Bookmark and Share
Rhannwch ein gwefan ar rwydweithiau cymdeithasol:
picture
 

Erthyglau

Cymraeg - English

Mae gan yr Amgueddfa filoedd straeon i’w hadrodd - o brofiadau milwyr unigol i hanes bataliwn gyfan. Mae llawer o’r gwrthrychau sydd i’w gweld yn adrodd hanes cudd sy’n eu cysylltu â milwr, lleoliadau a digwyddiadau. Nid yw’n bosibl adrodd y straeon hyn i gyd o fewn yr Amgueddfa lle mae gofod yn brin.

Felly bydd eitemau o ddiddordeb penodol yn ymddangos yma, yn cael eu cyflwyno gan arbenigwyr yn ogystal â phobl sydd â diddordeb. Caiff straeon newydd eu hychwanegu’n rheolaidd felly dylai fod rhywbeth newydd i’w ddarllen bob amser. Os hoffech gyfrannu erthygl fer am wrthrych sy’n cael ei arddangos neu agwedd o hanes y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, cysylltwch â’r Curadur.

 

 

cylchoedd olympaidd
Mae gan y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig gysylltiadau â nifer o athletwyr llwyddiannus ac elit. Cyrhaeddodd rhai binacl eu llwyddiant yn ystod eu cyfnod o wasanaeth gyda'r Gatrawd; gosododd eraill seiliau eu llwyddiant diweddarach yn ystod eu gwasanaeth. I weld detholiad o'u straeon - cliciwch yma

 

GYDA’R 38ain ADRAN YN FFRAINC
Ysgrifennwyd y cofnod canlynol o frwydr Coedwig Mametz, sy’n nodedig am ei ddadansoddiad pwyllog o’r digwyddiadau, gan 18531 Rhingyll Thomas Phillips, Rhingyll Signalau gyda Chwmni C, 16eg Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. 
Mae’r ddogfen wreiddiol wedi’i rhoi i Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig drwy haelioni wyrion Thomas Phillips, Norman a Martin.

“GYDA’R 38ain ADRAN YN FFRAINC
Cyn yr ail wythnos ym mis Mehefin 1916, roedd yr Adran wedi bod yn dal y Llinell Brydeinig mewn sectorau o LAVENTIE i LA BASSEE.  Tua’r adeg honno, fe’i trosglwyddwyd i Adran Symudol. Roedd gwybodaeth yn gollwng ar hyd y llinell, a hyd yn oed yn y rhengoedd roedd yr ymwthiad arfaethedig yn cael ei drafod, ond lle (byddai’n digwydd), nid oedd neb yn gwybod. Yr unig ddarn o wybodaeth ddiriaethol oeddwn i’n gallu ei gael oedd bod cynulliad mawr o luoedd yn ALBERT. Pan dderbyniwyd y gorchmynion symud roeddem ni yn y llinell, a golygodd y cwtogi hwn ar gyfnod y bataliwn yn y ffosydd ein bod yn llawer mwy chwilfrydig. Paciom ni’n gyflym a dechrau gorymdeithio o LA GORGUE i RIBEMONT.  Wrth fynd tua’r de o ST POL roeddem ni’n gallu gweld tân enfawr gynau’n milwyr ni ar hyd ffrynt y frwydr. Arhosom ni yn OSTREVILLE, pentref bach gwledig. Roeddem ni’n cerdded yn ystod oriau’r tywyllwch. Ar hyd y llinell roedd y gynau’n eithriadol o brysur, gyda’r awyr ar hyd ffrynt y frwydr yn tanio. Yn OSTREVILLE cafodd y Bataliwn gwrs caled o hyffordd “yn yr ymosodiad” ac nid oedd angen tybied rhagor. Roedd yr hyfforddiant yn galed ac fe’i cwblhawyd mewn chwe diwrnod. O’r lle olaf hwn gorymdeithiom i RIBEMONT.   Roedd y llety’n wael ond yma, fel ym mhobman arall, des i o hyd i gert arall, oedd, gyda haen dda o wellt, yn wely da. Yn RIBEMONT roedd y Bataliwn dan orchymyn i symud â 15 munud o rybudd.

