencampwriaethau Paffio'r Fyddin ym 1892. Roedd Pencampwriaethau Paffio'r Fyddin yn yr India wedi'u sefydlu erbyn 1912.

Tîm Paffio Ail Fataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, Hong Kong 1937

Caiff chwaraeon eu cynnwys o hyd yn yr hyfforddiant ffitrwydd rheolaidd ac mae unedau'n cynnal digwyddiadau chwaraeon yn gyson. Mae cystadleuaeth rhwng yr unedau mor llym ag erioed. Caiff milwyr eu hannog i feithrin diddordeb mewn chwaraeon, beth bynnag eu gallu, a chaiff gweithgareddau diddordeb lleiafrifol ac unigol eu hannog, gan gynhyrchu'n aml athletwyr 'elit' sy'n cystadlu ar y lefel uchaf.

Paffio Catrodol yn y 1990au

 

Ganwyd y codwr pwysau llwyddiannus Ray Williams yng Nghaergybi, Ynys Môn. Cafodd ei gyflwyno i godi pwysau yn Ysgol Uwchradd Caergybi ar ôl mynegi diddordeb cynnar mewn gymnasteg, ac enillodd wobr Personoliaeth Chwaraeon Ifanc y Flwyddyn ym 1977 yn dilyn llwyddiant yn y Pencampwriaethau Codi Pwysau Iau.
Ymunodd â’r fyddin ym 1979 gan wasanaethu gyda’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig tan iddo gael ei ddethol i ymuno â Chorfflu Hyfforddiant Corfforol y Fyddin ym 1984. 
Enillodd Ray Williams Bencampwriaeth Codi Pwysau Cymru ym 1983 a theitl y Cenhedloedd Celtaidd ym 1984. Yn ystod Gemau’r Gymanwlad yng Nghaeredin ym 1986 enillodd y fedal Aur gan guro David Lowestein o Awstralia a’i gyd-Gymro Jeffrey Brice.
Pedwerydd oedd Williams yng Ngemau’r Gymanwlad ym 1990 yn Seland Newydd, cyn ymddeol o’r gamp i barhau â’i yrfa 24 blynedd yn y fyddin, a aeth ag ef dros y byd i gyd.
Fodd bynnag fe’i denwyd o'i ymddeoliad yn 2002 pan ddaeth Gemau’r Gymanwlad i Fanceinion. Ag yntau’n 17 o flynyddoedd yn hŷn na’r cystadleuwyr eraill, daeth yn gyfartal â’r record byd feteran yn y dosbarth 40 i 45 oed.
Ym mis Ionawr 2003, ymddeolodd Williams o'r Fyddin a dychwelyd i Ynys Môn i hyfforddi codwyr pwysau ifanc a gweithio gyda Chyngor Chwaraeon Cymru. Aeth ag wyth o godwyr pwysau o’r gogledd-orllewin i Bencampwriaethau Cymru yng Nghaerdydd, gan ddychwelyd â phum medal aur, dwy fedal arian ac un fedal efydd. Yn yr un flwyddyn penodwyd Williams yn Hyfforddwr Codwr Pwysau Cenedlaethol cyntaf Cymru.

Ray Williams yng Ngemau’r
Gymanwlad ym 1990

Hyfforddodd Ray Williams Michaela Breeze a enillodd Fedal Aur yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2006 ym Melbourne, ac yn yr un flwyddyn enillodd Bencampwriaeth Meistri’r Byd yn ninas Bordeaux, Ffrainc, ac ef oedd Pencampwr Byd cyntaf Cymru erioed yn y gamp. Ar hyn o bryd mae ganddo athletwr sy'n agos iawn at gymhwyso i gystadlu yng Ngemau Olympaidd 2012.
Er 2008 mae Ray wedi bod yn codi arian i ddarparu cyfleuster newydd o’r radd flaenaf i athletwyr yng Nogledd Cymru.
Mae Ray yn cofio ar ôl iddo ennill ei Fedal Aur yng Ngemau’r Gymanwlad ym 1986 iddo ddeffro drannoeth a derbyn y cyntaf o nifer o delegramau’n ei longyfarch. Roedd wedi dod gan y Gatrawd oedd ar y pryd yn gwasanaethu yng Ngogledd Iwerddon. Roedd yn darllen “… llongyfarchiadau mawr ar dy gamp aruthrol yn ennill y Fedal Aur. Edrychom ni ar bob teledu posibl oedd ar gael!...” Dywed fod darllen y telegram wedi golygu llawn cymaint â’r Fedal Aur. “Byddaf i’n Ffiwsilwr Brenhinol Cymreig am byth ac mae gennyf i lawer o atgofion pleserus iawn o fy nghyfnod yn y Rhengoedd.”

