Bookmark and Share
Rhannwch ein gwefan ar rwydweithiau cymdeithasol:
picture
 

Cwestiynau Cyffredin 

Cymraeg - English

Dyma ddetholiad o’r cwestiynau mwyaf cyffredin:-

Dyma’r hen sillafiad Seisnig o 'Welsh'. Dros y blynyddoedd mae’r ddwy ffurf wedi cael eu defnyddio, ac yn ystod Rhyfel y Boer a’r Rhyfel Mawr, y sillafiad swyddogol oedd 'Welsh'.
Ym 1920 cadarnhaodd Gorchymyn y Fyddin rhif 56 yn derfynol mai’r sillafiad swyddogol fyddai 'Welch'.

Dyma’r enw a roddir i’r pum rhuban du sy’n cael eu gwisgo ar gefn y coler.
Mae’r rhubanau’n gyswllt â’r dyddiau pan fyddai milwyr yn gwisgo plethi.
Byddai’r rhain yn cael eu powdro, eu hiro, ac er mwyn gwarchod y got goch, eu rhoi yn yr hyn a gâi ei alw’n fag cwt.
Ym mis Gorffennaf 1808 gorchmynnwyd y dylid torri gwallt yn agos at y gwar a gwaredwyd y gwt. Ar y pryd roedd y Bataliwn Cyntaf yng Nghanada. Fodd bynnag penderfynodd y swyddogion gadw’r rhubanau oedd yn clymu’r gwt.
Gan ddefnyddio hen derm slang am wallt gosod, galwyd y rhain yn 'Flash'.
Ym 1834, nododd Cadfridog oedd yn archwilio’r milwyr "yr addurn diangen ar goler y got” a gorchmynnodd y dylid tynnu’r Flash.
Pan soniwyd am hyn wrth y Brenin William IV, cafodd Cyrnol y Gatrawd lythyr yn datgan fod Ei Fawrhydi yn falch i gymeradwyo’r Flash fel “nodwedd i roi cymeriad i wisg y Gatrawd nodedig honno.”
Tan 1900 dim ond Rhingylliaid a Swyddogion fyddai’n ei wisgo

Daw’r enw o’r gair fusil - ffurf gynnar o fwsged carreg fflint a fyddai’n cael ei roi i filwyr elit yn unig i warchod y fagnelaeth yn ystod y frwydr. Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig oedd un o’r catrodau cyntaf i gael yr anrhydedd hon ym 1702, a’r unig un i barhau heb newid ei theitl nag uno â chatrawd arall hyd heddiw.
Er 1923 mae aelodau cyffredin y Gatrawd (‘Preifat’) wedi’u hadnabod yn swyddogol fel Ffiwsilwyr.

Nid oes cofnod yn bodoli sy’n nodi tarddiad arfer y Gatrawd o orymdeithio gyda gafr yn ei harwain.
Daw’r cyfeiriad cynharaf ym 1777: “Mae gan gatrawd Frenhinol y Ffiwsilwyr Cymreig yr anrhydedd balch o basio gyda Gafr o’u blaen â chyrn wedi’u heuro, ac wedi’i haddurno â chylchoedd blodau” a bod “y corfflu yn rhoi gwerth mawr ar hynafiaeth yr arfer.”
Ym 1844 cyflwynodd y Frenhines Fictoria yr Afr Frenhinol gyntaf, ac ers hynny mae’r mwyafrif o’r geifr wedi’u cyflwyno gan y Brenin neu’r Frenhines o blith y praidd brenhinol.
Mae gan bob gafr blât pen arian yn nodi ei bod yn anrheg gan y Brenin neu’r Frenhines.
Mae gafr y Bataliwn cyntaf hefyd yn gwisgo cadwyn arian a tharian am ei gwddf a gyflwynwyd gan Faer a dinasyddion Lichfield ym 1904.
Mae’r Afr yng ngofal milwr â’r teitl anrhydeddus Uwch-gapten yr Afr.