Tom Phillips fel Is-lifftenant yng Nghatrawd Cymru

Yn y lle hwn gwelsom ein ciwed gyntaf o garcharorion y Boche yn y gawell. Dim ond am un noson yr arhosom ni yn RIBEMONT.  Am hanner dydd y diwrnod canlynol fe’n hanfonwyd ar frys i atgyfnerthu, gan adael yr holl git oedd dros ben ar ein holau. Ar ôl rhai oriau o orymdeithio daeth tywyswyr o Gatrawd Staffordshire i gwrdd â ni, ac yn y pen draw roeddem yn atgyfnerthu’r llinell o ffosydd Almaenig oedd newydd eu meddiannu o flaen FRICOURT, pentref a ddinistriwyd yn llwyr y diwrnod cynt gan ein Magnelwyr. Am y pum diwrnod canlynol meddiannom ni’n ffosydd hyn, ac erbyn hyn roedd yr Adran wedi cymryd lle’r lluoedd oedd wedi cipio’r tir hwn.
Dioddefodd y Bataliwn anafiadau ysgafn yn yr ardal hon, ac ar ddiwedd yr ymdaith, symudodd yn ôl at safle lle codwyd gwersyll dros dro. Codwyd llochesi brys o gynfasau tir, a bu’n bwrw glaw yn drwm. Y diwrnod canlynol gorchmynnwyd ni i symud ymlaen eto, a chymerom ni le’r 15fed Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn y llinell flaen, sef system o ffosydd hanner milltir o flaen  FRICOURT.  Arhosom ni yn y ffosydd hyn am bedwar neu bum diwrnod, er bod disgwyl llu i gymryd ein lle, mewn gwirionedd fe’i trefnwyd ond yna cafodd ei ganslo, a chawsom orchymyn ar noson y 9/10fed i gipio Coedwig Mametz. Gyda’r nos Sul 10 Gorffennaf cafwyd neges gan y Swyddog Gorchmynnol Cyffredinol, parthed pwysigrwydd enfawr cipio’r goedwig hon, ac mai cyfrifoldeb yr Adran Gymreig oedd cynnal traddodiadau Byddin Prydain ac ennill anrhydedd anfarwol iddi ei hun, a dyna a wnaeth. Roedd yn 10.00 PM pan alwyd yr holl swyddogion ar frys i gynhadledd lle trafodwyd y dull ymosod yn llawn.  Roedd trefn y Cwmnïau fel a ganlyn:
Cwmnïau “B” a “D” gyda chefnogaeth “C” a “A”, yr estyniad dros ffrynt o 200 llath a symud ymlaen mewn tonnau olynol. Anerchodd y Cyrnol Carden, y rhoddwyd y dasg enfawr hon iddo, y dynion cyn mynd i’r frwydr gan ddweud “Fechgyn, gwnewch eich heddwch â Duw; rydym ni am gipio’r safle yna, ac mae rhai yn ein plith na ddaw’n ôl.”
Dros yr ychydig oriau nesaf, ychydig iawn o amser oedd gan i neb orffwys, ac yn y pen draw bu’n rhaid prysuro’r trefniadau. Am 2.30 AM ar 10 Gorffennaf cynullwyd y Bataliwn mewn trefn estynedig allan o’r ffosydd, gan orwedd yn wastad tan 5.00 AM.  Yn ystod y 2½ awr hyn, roedd rhu ein gynau’n fyddarol gyda gweithrediadau’r gynwyr peiriant yn ychwanegu at y sŵn. Roedd y tensiwn yn fawr hyd nes i ni gael y gorchymyn i symud ymlaen am 5.00 AM.
Roedd hi wedi gwawrio ac roedd golau dydd yn prysur agosáu, gan ganiatáu i ni weld y tir roedd rhaid i ni ei groesi. Dringom yn araf i fyny’r gefnen o flaen y Ffos Wen (oedd yn enw addas gan iddi gael ei chloddio o galch) ac o fewn 10 munud pasiwyd gorchymyn llafar o’r dde i symud yn ôl. Doedd neb yn gwybod o ble’r oedd y gorchymyn hwn wedi dod, ond yn amlwg daeth o 14eg y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig gan eu bod ar y dde i ni. Roedd Cwmnïau “B” a “D” wedi mynd yn rhy bell ymlaen i allu cyfathrebu’r gorchymyn iddynt. Mae’n debyg, pe bai wedi eu cyrraedd, na fyddai’r Cyrnol Carden  di-ofn a dewr wedi gweithredu arno gan ei fod yn benderfynol o gyrraedd y goedwig. Fodd bynnag gorfodwyd swyddogion Cwmnïau “A” a “C” i ddychwelyd i’r ffos ymgynnull yn ôl y gorchymyn hwn. Cafwyd gorchymyn i danio cyn gynted ag yr oedd y Boche yn ymddangos. Roedd eiliadau’n teimlo fel munudau, a munudau fel oriau. Maes o law gwelsom y Boche, ond yn anffodus, heb arfau ac â’u dwylo i fyny, gydag un neu ddau o Tommies yn eu hebrwng. Roedd y carcharorion hyn wedi’u cipio gan Gwmnïau “B” a “D”. Chwifiodd un o’r hebryngwyr ei fraich fel arwydd i symud ymlaen eto a neidiodd pawb allan o’r ffos heb aros am orchymyn penodol gan yr uwch swyddogion. Roedd hyn yn dangos dewrder greddfol y Tommy Prydeinig a phenderfyniad unigol i gyflawni’r amcan. Aethom yn ein blaen un ar ôl y llall drwy danio trwm gan y Boche, ac ar ochr arall y grib roedd arglawdd serth oedd yn cynnig maes tanio da i ynwyr peiriant y gelyn. Dwyf i ddim yn cofio mynd i lawr yr arglawdd hwn gan fy mod yn canolbwyntio cymaint ar y dasg a roddwyd i mi. Fi oedd yn gyfrifol am gyfathrebiadau’r 113 Brigâd.
Ein hamcan cyntaf oedd cyrraedd y goedwig, ac at ddibenion aildrefnu, ceisio cysgod naturiol ym mhlygiadau’r tir. Ar y cam hwn saethodd y gelyn  fomiau ffrwydrol a ffrwydrodd ryw 100 llath yn fyr. Digalonnwyd y llu gan y ffrwydrad sydyn o fflamau oedd yn estyn o’r man ffrwydro, 200 troedfedd i fyny, at y llawr, gan nad oedd neb o’r Bataliwn wedi clywed amdanynt cyn hyn. Anafwyd y Cyrnol Carden yn farwol o fewn 20 llath i’r goedwig. Ar ôl aros am ychydig aeth y llu ymlaen i’r goedwig, gan fynd i mewn yn y pwynt agosaf, y gellir ei egluro drwy sôn amdano fel pig triongl. Ar y pwynt hwn roedd gan y Boche dri safle gynau peiriant a rhwystrodd hynny ni am ychydig. Deliwyd â’r magnelwyr hyn.
Gwthiom ni ymlaen tan i ni gyrraedd yr ail amcan. Es i o gwmpas y goedwig ac esgyn y llethr tan i orsaf ffôn y Frigâd flaen allu fy ngweld, ac wrth wneud hyn roedd rhaid i mi osgoi’r bwledi roedd saethwyr yn y coed yn eu saethu. Llwyddais, gyda chymorth fy signalwyr, i gynnal cyfathrebu drwy gydol y danchwa hon, a’r prif negeseuon oedd angen eu hanfon oedd i anfon mwy a mwy o gludwyr stretsier. Dioddefodd y Bataliwn tua 400 o golledion yn y frwydr hon, o 600 a aeth i’r ymladdfa.