Ganwyd John O’Hara yn Iwerddon a dechreuodd ei yrfa filwrol pan gafodd ei gomisiynu’n Is-Lifftenant yn y 95ed Catrawd Troed ar 21 Medi 1872. Ym mis Rhagfyr 1873, trosglwyddodd O’Hara i’r 23ain Catrawd Troed (Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig) yn y gobaith o gael ei anfon i ymladd yn Ymgyrch Ashanti.  Yn lle hynny cafodd ei anfon i’r Pencadlys, ac yn dilyn hynny ymunodd â’r Ail Fataliwn yn Gibraltar in 1874.
Yn ôl y cofnodion, ildiodd O’Hara ei gomisiwn ym mis Mehefin 1876 oherwydd pwysau ariannol a daeth yn fatador yn y cylch teirw yn Sbaen.
Mae’n debyg i ymladd teirw ddechrau yn Sbaen yn ystod yr 800 mlynedd y parhaodd Rhyfel Ailgoncwest Sbaen (711-1492).  Byddai Mwriaid a Christnogion yn trefnu cyrchoedd hela i gael saib o’r lladd. Yn fuan fe sylweddolwyd mai’r her fwyaf o blith yr holl anifeiliaid a gâi eu hela oedd y tarw Iberaidd oherwydd bod yn well ganddo farw wrth frwydro yn hytrach na dianc.
Heddiw fel arfer mae ymladdfa teirw’n cynnwys chwe tharw a thri matador yn eu ‘siwtiau goleuni’ eiconig. Mae’r matadors yn cyfarch pob tarw unigol â chyfres o basiau gyda chlogyn mawr a elwir yn ‘verónicas’ (a enwyd ar ôl y wraig a estynnodd liain i Grist ar ei ffordd i’w groeshoelio). Yn dilyn hyn cyflwynir y ‘picadors’ ar gefn ceffylau, sy’n gwanhau ac yn gwylltio’r tarw drwy ei drywanu cyn i’r ‘banderillos’ ddod i mewn ar droed a gwthio eu ‘banderillas’ (ffyn lliwgar â bachau) i ysgwyddau’r tarw er mwyn gwneud iddo ostwng ei ben yn barod am y lladdfa. Dechreua’r ‘Faena’ neu’r cam olaf gyda’r matador yn dangos ei fedr a’i ddewrder gyda rhagor o basio cyn yn y pen draw lladd y tarw, oni bai ei fod ef ei hun yn cael ei ladd neu ei anafu.
Does dim modd gwybod sut yr aeth O’Hara i’r proffesiwn, ond yr awdur cyntaf i son amdano oedd Sanchez de Neira, a ysgrifennodd y gwyddoniadur cyntaf am ymladd teirw. Dywedodd fod O’Hara yn ymladdwr teirw o ansawdd isel a ddaeth yn fatador ar ôl gwylio gornestau tarw yn San Roque ac Algeciras.  Byddai milwyr Prydeinig oedd wedi’u lleoli yno yn dod i weld y sioeau hyn, a byddai posteri cylch teirw Algeciras yn cael eu cyhoeddi yn Saesneg a Sbaeneg.
Mae’n debyg i yrfa O’Hara ddechrau ym 1874 mewn cylchoedd teirw yn ardal Andalucia a Barcelona a’r cyffiniau. Ym mis Awst 1876 ymddangosodd yn Seville, gyda’r gynulleidfa’n aros yn eiddgar am ymddangosiad y Gwyddel yng nghylch teirw Maestranza – un o’r enwocaf drwy’r byd. Yn anffodus cyhoeddodd y wasg leol adolygiadau digon anffafriol o’i berfformiad.
Chafodd O’Hara ddim ei ddigalonni ac aeth ymlaen i ymladd eto ym Malaga ar 20 Awst ac yn Los Campos Eliseos ar 10 Rhagfyr. O hynny ymlaen ychydig o’i hanes sy’n wybyddus, ar wahân i’r ffaith iddo ymladd yn Alicante ym 1877, gyda phapur lleol yn ei ddisgrifio fel “gŵr bonheddig hardd a dewr ond na wyddai fawr ddim am ymladd teirw.”
Un o gyfoeswyr Prydeinig O’Hara oedd y Cadfridog Smith-Dorrien a ddisgrifiodd mewn un adran o’i atgofion sut y cyfarfu ag ef yn ninas Cork ym 1877: “Un diwrnod ymddangosodd unigolyn oedd braidd yn frau ei benelinoedd yn y mess ac erbyn deall roedd yn unigolyn nodedig iawn. Roedd wedi bod yn swyddog yn y Gatrawd (95ed Troed) ond roedd yn brin o’r hyn oedd ei angen arno i fwynhau bywyd ac fe’i gorfodwyd i gyfnewid â Chatrawd arall (23ain Troed).
Gibraltar bellach oedd ei orsaf newydd ac roedd peryglon a melltith diffyg arian yn dal i’w boeni. Gadawodd y fyddin ac aeth yn fatador. Fe gofiaf iddo ddangos â balchder cynffon gwallt y matador wedi’i blethu’n daclus a’i rowlio ar gorun ei ben.”
Mae Cofnodion Catrawd y 95ed a’r 23ain yn dangos sut yr ymrestrodd O’Hara yn y marchoglu a dod yn rhingyll hyfforddwr mewn gymnasteg cyn ymuno â’r Cape Mounted Rifles.  Fodd bynnag ceir gwahaniaeth rhwng y ddau gofnod yn eu disgrifiadau o’r modd y bu farw. Yn ôl Cofnodion y 95ed bu farw yn Alexandria ddiwedd y 1890au, ond mae cofnodion y 23ain yn disgrifio sut y “bu farw O’Hara wrth ymgymryd â’r hyn a elwir yn skylarking ar drên rhwng Dover a Llundain. Roedd wedi dringo ar do trên oedd yn symud ac fe’i trawyd gan bont yr oedd yn pasio oddi tani.”

Roedd Fred Leonard Perrett yn Brop Rygbi Rhyngwladol rhagorol i Gymru oedd yn chwarae i Glwb Rygbi Castell Nedd.
Ganwyd Perrett yn Llansawel, De Cymru a bu’n chwarae i ddechrau i’w glwb lleol cyn ymuno â Chastell Nedd.
Ar ôl nifer fach o gemau i Gastell Nedd cafodd ei ddethol ar gyfer XV Cymru gan ennill y cyntaf o’i bum Cap ym mis Rhagfyr 1912 yn erbyn tîm a deithiodd o Dde Affrica. Daeth Cymru’n agos ati ond enillodd y Springboks gydag un gic gosb.
Dewiswyd Perrett i chwarae i Gymru ym Mhencampwriaeth Pum Gwlad 1913. Collodd Cymru’r gêm gyntaf yn erbyn Lloegr ond enillodd y tair gêm arall i ddod yn ail.
Ym mis Medi 1913 trodd Perrett yn broffesiynol gan ymuno â chewri Rygbi’r Gynghrair, Clwb Rygbi’r Gynghrair Leeds.