Cyn dyddiau ffyrdd a phontydd da, roedd angen cael dynion i baratoi’r ffordd i’r Gatrawd wrth iddynt ymdeithio a darparu gwasanaethau yn y gwersyll.
Y rhain oedd yr Arloeswyr oedd oll yn fasnachwyr a milwyr a gafodd eu dethol. I warchod eu ffurfwisg, byddent yn gwisgo ffedogau a menig lledr.
O’u safle ar ben y Gatrawd pan fyddai yn y maes, datblygodd traddodiad bod yr Arloeswyr yn ei harwain ar orymdeithiau seremonïol, gyda neb ond yr Afr Gatrodol o’u blaen.
Maent yn gwisgo ffedogau a menig bwchgroen, ac yn cludo eu hoffer traddodiadol: bwyelli, rhofiau, ceibiau a batogau.
Cymeradwywyd yr anrhydedd unigryw hon yn swyddogol ym 1886.

Go brin fod nawddsant Cymru, Dewi Sant, yn cael ei anrhydeddu mor seremonïol a rheolaidd yn unman ag ar 1 Mawrth lle bynnag mae’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn digwydd bod. Mewn cyfnodau o heddwch a rhyfel, gartref a thramor, caiff cennin eu gwisgo, a nodir y diwrnod, cyhyd â bod hynny’n bosibl, yn ddiwrnod o wyliau.
(Cliciwch ar y llun i’w chwyddo)
 

. Mae’r seremoni hynafol o fwyta’r genhinen yn Ystafell Fwyta’r Swyddogion wedi parhau’n ddigyfnewid dros y blynyddoedd. Cofnodwyd fod “… y swyddogion yn rhoi adloniant rhagorol i’w holl frodyr Cymreig, ac ar ôl i’r lliain gael ei chludo ymaith … mae’r band yn chwarae’r hen dôn “Hil Anrhydeddus Siencyn”, gyda drymiwr hardd, wedi’i wisgo’n urddasol, ar gefn yr afr sydd wedi’i haddurno’n gyfoethog ar gyfer yr achlysur, yn cael ei arwain dair gwaith o gylch y bwrdd mewn gorymdaith gan flaenor y drwm…” Er na chaiff ei marchogaeth bellach, caiff yr Afr ei harwain o gwmpas y bwrdd o hyd ar ôl cinio, gyda drymiwr yn ei dilyn, a phibyddion a blaenor y drymiau’n cludo plât arian ag arno gennin amrwd, a rhingyll yr ystafell fwyta â chwpan serch ag ynddo siampaen. Maent yn aros wrth yr is-swyddog mwyaf diweddar sy’n sefyll ar ei gadair, a chan osod ei droed dde ar y bwrdd, mae yntau’n bwyta cenhinen wrth i’r drymiwr chwarae, tan iddo gwblhau’r genhinen gyfan. Yna rhoddir y cwpan serch iddo ar gyfer y llwncdestun “a Dewi Sant”. Disgwylir i bawb sy’n bresennol nad ydynt wedi “bwyta cenhinen” gyda’r Gatrawd, gan gynnwys gwesteion, wneud hynny cyn i’r orymdaith ymadael.
Cynhelir seremonïau tebyg yn Ystafell Fwyta’r Rhingylliaid, a neuaddau’r rhengoedd eraill, lle mae’r milwr diweddaraf i ymuno â phob Cwmni’n bwyta cenhinen.

Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yw’r unig gatrawd ym Myddin Prydain, ac eithrio’r Gurkhas, i ddefnyddio iaith ar wahân i’r Saesneg. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd mwy nag un bataliwn yn defnyddio’r Gymraeg yn rheolaidd. Yn Burma, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd ei defnyddio i guddio bwriadau oddi wrth filwyr Japan. Ym 1995 defnyddiodd y Bataliwn Cyntaf yr iaith yn Bosnia. Y Gymraeg yw iaith gyntaf llawer o aelodau’r gatrawd.

Mae’r Amgueddfa bob amser yn falch i dderbyn gwrthrychau a dogfennau’n ymwneud â hanes y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Ac eithrio medalau cyrch, a gaiff eu harddangos, mae’r mwyafrif o’r eitemau a roddir yn cael eu gosod yn y casgliad wrth gefn lle cânt eu hastudio gan ymchwilwyr neu eu defnyddio mewn arddangosfeydd yn y dyfodol.


Cysylltwch â’r curadur am ragor o fanylion.