Yr un noson, daeth bataliwn arall i gymryd ein lle, ac aethom ni’n ôl i ffordd suddedig o’r enw Queens Nullah, yn union y tu ôl i’r Ffos Galch. Roedd rhaid i ni fod ar y “qui Vive” drwy’r nos gan fod pob math o adroddiadau yn hedfan o gwmpas. Yn gynnar y bore wedyn roeddwn i’n dyst i un o’r munudau magnelaeth gorau i mi eu gweld erioed; Batri yn mynd i’r frwydr dan dân trwm. Gorffwysom ni yn ystod y dydd ar eu chwith, a threuliwyd ein hamser yn bennaf yn bwyta dognau’r Frigâd oedd wedi eu gadael gerllaw. Gwnaed cyfiawnder digonol â’r detholiad o gig moch, caws, bara, rỳm ac ati oedd yno, gan ein bod wedi bod ar fisgedi a dŵr yn ystod y 4/5 diwrnod y buom ni yn y ffosydd o flaen FRICOURT.  Nid oedd modd i’n trafnidiaeth ddod unman yn agos atom. Roeddem ni mewn cyflwr corfforol truenus iawn ar y 12fed, a gan ein bod wedi dioddef tanio mor drwm am nifer o ddyddiau a nosweithiau, doeddem ni ddim yn ystyried y tanio oedd yn ein herbyn y diwrnod hwn yn sylweddol iawn. Yn hwyr yn y prynhawn cyrhaeddodd gynau’r Boche yn ddigon agos gan danio ar Queens Nullah, ac achosi nifer o farwolaethau ymhlith yr ychydig ohonom oedd yn weddill. Dyma lle y llwyddais i fy hun i osgoi marwolaeth yn agos iawn ac yn lle hynny cael anaf yn fy mrest a’m coes, yn ogystal â chael fy ngwasgu gan gwymp.”
18531 Tom Phillips Cwmni  “C” , 16eg Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig

Thomas Phillips
Ganwyd 11 Tachwedd 1881 yn Llanelli.
Priododd Elizabeth Miller yn 1909.  Un mab ( William Growtage) a anwyd yn Wrecsam yn 1925
Ymrestrodd Thomas yn ystod wythnos gyntaf mis Rhagfyr 1914 a rhoddwyd y rhif Catrodol 18531 iddo. Roedd fwy na thebyg yn Filwr Wrth Gefn cyn y rhyfel ac felly mae’n bosibl iddo ddechrau’r rhyfel yn Is-gorporal (Rhingyll Gweithredol) gan fod hyn yn ymddangos ar ei Seren 1914-15. Cafodd ei bostio i 16eg Bataliwn (Gwasanaeth) y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.
Ym 1915 mynychodd Thomas yr Ysgol Signalau yng Ngwersyll Wyke Regis, Weymouth.  Cymhwysodd fel Hyfforddwr Signalau Cynorthwyol. Glaniodd yn Ffrainc gyda 16eg Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, yn gysylltiedig â’r 38ain Adran (Cymreig) ar 2 Rhagfyr 1915.
Cafodd enw Thomas Phillips ei gynnwys yn rhestr anafiadau’r Times dyddiedig 30 Awst 1916. Fel y dywed yn ei gofnod fe’i hanafwyd ar ôl tynnu’n ôl o Goedwig Mametz. Dychwelodd i’r DU. Ymddengys ei fod yn cael ei gydnabod yn ‘ddeunydd swyddog’ oherwydd cafodd ei gomisiynu fel Is-lifftenant o 2 Hydref 1916 ymlaen. Cafodd ei bostio i’r 18fed Bataliwn Catrawd Cymru ar 10 Hydref.
Ar 9 Ebrill 1917 Enwyd yr Is-gapten Phillips Mewn Cadlythyrau gan y Maeslywydd Syr Douglas Haig am wasanaethau gwrol a nodedig yn y maes.
Goroesodd y rhyfel a chafodd ei ryddhau, gyda rheng Is-gapten ar 23 Gorffennaf 1919.
Sefydlodd Thomas Phillips fusnes Haearnwerthwr yn Aberystwyth.  Ei ddiddordeb oedd pysgota, a daeth yn Bencampwr Pysgota Plu Cenedlaethol Cymru. Roedd yn aelod blaenllaw o’r gymuned, gan wasanaethu ar y Rotari a’r Gwasanaeth Tân Cenedlaethol. Pan fu farw ar 10 Hydref 1956, talwyd teyrngedau iddo gan Glerc Tref Aberystwyth ar ran y Cyngor Tref, a chan y Prif Gwnstabl, ymhlith eraill.


 

Stori Ryfeddol y Preifat William Ashley
Ar 19 Hydref 1914 symudodd y Seithfed Adran ymlaen i dref Menin mewn ymdrech i ail-gipio’r dref oddi ar yr Almaenwyr, ond bu’n rhaid iddynt dynnu’n ôl yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw oherwydd bygythiad 4edd Fyddin newydd yr Almaenwyr y tu ôl i’r ystlys chwith. Roedd Bataliwn Gyntaf y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig wedi bod ar flaen yr ymladd, ac wedi cyrraedd Klythoek, tua dwy filltir o Menin, ac roedd peth ffordd i fynd eto cyn cyrraedd ei safle dechreuol yn Broodseinde. Y diwrnod nesaf, adroddwyd bod un ar ddeg o Swyddogion Di-gomisiwn a dynion ar goll ac un o’r rhain oedd y Preifat 4553 William Ashley o Gwmni 'A', cynorthwyydd argraffu o Bollington yn Swydd Gaer, oedd wedi ymuno â Milwyr Arbennig Wrth Gefn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ar 22 Ionawr 1912, dri mis ar ôl ei ben-blwydd yn 17.