Pan dorrodd y Rhyfel Byd Cyntaf ym 1914 ymrestrodd Perrett â’r Gwarchodlu Cymreig a gwasanaethodd yn Ffrainc o 19 Chwefror 1916. Ym mis Mehefin 1917 cafodd ei gomisiynu’n Is-lifftenant a’i anfon at 17eg Bataliwn (Gwasanaeth) Ffiwsilwyr Brenhinol Cymru ym mis Hydref 1917.
Daeth lwc Perrett i ben wythnos cyn y Cadoediad a chafodd ei glwyfo’n ddifrifol ar 4 Tachwedd 1918. Bu farw, yn 27 oed, mewn Gorsaf Clirio Anafiadau ar 1 Rhagfyr. Mae wedi’i gladdu ym Mynwent Brydeinig Terlincthun yn Wimille yn Ffrainc.

Ganwyd Latham, oedd yn bêl-droediwr a hyfforddwr proffesiynol yn y Drenewydd, Powys.
Ar ôl gwasanaethu yn y rhengoedd yn ystod Rhyfel De Affrica, ymunodd George Latham â Chlwb Pêl-droed Lerpwl o’i glwb cartref yn y Drenewydd ym 1902. Ymddangosodd am y tro cyntaf ar 8 Ebrill 1905 pan drechwyd Burslem Port Vale 8-1 yn Anfield mewn gêm yn yr Ail Adran.
Chwaraeodd gyfanswm o ddeunaw o gemau i Lerpwl ynghyd ag un ymddangosiad yng Nghwpan yr FA. Yn ogystal, enillodd Latham ddeg o gapiau i Gymru, gyda'r cyntaf yn erbyn yr Alban ym 1905.
Roedd ei gêm ryngwladol olaf ar 18 Ionawr 1913 yn erbyn Iwerddon yn ninas Belfast yn un rhyfedd gan iddo deithio gyda’r tîm fel hyfforddwr, ond yn y pen draw bu’n rhaid iddo chwarae yn y tîm mewn buddugoliaeth un gôl.
Pan enillodd Caerdydd Gwpan Cymru ym 1912 chwaraeodd Latham yn y rownd derfynol ac ar ddiwedd y gêm gwnaeth gamp unigryw drwy gyflwyno ei fedal i Bob Lawrie oedd wedi colli’r gêm oherwydd anaf.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd Latham ei gomisiynu’n swyddog yn Seithfed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, gan wasanaethu yn y Dwyrain Canol. Esgynnodd i  reng Capten a dyfarnwyd y Groes Filwrol iddo am ei wrhydri yn Gaza ym 1917 a Bar i’w MC ym 1918. Enillodd Seithfed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig Gwpan Cynghrair Pêl-droed (yr Aifft) Lluoedd Prydain ym 1919.
Dychwelodd Latham i Ddinas Caerdydd yn hyfforddwr ac ef oedd y tu ôl i awr odidocaf y clwb - curo  Arsenal 1-0 yn Rownd Derfynol Cwpan yr FA ym 1927. Ef yw’r hynaf i chwarae am y tro cyntaf i Gaerdydd yn y Gynghrair, gan wneud hynny ym 1921, yn 41 oed, yn erbyn Blackburn, pan oedd dau o chwaraewyr Caerdydd  yn sâl. Ef hefyd a reolodd dîm Prydain yng Ngemau Olympaidd 1924.
Ymddeolodd Latham ym 1936 a bu farw ym 1939.  Fel arwydd o barch yn ei dref enedigol, mae stadiwm Clwb Pêl-droed Athletig y Drenewydd, Parc Latham, wedi’i enwi er anrhydedd iddo.

Pêl-droediwr rhyngwladol o Gymro oedd George Harold Beadles. Ganwyd Beadles yn un o saith o blant yn Llanllwchaiarn ar gyrion y Drenewydd Powys i Thomas, oedd yn chwarelwr, a Sarah Ann Beadles.

Yn blentyn mynychodd Ysgol Bwrdd leol ond gadawodd yn ddeuddeg oed i weithio fel ffariar. Roedd ei frawd Albert hefyd yn gweithio yn yr un warws ond fe’i lladdwyd ar ôl cael ei daro gan un o'r troliau a ddefnyddid yno.
Ym 1914, ymrestrodd Beadles, oedd ar y pryd yn 16 oed, gyda’i ddau frawd hŷn Ewart ac Ernie, yn Seithfed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Tra’r oedd ei fataliwn wedi’i lleoli ym Mhrydain, roedd Beadles yn fiwglwr ond ym 1915 anfonwyd y Seithfed Bataliwn i Gallipoli a threuliodd Beadles gyfnod ar y llinell flaen. Yn ystod y cyfnod hwn dyfarnwyd iddo Fedal Aur Serbia am Ddewrder ar ôl achub bywyd swyddog arsylwi Serbaidd oedd wedi’i anafu yn Nhir Neb.
Ym mis Rhagfyr 1915 tynnwyd lluoedd y Gynghrair allan o Gallipoli. Canfuwyd Beadles yn arnofio'n anymwybodol yn y môr ac fe’u hanfonwyd i ynys Malta i ddod ato’i hun. Ar ôl gwella ailymunodd â’i fataliwn ym Mhalestina a chymerodd ran yn y tair brwydr am Gaza a’r ymgyrch olaf a gipiodd Jerwsalem dan Edmund Allenby.  (Yn ystod ail frwydr Gaza dyfarnwyd yr MM i’w frawd Ewart).
Arhosodd y Seithfed Bataliwn ym Mhalestina tan 1919 a dyna pryd y cyfarfu â phêl-droediwr talentog arall, George Latham a daeth y ddau yn gyfeillion oes. Enillodd Seithfed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig Gwpan Cynghrair Pêl-droed (yr Aifft) Lluoedd Prydain ym 1919.
Ar ôl dychwelyd i’r Drenewydd yn dilyn dadfyddino, chwaraeodd Beadles i glwb y dref o 1919 i 1920 ac yna symudodd i Lannau Mersi i chwarae i dîm amatur o’r enw Grayston’s of Garston, oedd yn cynrychioli cwmni llongau lleol. Er ei fod wedi’i gyflogi’n swyddogol gan y cwmni, mae’n ymddangos fod mwy o ddiddordeb gan Grayston’s yn ei sgiliau pêl-droed!  Ym 1921 llofnododd i Glwb mawr Lerpwl gan sgorio chwe gôl mewn un gêm ar ddeg pan enillodd Lerpwl y Gynghrair am y tro cyntaf mewn un ar bymtheg o flynyddoedd. Roedd Lerpwl yn gryf iawn gan ennill y teitl eto y tymor canlynol.
Ym 1924 ymunodd Beadles â’i hen gyfaill a mentor o’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, George Latham, oedd yn hyfforddwr yn Ninas Caerdydd. Tra’r oedd yn chwarae i Gaerdydd enillodd Harry ddau gap i Gymru gan chwarae mewn dwy gêm yn olynol ar 14 a 28 Chwefror 1925 yn erbyn yr Alban a Lloegr. Roedd yn rhan o’r tîm a gollodd rownd derfynol Cwpan yr FA 1-0 i Sheffield United ym 1925.  Ar ôl cyfnod byr yn Sheffield Wednesday ymunodd â Southport ym 1926.  Beadles oedd y capten a phrif sgoriwr ym mhob un o’i dri thymor gan sgorio chwe deg chwech o goliau mewn 102 ymddangosiad. Terfynwyd ei yrfa fel chwaraewr gan anaf, ond treuliodd gyfnod byr yn hyfforddi yn Iwerddon gyda Dundalk FC cyn ymddeol o bêl-droed.
Yn ôl ar Lannau Mersi treuliodd gyfnod byr yn swyddog carchar yng Ngharchar Walton. O 1939 ymlaen bu’n cadw gwesty yn Hillside yn Huyton ac erbyn diwedd y ‘40au roedd yn rhedeg tafarn o’r enw The Cannon ger Anfield. Ar ôl salwch hir bu farw ar 29 Awst yn 60 oed.

Roedd Howell Lewis, a anwyd ym Mhontardawe, Sir Forgannwg, yn asgellwr rhyngwladol i Gymru oedd yn chwarae rygbi i Abertawe ac a enillodd bedwar cap i'w wlad.
Ymunodd Lewis ag Abertawe ym 1910 ac roedd yn rhan o'r tîm a gurodd dîm teithiol De Affrica ym 1912. Enillodd Abertawe'r gêm gydag un cais er bod Lewis i ffwrdd o'r cae am chwarter y gêm ar ôl castiau o du'r Springboks. Yn y dyddiau hynny nid oedd hawl i eilyddio felly mae'r ffaith i'r tîm ennill yn fwy fyth o gamp. Dychwelodd Lewis i'r cae yn y pen draw ar ôl ugain munud i orffen gêm.
Roedd ei gêm gyntaf i Gymru, ar 1 Chwefror 1913, yn erbyn yr Alban, fel rhan o Bencampwriaeth y Pum Gwlad. Enillodd Cymru 8-0 a chafodd Lewis ei ail-ddewis am weddill y gemau yn erbyn Ffrainc ac Iwerddon, gyda'r Cymry'n fuddugol yn y ddwy gêm. Ei gêm ryngwladol olaf oedd yn erbyn Lloegr ym 1914, pan gollodd Cymru gêm agos yn Nhwickenham.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf cafodd Lewis ei gomisiynu i Seithfed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a'i anfon ar wasanaeth gweithredol ym mis Awst 1916. Fis yn ddiweddarach fe'i anafwyd pan oedd gyda chriw yn palu ffos. Dychwelodd at ei fataliwn ar ôl gwella a'i ddyrchafu'n Is-gapten ym mis Gorffennaf 1917. 
Ar ôl y rhyfel dychwelodd Lewis i arwain Abertawe yn ystod tymor 1919/20 ac ar ddiwedd y tymor hwnnw, ymddeolodd o rygbi. Bu farw yn nhref Guildford yn 83 oed