Dros y dyddiau nesaf, byddai llawer o ddynion eraill yn mynd ar goll. Byddai cyfrif am y mwyafrif ohonynt wrth i’w henwau ymddangos ar restrau carcharorion y byddai’r Fyddin Almaenig yn eu rhyddhau neu wrth i gymdeithion adrodd am eu marwolaethau. Ond roedd William Ashley yn dal ar goll.

Yna, tua diwedd mis Ebrill 1915, cafwyd ateb annisgwyl i’r llythyr arferol oddi wrth Swyddfa’r Rhyfel, yn holi tad Ashley a oedd wedi clywed unrhyw beth gan ei fab. Roedd yr ateb yn dod gan gyn gyflogwyr Ashley, sef Melin Adelphi and Clarence yn Bollington, ac wedi’i gyfeirio at Swyddfa Taliadau’r Fyddin yn yr Amwythig.
Mewn perthynas â’ch ymholiad ychydig ddyddiau’n ôl a oeddwn i wedi clywed unrhyw beth gan fy mab, hoffwn drosglwyddo’r copïau canlynol o ddau lythyr a gafwyd ganddo.
Thomas Ashley ei farc X


Mae copïau teipiedig o’r ddau lythyr yn dal i fod yn ffeil bersonol Ashley. Roedd un oddi wrth gŵr o wlad Belg,  Monsieur N. Demars, oedd wedi dianc rhag meddiannaeth yr Almaenwyr ac wedi’i gadw yn Sas van Gent yn yr Iseldiroedd. 

22 Ebrill, 1915
Syr, Mae eich mab yn iach iawn; mae yng nghartref cyfeillion ger Menin, Gwlad Belg. Nid yw’n brin o ddim byd. Daeth yno tua diwedd mis Hydref. Nid oedd yn gallu ailymuno â’i gymheiriaid gan ei fod wedi’i amgylchynu. Nid yw wedi’i anafu, mae’n cael ei warchod yn dda, mae’n gweld llawer o bethau yn agos at y ffrynt ac yn aros yn ddiamynedd am gyfle i ddychwelyd i’r fyddin.
Cordialement, Demars


Cerdyn post oedd y llythyr arall:
‘Nhad,
Rwyf mewn iechyd ardderchog,
eich mab Will,
13 Ebrill 1915


Roedd rheolwr gyfarwyddwr Melin Adelphi and Clarence, Mr John Wanklyn, wedi helpu Thomas Ashley gyda’r llythyr, ac yn ddigon doeth i feddwl ymlaen ac ychwanegu troednodyn gofalus:

Ydych chi’n cynghori ei fod yn ddiogel i’r rhieni ohebu â’r cyfeiriad a roddir gyda’u mab ynteu a yw hyn yn debygol o gymhlethu pethau?
John A. Wanklyn, Rheolwr Gyfarwyddwr

Hysbysodd Swyddfa Cofnodion y Troedlu yn yr Amwythig Swyddfa’r Rhyfel a hefyd y Swyddog oedd yn gyfrifol am Gofnodion Troedlu’r BEF. Atebodd Swyddfa’r Rhyfel fod yr wybodaeth wedi’i nodi, a gadael pethau fel yr oeddent.

Ac yna, ar wahân i ohebiaeth braidd yn ddiamynedd rhwng yr Amwythig a San Steffan, a aeth ymlaen tan 1916, yn datrys y dryswch a achoswyd yn sgil gosod enw Ashley ar restr o garcharorion, rhagor o ddryswch am ei rif (roedd Swyddfa’r Rhyfel yn meddwl mai 8192 oedd hwn) a llythyr arall gan Swyddfa’r Rhyfel yn dweud i bob pwrpas y dylai Ashley dderbyn yr un cyflog a lwfansau a charcharor rhyfel, ni ddigwyddodd dim. Nid oes tystiolaeth o lythyrau o wlad Belg na’r Iseldiroedd ym 1916 na 1917 .

Ond cafwyd tro dramatig i’r stori ym 1918, pan gafodd Dirprwy Depo’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn Wrecsam adroddiad arall ar hynt y Preifat Ashley:

13 Chwefror1918. Zeerust Hotel
Schcueningen, [sic] Holland
Pan oeddwn i yng Ngwersyll Holzminden, yn yr Almaen, dywedodd dyn, sifiliad o wlad Belg i bob golwg, oedd yn gweithio y tu allan i’r wifren, wrthyf - tua 25 Tachwedd 1917 - yn Saesneg ei fod yn aelod o Fataliwn Cyntaf y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a’i fod wedi bod yn fy Nghwmni i; rhaid cyfaddef na wnes i ei adnabod ond roedd yn fy adnabod i ac wedi holi’r swyddogion eraill amdanaf, felly does gennyf i ddim rheswm i’w amau. Roedd yn anodd i mi siarad ag ef, gan nad oedd hawl i mi wneud hynny, ac fe gysylltais ag e’n ddiweddarach, drwy’r swyddogion negesau, pan oedden nhw’n gweithio’r tu allan i’r Gwersyll; yn eu plith roedd dyn o fy Nghwmni oedd yn adnabod y ‘Belgwr’ a chanfu mai Preifat Rhif 4553 William Ashley ydoedd, oedd wedi ymuno â’r Bataliwn Gyntaf o’r Depo yn LYNDHURST, ar ôl iddyn nhw gyrraedd o Malta ddiwedd mis Medi 1914.
Ar 19 Hydref wrth dynnu’n ôl o’r gogledd o MENIN, dywedodd y Preifat Ashley iddo gael ei wahanu oddi wrth y Fataliwn, ac i osgoi mynd i ddwylo’r Almaenwyr cuddiodd mewn bwthyn Belgaidd, gan gymryd arno fod yn werinwr Belgaidd; ei obaith oedd dianc oddi yno’n ddiweddarach, ond ni allodd wneud hynny. Bu’n byw yno fel Belgiad tan iddo gael ei symud, rwy’n credu ym mis Mehefin 1918 i’r Almaen gyda chyfran fawr o boblogaeth sifiliaid gwlad Belg. Roedd yn bryderus iawn na ddylid datgelu ei wir hunaniaeth, gan y byddai hynny yn peri trwbl mawr iddo fe ac i'r cyfeillion oedd wedi’i guddio. Fe wnes yr ychydig y gallwn ar ei ran tra'r oeddwn i yno a dweud wrtho y byddwn yn ceisio anfon pethau ato o’r Isalmaen; rwyf i’n awr yn trefnu drwy bwyllgor lliniaru yng ngwlad Belg i anfon parseli ato. Fel perthynas agosaf iddo rhoddodd enw Mrs Chester 7 Lord Street Burrington [sic] New Macclesfield. Rwyf i wedi ysgrifennu at Mrs Chester, ond ni ddywedais wrthi’r enw yr oedd nawr yn byw dano, gan fy mod yn bryderus y gallai ysgrifennu ato a datgelu pwy ydoedd. Ei enw ffug a’i gyfeiriad cyfredol yw.
Segers Joseph
Carcharor Sifil
Gwlad Belg

[gwaelod y dudalen wedi’i ddifrodi]


[..…] ond ni fyddwn yn dweud ei fod yn yr iechyd gorau oherwydd prinder bwyd.
J. Smyth Osbourne Capten
1 Ffiwsilwyr Brenhinol Cymru


Mae’n rhaid bod cyfathrebu pellach wedi bod, sydd bellach ar goll, am William Ashley oherwydd hysbysodd Swyddfa Cofnodion y Troedlu Thomas Ashley ar 22 Hydref 1918 fod ei fab yn dal yn fyw:

Mewn perthynas â’ch mab, y milwr a enwir uchod, fe’m cyfarwyddir i’ch hysbysu bod gwybodaeth wedi’i derbyn yn Swyddfa’r Rhyfel bod yr uchod yn fyw ym mis Medi 1918. Rwyf i hefyd i ddweud wrthych na ddylech geisio cyfathrebu ag ef dan unrhyw amgylchiadau o gwbl, gan y bydd unrhyw gais yn peryglu ei fywyd, a bywydau eraill sydd yn ei gynorthwyo. Byddwn hefyd yn eich hysbysu i rybuddio unrhyw rai o’ch cyfeillion a allai ysgrifennu at eich mab, na ddylent wneud hynny am y rheswm a nodir uchod.
Nid oes cofnodion wedi goroesi i ddweud wrthym sut y dychwelodd William Ashley i’r Fyddin. Gallwn dybio ei fod yn un o’r alltudion niferus o wlad Belg a ddychwelodd, gan fod nodyn byr sydd brin yn ddarllenadwy ar ei daflen Hanes Meddygol iddo gael ei dderbyn i Ambiwlans Maes 229 (oedd ar y pryd wedi’i leoli rhwng Tournai a Brwsel) gyda bronchitis ar 11 Rhagfyr 1918. Fe’i trosglwyddwyd i Orsaf Glirio Anafiadau 51 ar yr un diwrnod a rai dyddiau’n ddiweddarach fe’i hanfonwyd i’r DU ar y stemar o wlad Belg 'Pieter Coninck', yna fe’i derbyniwyd i Ysbyty Hammersmith ar 17 Rhagfyr a’i ryddhau i’r Depo ar 17 Rhagfyr. Caniatawyd  seibiant iddo rhwng 20 Rhagfyr a 20 Chwefror 1919, ac yn ystod ei wyliau fe’i trosglwyddwyd i Ddosbarth Z, gan ddychwelyd i fywyd sifiliad, ond â’r ymrwymiad i ddychwelyd pe bai gofyn iddo.
Ymddengys mai ychydig iawn o gydnabyddiaeth swyddogol a gafwyd i’w antur ryfeddol. Ni chafodd unrhyw fedal ar wahân i Seren 1914 a Medalau Rhyfel a Buddugoliaeth Prydain. Ar 2 Ebrill 1919 penderfynodd Swyddfa’r Rhyfel nad oedd yn gymwys ar gyfer y taliad o 15 punt a roddwyd i filwyr yn gwasanaethu.