Gyda’r cyfenw Basham roedd yn anochel y byddai John Michael yn baffiwr. 
Fe’i ganwyd i gyfuniad o rieni Gwyddelig a Seisnig yng Nghasnewydd, Sir Fynwy (Gwent bellach) ym 1889, ac roedd bywyd yn galed i Johnny ifanc, oedd yn un o wyth o blant a fagwyd gan Edward ac Ellen Basham.  I ategu incwm ei rieni, byddai Johnny yn gwerthu papurau newydd yn droednoeth ar strydoedd Casnewydd cyn esgyn i fod yn “fachgen Sbâr” yn y gwaith gwydr a photeli lleol lle byddai’n cludo cwrw i’r gwneuthurwyr poteli. Yn ystod y shifft nos fe’i sefydlodd ei hun yn fuan mewn gornestau byrfyfyr, yn gwisgo hen fenig paffio, ac fe’i perswadiwyd i gystadlu yn y bythau paffio oedd yn cael eu rhedeg gan yr enwog Jack Scarrott.
Yn bennaf byddai’n ymladd am fedalau a thlysau, gan hyfforddi yng Nghlwb y Gweithwyr Crindau ac yn fuan roedd “Basham Ifanc o Crindau” wedi curo’r holl dalent leol. Yn ffodus cafodd gefnogaeth y Capten Evans o Gas-gwent, oedd yn ddirprwy gyda Gwirfoddolwyr Sir Fynwy, oedd yn gallu trefnu gornestau gwell, mwy o faint. Ddydd Calan 1910, yn Neuadd Ymarfer Casnewydd, yn ei ornest broffesiynol gyntaf, cafodd Johnny ei guro’n anymwybodol yn y rownd gyntaf gan Fred Dyer.  Dros y misoedd nesaf rhannol oedd llwyddiant Johnny, ond ym 1911 gwnaeth benderfyniad a fyddai’n newid ei fywyd ac ymunodd â’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn eu Pencadlys yn Wrecsam, Gogledd Cymru.
Mewn sawl ffordd Wrecsam oedd y mwyaf Seisnig o blith trefi mawr Gogledd Cymru, er bod iddi leiafrif mawr o siaradwyr Cymraeg. Dros y pymtheng mlynedd nesaf Wrecsam fyddai cartref Basham, dyma lle byddai’n priodi ac yn gwneud y mwyafrif o’i hyfforddi ar gyfer ei ornestau pwysicaf. Yn arwyddocaol, roedd Wrecsam hefyd yn agos i Stadiwm Lerpwl, prif gyrchfan paffio gogledd Lloegr.
Roedd swyddogion y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn ystyried paffio’n gamp wyddonol ac iachus. Roedd yr Uwch-gapten R E P Gabbett, CO Canolfan Wrecsam, yn hapus i ganiatáu i Basham ymladd mewn gornestau yn y Barics a’r Neuadd Ymarfer gan fod buddugoliaeth yn adlewyrchu’n dda ar y Gatrawd. Wrth i ddiddordeb mewn paffio gynyddu yn ystod y 1890au, cafodd neuaddau a chlybiau eu hadeiladu lle gallai gwylwyr fwynhau’r ornest yn gysurus. Y mwyaf mawreddog o’r rhain oedd y Clwb Chwaraeon Cenedlaethol yn Covent Garden, Llundain, a ddatblygodd swyddogaeth flaenllaw yn y byd paffio ym Mhrydain pan sefydlodd yr Arglwydd Lonsdale, y Llywydd cyntaf, y Gwregysau Lonsdale cyntaf i enillwyr teitlau o Brydain. Os oedd pencampwr yn llwyddo i amddiffyn y teitl dair gwaith, byddai'r gwregys yn dod yn eiddo personol iddo, ynghyd â phensiwn bach pan fyddai'n cyrraedd hanner cant oed. Cwmni  Mappin and Webb gynlluniodd y gwregysau am gost o £250 yr un. Y cyntaf i ennill gwregys oedd Freddie Welsh o Bontypridd pan gurodd Johnny Summers yn y Clwb Chwaraeon Cenedlaethol ym 1909.
Erbyn 1913 roedd Johnny Basham, neu “The Happy Warrior” neu “The Fighting Fusilier” fel y’i hadwaenwyd, yn gwneud enw iddo’i hun yn y byd paffio. Hefyd priododd Winifred Trader yn Eglwys Gadeiriol Gatholig Wrecsam ar 12 Awst 1913.
Naw diwrnod yn ddiweddarach, camodd Basham i’r cylch gyda’r paffiwr o Dde Affrica, Harry Price.  Ar ôl un rownd ar ddeg, gyda Price yn gorwedd yn anymwybodol ar y cynfas, edrychodd y gynulleidfa’n syn wrth i Basham gael ei hebrwng o’r cylch i Orsaf Heddlu Dale Street lle cafodd ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol.  Ar ôl noson ddigwsg yn ei gell hysbyswyd Basham fod Price wedi marw o’i anafiadau. Yn y cwest y penderfyniad oedd i’r farwolaeth gael ei hachosi drwy anffawd a gan mai mewn gornest baffio y digwyddodd, na ellid rhoi’r bai ar Basham oedd yn rhydd i ailafael yn ei yrfa.
Yn dilyn cyfres o fuddugoliaethau nodedig, cafodd gyfle i ymladd am deitl Pwysau Welter Prydain, ym mis Rhagfyr 1914, yn erbyn yr ymladdwr grymus, Johnny Summers, oedd cyn hyn wedi dal y teitl pwysau plu a phwysau ysgafn. Ymladdodd Basham, oedd newydd gael ei ddyrchafu'n Rhingyll, yn rhagorol gan atal Summers yn y nawfed rownd, er iddo golli dant neu ddau tua dechrau'r ornest. Amddiffynnodd Johnny ei deitl Pwysau Welter sawl tro ac ym 1916 enillodd ei Wregys Lonsdale.
Yn ystod blynyddoedd cynnar y Rhyfel Byd Cyntaf a chyn cael ei anfon i Ffrainc, roedd Basham yn rhan o gorfflu elit Hyfforddwyr Corfforol y Fyddin dan arweiniad y Capten Bruce Logan.  Ar wahân i Basham roedd y tîm yn cynnwys Jim Driscoll, Jimmy Wilde, Bombardier Billy Wells, Pat O’Keefe a Dick Smith.  (Roedd Driscoll a Wilde yn gyn Bencampwyr Byd a daeth Bombardier Wells yn enwog fel ‘dyn y gong’ yn ffilmiau Rank). Adnabuwyd y tîm fel ‘y chwech enwog’ gan deithio Prydain yn ymladd unrhyw un a fynnai mewn sioe bwth paffio filwrol.                                                                                                                        