Cyfrannwyd gan Dr H J Krijnen

Hanes sydd wedi’i gymryd o gofnodion Dyddiaduron Rhyfel a gasglwyd gan yr Uwchgapten Charles Burrard, Dirprwy arweinydd y Bataliwn. Troednodiadau gan Christopher Fyles, gor-ŵyr y Rhingyll John Thomas Nicholls, DCM, a wasanaethodd yn y Nawfed Bataliwn o'i dechrau ym 1914 tan iddo gael ei ryddhau ym mis Mawrth 1919.
24 Medi 1915: Symud Pencadlys y Frigâd i’r Uwch Ganolfan Adrodd. Gwlyb a mwdlyd iawn. Ein magnelaeth yn dal i saethu.
Roeddem ni wedi bod yn y ffosydd ers 30 Awst. Cyfanswm ein colledion hyd at noson y 24ain oedd 2 ddyn wedi’u lladd ac 11 wedi’u hanafu. Ar noson y 24ain symudodd yr Is-Gyrnol MADOCKS (sic) [1] a phencadlys ei i Fataliwn at gwmni A yn y llinell saethu. Gofynnodd i fi (Uwchgapten C. BURRARD) gwrdd ag ef yno am 4.15 a.m. [2] y bore nesaf. Es i orffwys am y nos mewn twll ymochel segur yn un o’r hen ffosydd cefnogol. Roedd yn bwrw glaw mân.
25 Medi 1915: Cyfarfûm â’r Prif Swyddog yn neuadd cwmni A am 4.15 a.m. a chefais goffi. Yna dychwelais at fy nhwll ymochel. Roedd yn bwrw glaw mân ac roedd yr awel yn anffafriol ar gyfer defnyddio nwy; dechreuais feddwl y byddai’r ymosodiad yn cael ei ohirio.
5.50 a.m. Dechreuodd ein magnelaeth saethu’n ffyrnig.
Brysiais i lawr y llinell saethu a chanfod bod y canhwyllau mwg ar waith. Ar fy ffordd, filltir i'r de, gwelais gwmwl tenau'n chwythu’n araf tuag at linellau’r Almaenwyr; cymerais mai nwy mygu oedd hwn. Roedd yr awel yn dal yn ysgafn iawn ond roedd fel pe bai wedi troi dros dro i’n ffafrio ni. Ond doedd dim posib dibynnu ar hwn ac roedd yn rhy wan, ac rwyf i o’r farn bod y mwg o flaen ein llinellau wedi gwneud mwy o ddrwg nag o les oherwydd golygodd fod ein Magnelaeth yn peidio. Bwriad y mwg oedd ategu’r nwy a chamarwain yr Almaenwyr i gredu bod llawer iawn o’r sylwedd hwnnw’n dod tuag atyn nhw. Nid anafwyd yr un o’n dynion ni gan ein nwy ni, ond rwy’n credu bod rhai o’r Chweched Wilts [3] wedi dioddef.
6.30 a.m. Tua’r adeg hon fe’m hysbyswyd fod nifer o rocedi wedi’u saethu i fyny gan y Frigâd, yn arwydd bod ymosodiad ar fin dechrau. Yn bersonol ni welais i ddim. O ymholiadau diweddarach dysgais y canlynol oedd yn cadarnhau i raddau y neges a anfonwyd gan y Swyddog Arsylwi Magnelaeth am 6.25 fod y Cymry Brenhinol eisoes yn ymosod. Arhosodd y Cyrnol Madocks yn ystafell cwmni A tan i’r rocedi fynd i fyny, yna dywedodd wrth Gapten HOYLE, oedd yn arwain cwmni A am ddechrau’r ymosodiad (cwmni A oedd yn cyfarwyddo). Aeth Capten HOYLE at danglawdd Rhif 10 ond eisoes am 6.15 a.m. roedd ganddo ddynion allan ac rwyf i’n credu ei fod yn debygol fod y platŵn arweiniol hwn eisoes wedi’i estyn, yn gorwedd i lawr wrth ymyl pen y tanglawdd, yn barod i symud ymlaen.
Roedd y gorchymyn wedi’i roi i fod yn barod i ddechrau ymosod am 6.30 am. Roedd modd dehongli’r gorchymyn hwn mewn ffordd wahanol. Dylai fod wedi egluro a oedd y milwyr i fynd i mewn i’r tanglawdd ynteu aros y tu ôl i’r parapet tan 6.30 a.m. Gyda phlatŵn arweiniol cwmni A wedi’i estyn o flaen y tanglawdd mae’n bosibl bod symudiad ymlaen wedi’i wneud cyn i Gapten HOYLE ddychwelyd o’r Pencadlys. Beth bynnag edrychodd swyddog o gwmni B ar y chwith yr oedd ei gwmni’n cadw cysylltiad â chwmni A ar ei oriawr pan ddechreuodd y symudiad ac roedd yn 6.20 a.m.
Roedd y golofn fwg yn drwchus iawn; roedd gan y Capten HOYLE orchymyn i’w ystlys gyfeiriol ymdeithio at helygen benodol ond roedd hon bellach o'r golwg a chredir iddo wyro i'r dde o flaen y Nawfed Cymreig [4].
Tua'r adeg hon, rhagorodd y swyddog arsylwi Magnelaeth oedd wedi anfon y neges fod yr ymosodiad wedi dechrau, drwy ffonio i ddweud bod y Nawfed Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig wedi cipio llinell gyntaf y ffosydd. Mae’n rhaid bod hyn yn ymdrech fawr i’r dychymyg, oherwydd yn sgil y mwg, doedd dim modd gweld dim byd.
Arweiniodd negeseuon fel hyn at sïon gwyllt ar ôl y cyrch bod ysbiwyr wedi tapio’r gwifrau.
Am tua 6.50 cyfarfûm â’r Is-gyrnol Madocks a’i Ddirprwy yn un o’r llociau canolog. Roedd yn obeithiol iawn a gofynnodd i mi a oedd cwmni D allan eto, ac os oedd, y byddem ni'n dilyn.
Y trefniant ymosod oedd fel a ganlyn:-



Cwmni B {---------------- ---------------} Cwmni A          50 llath
             ---------------- --------------                     pellter
              ---------------- --------------                    rhwng
              ---------------- --------------                    y platwnau
Cwmni D {---------------- -------------}Cwmni D
              ---------------- --------------