Heb yn wybod iddo, Johnny Basham oedd yn rhannol gyfrifol am anfon y bardd enwog, a’r cyd aelod o’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, Robert Graves, i’r Ffrynt. Roedd Graves wedi dysgu paffio yn ysgol Charterhouse, a chyfarfod â Basham oedd y catalydd i’w anfon i Ffrainc:
“...... roedd Johnny Basham, rhingyll yn y gatrawd, yn hyfforddi ar y pryd am Wregys Lonsdale. Ymwelais ag ef un noson pan oedd Basham yn cynnig ymladd tair rownd gydag unrhyw aelod o’r gatrawd - gorau po fwyaf … gofynnais a gawn roi tro arni. Benthycodd bâr o siorts i mi a chamais i’r cylch …. fe'i dailiais yn simsanu a'i daro ar draws y cylch. Daeth at ei hun a mynd amdanaf i, ond llwyddais i aros ar fy nhraed. Pan chwarddais, fe chwarddodd yntau. Cawsom dair rownd gyflym ac yn fonheddig iawn fe wnaeth i mi ymddangos yn well paffiwr nag wyf i mewn gwirionedd … cyn gynted ag y clywodd Crawshay yr hanes fe ffoniodd fi yn fy llety a dweud iddo glywed â phleser am fy mherfformiad … ac i ddangos ei werthfawrogiad y byddai’n rhoi fy enw ar ddrafft i Ffrainc ymhen wythnos.”
Robert Graves  Goodbye To All That 1929
Roedd Basham yn fwy ffodus na Graves.  Yn Ffrainc cafodd ei anfon i St Pol, lle’r oedd pencadlys y staff gymnasteg dan y Cyrnol Campbell, ac adnewyddodd ei gyfeillgarwch â Jim Driscoll.  Yn ei gofnod ffuglennol o fywyd ac amseroedd Jim Driscoll - “Peerless Jim Driscoll”, a gyhoeddwyd ym 1984, mae’r awdur Alexander Cordell yn disgrifio trafferthion bod yn hyfforddwr corfforol yn Ffrainc. Ar nifer o achlysuron, yn llawn diod a gwrhydri, byddai gwrthwynebydd ddwywaith maint yr hyfforddwr paffio yn methu â chadw ei ddyrnau iddo’i hun. Fodd bynnag un partner spario y byddai  Johnny Basham yn bendant yn ofalus ohono oedd EUB Tywysog Cymru, y darpar Frenin Edward VIII ac yn ddiweddarach Dug Windsor.  Ar ôl y sesiwn, daeth Ei Uchelder Brenhinol allan heb unrhyw anaf, a chan chwerthin, derbyniodd gynnig beiddgar Basham iddo: “Have a Woodbine, Sir?”
Er gwaethaf y cyfarfyddiadau brenhinol, cafodd cyfnod Basham yn y fyddin effaith niweidiol ar ei allu i baffio; gellid dadlau iddo golli pedair blynedd pan oedd ar ei orau i'r rhyfel. Fodd bynnag roedd ei record ar ôl y rhyfel ar y dechrau yn dda iawn, ac ym 1919 cafodd Basham ornest â Francis Charles, yr arwr Ffrengig a deiliad y Croix de Guerre.  Ddeng mlynedd yn ddiweddarach roedd  Charles yn ddall ac yn ddiymadferth, ond ym 1919 ef oedd pencampwr Pwysau Welter Ffrainc. Enillodd Basham yn hawdd ar bwyntiau, ac yn ddiweddarach, yn ei ymddangosiad olaf yn y Ganolfan Chwaraeon Genedlaethol curodd Fred Kay i ddod yn Bencampwr Pwysau Welter Prydain, Ewrop a'r Ymerodraeth.
Roedd yn anffodus fod Basham yn gyfoeswr i un o’r paffwyr gwirioneddol chwedlonol na lwyddodd i’w guro erioed. Ganwyd Gershon Mendelhoff i deulu o fewnfudwyr Iddewig o Rwsia yn nwyrain Llundain. Mabwysiadodd yr enw Ted “Kid” Lewis fel ‘nom de ring’ i guddio’r ffaith ei fod yn paffio rhag ei dad. Cafodd “Kid” Lewis yrfa ryfeddol gyda 282 gornest dros gyfnod o ugain mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwn enillodd naw pencampwriaeth bwysig. Ymhellach, brwydrodd am deitlau ar bob lefel pwysau, o bwysau plu i bwysau go-drwm.  Rhwng 1920 a 1929 ymladdodd Basham a Lewis bedair gwaith a phob tro cafodd Johnny gweir frawychus.
Ar ôl 1921 edwino fu hanes gyrfa Basham ond cafwyd un noson hudolus ar 31 Mai 1921 pan gurodd Gus Platts ar bwyntiau dros ugain rownd yn Neuadd Albert gan ddod yn Bencampwr Pwysau Canol Ewrop.
Mewn gwirionedd, dyma oedd penllanw gyrfa Johnny Basham ond fel cynifer o rai eraill o’i flaen, parhaodd i baffio. Wrth iddo gael ei guro’n amlach, dechreuodd yfed a dirywiodd ei iechyd. Treuliodd ddeng mlynedd olaf ei fywyd yn ôl yng Nghasnewydd lle daeth pobl y dref yn gyfarwydd â’i weld ar hyd y strydoedd ac yn y tafarnau. Ddydd Sadwrn 7 Mehefin 1947 cwympodd Basham yn farw yn ei gartref ym Mounjoy Place, ar ôl dioddef ffit mae’n debyg. Roedd yn 56 mlwydd oed.
Trwy gydol y dyddiau du cadwodd Johnny ei afael ar ei Wregys Lonsdale, ond ar ôl iddo farw penderfynodd ei weddw ei werthu. Credir fod y Gwregys bellach yn America, ond mae enw ei berchennog a’i leoliad ar hyn o bryd yn anhysbys.