Adroddais nad oedd cwmni D allan eto.
Chwarter awr yn ddiweddarach aeth Capten HOGG a’r Dirprwy unwaith eto i holi ac yn y cyfamser trawyd y Cyrnol MADOCKS oedd yn arsylwi dros y parapet ag un ergyd yn ei arlais a chwympodd yn farw wrth fy nhraed. Roedd yn amlwg erbyn hyn nad oedd pethau'n mynd yn dda; doedd dim modd gweld llawer oherwydd y mwg ond roedd sïon bod y tangloddiau'n llenwi â dynion clwyfedig oedd yn esbonio'r oedi gyda chwmni D. - Roeddwn i wedi gweld Capten ACTON, arweinydd cwmni D ychydig funudau yn gynt y tu allan i'n maglau gwifren ni ac awgrymais i’r Capten HOGG gyfathrebu ag ef a holi ei farn; roedd y Capten HOGG wedi gadael ers tua 10 munud pan gefais i wybodaeth ei fod ef a Chapten ACTON wedi’u saethu.
Roedd y Chweched Wilts erbyn hyn yn dechrau cyrraedd; i osgoi aberthu bywyd yn ddiangen, rhoddais orchymyn i dynnu’n ôl. Roedd y Cyrnol JEFFRIES, arweinydd y Chweched Wilts, a gyrhaeddodd yn fuan wedyn, yn cytuno â mi.
Roedd ein gweithredu i’r gogledd o gamlas LA BASSEE wedi’i fwriadu fel arddangosiad, gyda’r prif ymosodiad i’r de i’r gamlas; roedd ein gweithredu egniol yn fodd i dynnu nifer o fataliynau wrth gefn at ein ffrynt ni, y byddai’r Almaenwyr wedi gallu eu defnyddio ymhellach i’r de. Ond oni fyddai’r fantais hon wedi gallu cael ei hennill heb golli’r fath nifer o fywydau? Heb amheuaeth roedd Arweinydd Cyffredinol y 58fed Brigâd a’r Cyrnol MADOCKS wedi cael eu camarwain ynglŷn â’r difrod yr oedd ein Magnelaeth wedi’i wneud ar wifren y gelyn ar ôl nifer o ddyddiau o ergydio ond hefyd ynglŷn â’r effaith roedd wedi’i gael ar ysbryd y gelyn; roedd yr effaith ar y wifren mewn gwirionedd yn ddi-nod, ac mae’r cyfrifoldeb am beidio ag adrodd am hyn, am beidio â gwneud rhagarchwiliad mwy trylwyr yn gorwedd gyda’r cwmnïau oedd yn y llinell flaen; roedd yn or-optimistig i dybio bod morâl y gelyn wedi diflannu, oherwydd yn ystod cyfnod o ergydio mae’r Almaenwyr yn fedrus yn tyrchu eu hunain i dyllau lloches arbennig o ddwfn neu gadw o’r ffordd.
Credid yn hyderus na fyddem ni’n cael unrhyw drafferth rhuthro ar draws y gofod oedd rhyngom a chipio ffrynt yr Almaenwyr a’u ffosydd ategol. Pan ddaeth hi’n bryd gwneud hyn fe’m cawsom yn wynebu rhes o wifren nad oedd modd ei chroesi a’r tir o’i blaen yn darged i hanner dwsin o ynau peiriant.
Roedd cwmni C dan y Capten K.NICHOLL wedi’u gorchymyn i weithredu fel parti ystlysol a’u symud i FIFE ROAD. Dioddefodd y cwmni’n ddifrifol o fagnelaeth y gelyn oedd yn dra chywir.
Treuliwyd gweddill y bore yn symud gweddillion y bataliwn i’r Llinell Wrth Gefn. Yn ystod oriau’r tywyllwch cludwyd llawer o’r clwyfedig i mewn.
Mae’r canlynol yn rhestr o’r anafiadau ar 25 Medi :-
Lladdwyd (Swyddogion) – IS-GYRNOL. H.J. MADOCKS, CAPT. C.A. ACTON, CAPT. E.C. PAYNE, CAPT. L.S. HOGG, CAPT. B.W.E. HOYLE, IS-GAPTEN C.F.J. SYMONS, IS-LEFFTENANT R.J. WILLIAMS.
Swyddogion a anafwyd – IS-GAPTEN H.J. WILLIAMS, IS-GAPTEN G.H. CHARLTON, IS-LEFFTENANT R.H. HIGHAM, IS-LEFFTENANT C. FAWCETT
 

Rhengoedd Lladdwyd Anafwyd Ar goll
Pencadlys   2 3
Cwmni A 10 45 28
Cwmni B 2 23 44
Cwmni C 5 28 3 (credir eu bod wedi’u cladd)
Cwmni D 7 31 7
Cyfanswm 24 129 85

(Cyfanswm swyddogion a dynion 249)

Credir fod rhai o’r rhai sydd ar goll yn garcharorion rhyfel.
Y nifer a aeth i’r cyrch hwn oedd :-
25 swyddog, 781 o’r rhengoedd   

Troednodiadau
[1] Is-gyrnol Henry John Maddocks, Pennaeth Nawfed Bataliwn, y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, lladdwyd yn y frwydr 25/09/15 a chladdwyd yn llain I.F.20 ym Mynwent Filwrol Brown’s Road, Festubert.
[2] Nid oedd y system cloc 24 awr yn cael ei ddefnyddio’n gyffredinol tan yn ddiweddarach yn y Rhyfel.
[3] Chweched Bataliwn, Catrawd Swydd Wiltshire, rhan o’r 58fed Brigâd ynghyd â’r Nawfed Bataliwn, y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Roeddent yn cefnogi ar 25 Medi, y tu ôl i’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.

[4] Nawfed Bataliwn, y Gatrawd Gymreig, hefyd rhan o’r 58fed Brigâd ac ar ystlys dde’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.



Cyfrannwyd gan Christopher Fyle


Enlarge Image

13621 Sgt John Thomas Nichols DCM

Sgt Nichols was the contributor’s great-grandfather.