Johnny Basham (1889-1947).  Yn y cerdyn post hwn sydd wedi’i lofnodi, gwelir Basham yn gwisgo ei Gwregys Lonsdale.

Pen ffon arian arysgrifenedig a gyflwynwyd i Johnny Basham.  Mae’r arysgrif yn dweud: “Presented by Lt Col H Jones Williams to Sergt J Basham  3rd Batt. RWF to commemorate his winning the Lonsdale Belt for the third time.  May 1st 1916.”

Ganwyd Martin Minter Kemp ym 1935 yn Aylesbury.  Ymunodd â'r Fyddin ym 1952 ac ym 1954 cafodd Gomisiwn gwasanaeth byr yn Ail Fataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Yna daeth yn Swyddog Rheolaidd yn y Fyddin. Fe'i dyrchafwyd yn Gapten ym mis Mawrth 1962 gan wasanaethu gyda'r Awyrlu Brenhinol yn yr Almaen, Siapan, Corea, Malaya a Singapore.
Cartref y Capten Minter Kemp oedd Plymouth ac roedd yn hwyliwr brwd. Hwyliai yn rheolaidd ar slŵp y Ffiwsilwyr Cymreig Shenkin ac arni cwblhaodd daith o 500 milltir ar ei ben ei hun i'r Iwerydd a thrwy wneud hynny cymhwysodd ar gyfer Ras Hwylio Trawsiwerydd yr Observer.
Ym 1966 llywiodd y cwch buddugol, Toria, badlong Trimaran 45 troedfedd, yn y Ras o Gylch Prydain. Ym mis Mehefin 1968 ymgeisiodd yn y Ras Trawsiwerydd Unigol â'r un cwch, a ailenwyd Gancia Girl, ar ôl ei brif noddwyr, y teulu Gancia, oedd yn enwog am eu gwinoedd. Gydag ef, aeth â radio tonfedd fer dwy ffordd Pye oedd yn chwyldroadol o ran ei gynllun, gan anfon adroddiadau ar ei gynnydd at yr Observer a'r Daily Express.
Hwyliodd Minter Kemp o borthladd Plymouth ar 1 Mehefin. Ar noson gyntaf y fordaith difrodwyd ei offer llywio a bu'n rhaid iddo aros yn y sedd lywio am y rhan fwyaf o'r ras. Ganol mis Mehefin, daliwyd y cystadleuwyr gan stormydd erchyll a fu'n ormod i nifer.  Yng nghanol rhyferthwy tymestl grym 9, dechreuodd Gancia Girl ogwyddo, ar ôl cael dŵr yn yr ochr starbord. “Roedd yr ochr starbord fwy neu lai dan ddŵr ... dan oleuadau'r dec roedd twll du i'w weld, lle'r oedd y gorddrws ôl, nad oeddwn i wedi'i ddiogelu'n iawn, wedi'i olchi i ffwrdd. Es i lawr i gorff y llong a dechrau gwagio'r dŵr. Erbyn 0330 roedd yn bosib i mi ddod allan .... a chael gwared â'r hyn oedd yn weddill gyda'r pwmp."
Cyrhaeddodd Minter Kemp Newport, Rhode Island ar 5 Gorffennaf ar ôl treulio 34 diwrnod, 13 awr a 55 munud yn cwblhau'r cwrs. Gorffennodd yn y seithfed safle, gan gyrraedd 8 diwrnod ar ôl y cwch buddugol, Sir Thomas Lipton, oedd yn cael ei hwylio gan Geoffrey Williams.  Adroddodd yr Observer “O'r holl rai a groesodd y llinell derfyn, Minter Kemp oedd y lleiaf blinedig yr olwg wrth iddo gamu i'r lan….”
Roedd ganddo ffydd lwyr yn y Trimaran -  “Chefais i ddim yr un ennyd o boeni am ddiogelwch y cwch. Fyddai'r un cwch arall ... wedi goroesi cael cymaint o ddŵr ynddo gyda chyn lleied o effaith i'w weld."
Cofnododd Gorchmynion Rhan 1 y Bataliwn ar 8 Gorffennaf 1968 bod llwyddiant Martin Minter Kemp “yn sefyll gyda'r llwyddiannau gorau gan unigolion yn y Gatrawd drwy gydol ei hanes hir"

Ricky Nicholson oedd y Pencampwr Byd cyntaf mewn unrhyw gamp o blith y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Yn ystod y 1990au gwasanaethodd yng Ngogledd Iwerddon a Bosnia, a daeth yn Is-gorporal. Yna bu'n gweithio gyda'r Tîm Recriwtio yn Wrecsam.

Cafodd y llysenw ‘The Tank’, a'i gamp oedd cic-baffio. Daeth yn Bencampwr Pwysau Uwch Griwser Ewrop WAKO.       . 

Daeth Nicholson yn Bencampwr Cic-baffio Pwysau Trwm Ysgafn y Gymanwlad ym 1996 ac amddiffynnodd ei deitl yn llwyddiannus ym 1997 a 1998.

Ym mis Medi 1999 cipiodd deitl Pencampwr Pwysau Uwch Drwm y Byd, gan guro'r gŵr o Lithwania Rolandus Digris a'i lorio ym mhumed rownd yr ornest am y teitl.

“Roedd y gŵr o Rwsia mor anferth roeddwn i'n gwybod y byddwn i'n gorfod ei flino'n gyflym" dywedodd Ricky  "ond po fwyaf y dyn, y caletaf y gwymp". Dywedodd Nicholson iddo orffen yr ornest heb ei anafu fawr ddim - ond na allai ddweud yr un peth am y Rwsiad. "Gadewch i ni ddweud na fydd yn cerdded yn rhwydd iawn am y ddeufis nesaf," dywedodd Ricky.

Roedd Robert Barclay Allardice, a adwaenwyd yn gyffredinol fel Capten Barclay, yn gerddwr, hyfforddwr paffio ac entrepreneur nodedig o’r Alban, a galwai ei gyfoedion ef ‘the celebrated Capt Barclay’.
Ganwyd Barclay ar 25 Awst 1779, yn Ury ger Stonehaven.  Ei dad oedd AS Kincardineshire.  Yn 18 oed, bu farw ei dad yn sydyn, ac etifeddodd Barclay ystad y teulu. Nid oedd ganddo dueddiadau academaidd ac roedd yn well ganddo fod yn yr awyr agored. Roedd hefyd yn meddu ar gryfder aruthrol. Er mwyn osgoi sylw nad oedd yn ei groesawu o du ei warcheidwaid, gadawodd Ury a mynd i Lark Hall, tŷ ar rent ger Caerfaddon.  Yno, drwy ei gyfeillion uchelwrol, darganfu Barclay hapchwarae, ymladd â dyrnau noeth a cherdded pellteroedd.
Mae ei gampau cerdded yn chwedlonol. Ym 1801 cerddodd 110 o filltiroedd mewn 19 awr 27 munud mewn parc mwdlyd. Ym 1802 cerddodd 64 o filltiroedd mewn 10 awr ac ym 1807 cerddodd 78 milltir dros ffyrdd bryniog mewn 14 awr.
Ym 1803 cafodd Barclay ei gomisiynu i’r 23ain Catrawd (Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig) fel Is-lifftenant. Daeth yn Is-gapten ym mis Tachwedd 1804. Ym 1806 trosglwyddodd, ar reng Capten, i Droedfilwyr Amddiffynwyr Nova Scotia ond ymddiswyddodd yn fuan a dychwelyd at Ail Fataliwn y 23ain.
Ym 1809 cyflawnodd Barclay ei gamp fwyaf - cerdded 1000 o filltiroedd ar gyfradd o 1 filltir yr awr am 1000 awr yn olynol i ennill bet o 1000 gini.
Wyth diwrnod yn ddiweddarach gadawodd Capten Barclay tenau iawn gyda’i gatrawd am arfordir yr Iseldiroedd, at aber afon Scheldt, sef y ffordd orau i gyrraedd Antwerp. Bu Barclay yn gweithredu fel Aide-de-Camp i’r Is-gadfridog  Marquis Huntly.
Bwriad cyrch Walcheren, fel y cafodd ei alw ar y pryd, oedd lleddfu’r pwysau ar gynghreiriaid Prydain yn Awstria yn erbyn Ffrainc dan Napoleon drwy agor ail Ffrynt. Ail fwriad oedd dinistrio llynges Ffrainc, y credwyd ei bod yn Flushing.  Roedd y cyrch yn anhrefnus ac wedi'i dynghedu i fethu o'r dechrau. Yr Arglwydd Castlereagh, y Gweinidog Rhyfel, oedd yn gyfrifol am gynllunio'r cyrch, tra bod gan George Canning, yr Ysgrifennydd Tramor, ran yn y gwaith o’i drefnu a’i staffio. Roedd y problemau’n waeth fyth oherwydd gwendid arweinydd milwrol dinod y cyrch, yr Uwch-frigadydd  John Pitt, Iarll Chatham.
O fewn dau fis roedd y llu wedi dychwelyd i borthladdoedd Ramsgate a Deal, gyda’r mynwentydd yn llawn cyrff - dangosodd yr adroddiadau swyddogol bod 40% o’r 40,000 o ddynion yn Llu Walcheren wedi’u colli, yn bennaf oherwydd salwch. Roedd y canlyniadau bron yr un mor syfrdanol. Ymddiswyddodd yr Arglwydd Castlereagh ac yna saethodd Canning mewn gornest - yn ei goes gyda’i ail ergyd! Ymddiswyddodd y Prif Weinidog hefyd a daeth Spenser Percival yn Brif Weinidog i arwain Prydain yn erbyn Napoleon Bonaparte oedd yn fwyfwy rhyfelgar.

Roedd Capten Barclay wedi cael digon ar y fyddin, ac o hyn allan byddai’n ei gyfyngu ei hun i ddim mwy na’i filisia lleol. Closiodd fwyfwy at galon ‘The Fancy’ – criw o uchelwyr gwyllt oedd yn hapchwarae dan arweiniad Tywysog Cymru.
Daeth Barclay yn hyfforddwr personol y paffiwr brawychus Tom Cribb.  Cafodd Cribb, oedd dros ei bwysau ac yn swrth, ei hebrwng i ystâd Barclay yn Ury cyn ei ail ornest â Tom Molyneaux ar gyfer Pencampwriaeth y Byd. Ar ôl dilyn cyfundrefn gaeth collodd Cribb ddwy stôn a hanner gan guro Molyneaux yn hawdd. Enillodd Barclay y swm rhyfeddol o £10,000 mewn betiau ochr.
Mewn blynyddoedd diweddarach, diflasodd Barclay a dychwelodd i ystad y teulu ond roedd yn ffermwr sâl a chollodd arian. Ar ôl nifer o hawliadau aflwyddiannus ar deitlau etifeddol dechreuodd fenter busnes newydd - The Defiance Stagecoach oedd yn rhedeg rhwng Aberdeen a Glasgow.  Unwaith aeth â Cherbyd Post Mawr Llundain yr holl ffordd i Aberdeen ar ei ben ei hun, gan eistedd yn sedd y gyrrwr am dri diwrnod a thair noson. Yn y pen draw methiant fu’r busnes oherwydd datblygiad y rheilffyrdd.
Bu farw’r Capten Barclay ar 1 Mai 1854 yn ei gartref yn Ury o gyfuniad o henaint, strôc, a chic yn ei ben gan geffyl yr oedd yn ei ddofi. Roedd bron yn 75 mlwydd oed.