He was born in St Helen’s Lancashire and died in 1945.

He served with 9th Battalion throughout the Great War and was awarded the DCM for his gallantry in action at Messines in the summer of 1917. The citation read: “For conspicuous gallantry and devotion to duty. He reached the enemy’s lines some distance ahead of his assaulting platoon, whereupon he attacked twenty of the enemy single-handed, bayoneted three of them and kept the rest prisoners until the arrival of his platoon. He later showed marked ability and coolness in assisting his company commander under heavy shell fire.”

~
Enlarge Image

Lt Col H J Maddocks, Commanding Officer of 9th Battalion, killed in action at Loos on 25th September 1915.


Enlarge Image

Major C Burrard, who wrote the 9th Battalion War Diary at Loos.

He commanded the Battalion prior to the appointment of Lt Col Maddocks in August 1915.

3637 Y Rhingyll John Gamble, 23ain Gatrawd  (Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig).

Y gŵr yn y ffotograff hwn yw John Gamble. Mae’n eistedd yn edrych ar y camera gan wisgo Medal Rhyfel y Crimea gyda chlasbiau ar gyfer Alma, Inkerman a Sevastopol a Medal Crimea Twrci. Mae’n debyg i’r llun gael ei dynnu ar ddiwedd ei yrfa filwrol ym mis Tachwedd 1856, pan gafodd ei ryddhau yn Chatham. Roedd cyfnod Gamble yn y 23ain Gatrawd yn fyr a bu bron iddo fod yn farwol.

Fe’i ganwyd ym mhlwyf Walcot, Caerfaddon, tua mis Chwefror 1830. Ar ryw ddyddiad anhysbys aeth yn brentis i grydd a bu’n byw yng Nghaer. Fe’i hardystiwyd i’r 23ain Gatrawd  yng Nghaer yn 21 flwydd a naw mis oed ar 14 Hydref 1851. O fewn blwyddyn fe’i dyrchafwyd yn gorporal. Dyddiad ei ddyrchafiad oedd 1 Mehefin 1852 ac yn ddiweddarach yn ei fywyd y rheswm a roddodd Gamble am ei lwyddiant buan oedd ei fod yn ‘dipyn o sgolor’ oedd yn golygu mae’n debyg ei fod yn llythrennog. Fe’i dyrchafwyd yn rhingyll ar 12 Gorffennaf 1854.

Erbyn hynny roedd gyda’i gatrawd yn rhan o ‘Fyddin y Dwyrain’. Roedd y 23ain Gatrawd  yn rhan o Frigâd Gyntaf yr Is-adran Ysgafn. Y catrodau eraill oedd y Seithfed Ffiwsilwyr a’r 33ain Gatrawd. Roedd y 23ain dan orchymyn yr Is-gyrnol Harry Chester a chyrhaeddodd y dwyrain ar 25 Ebrill 1854.

Os oedd Gamble gyda phrif gorff y gatrawd ym Myddin Alma ar 20 Medi 1854 byddai wedi symud ymlaen gyda Codrington, fel rhan o’r frigâd dde, i fyny'r llechwedd hir ac esmwyth at yr Amddiffynfa Fawr. Roedd y safle cryf hwn ar ochr dde y Rwsiaid a hyd yn oed heddiw mae modd cerdded o lan yr afon i safle’r fagnelfa dros ryw 250 o lathenni o dir agored. Gyda’r 19eg Gatrawd ar yr ochr chwith a’r 33ain Gatrawd ar yr ochr dde, symudodd y 23ain Gatrawd ymlaen i ganol ymosodiad dinistriol gan fwsgedau o’r Amddiffynfa Fawr. Aeth y lluoedd Prydeinig yn anhrefnus eu symudiadau gan ddioddef yn enfawr dan danio penderfynol y Rwsiaid. Yn ddiweddarach cipiwyd yr Amddiffynfa a lliwiau'r Frenhines o eiddo'r 23ain a gafodd eu codi i ddangos hynny.  Ond adferodd y Rwsiaid eu safle ac yn y pen draw gyrrwyd troedfilwyr Prydain o’r Amddiffynfa, gyda’r 23ain yn dioddef colledion trwm ynghyd â niwed pellach a achoswyd gan saethwyr Rwsiaidd yn anelu at y swyddogion. Goroesodd Gamble Frwydr Alma ac roedd gyda'r gatrawd pan wynebodd y Rwsiaid ym mrwydr Inkerman ar 5 Tachwedd 1854. Yno, cafodd ei anafu.

Wrth iddi wawrio ar ôl noson niwlog, wlyb, ceisiodd y Rwsiaid gyrchu ystlys dde’r Prydeinwyr yn Inkerman. Gyda Magnelaeth ar Fryn Shell ymosodon nhw ar draws y dyffryn islaw ac i fyny tua'r gefnen lle'r oedd lluoedd Prydain. Mae'r frwydr wedi'i galw yn 'Frwydr y Milwyr' oherwydd yr oriau o ymosod a gwrthymosod ffyrnig yn y dyffryn rhwng y ddwy fyddin. Gwelwyd dewrder a phenderfyniad enbyd ar y ddwy ochr a chafwyd colledion trwm. Roedd elfennau o’r 23ain Gatrawd ar biced ar ddechrau’r frwydr a lladdwyd 8, anafwyd 22 a chipiwyd 12 yn garcharorion. Dywed papurau rhyddhau Gamble iddo ‘dderbyn bwled drwy ei ysgyfaint chwith gan basio allan rhwng y palfeisiau. Digwyddodd yr anaf ym Mrwydr Inkerman.  Ers hynny ni allodd wneud llawer o ymarfer corff oherwydd Dyspepsia.'

Mewn erthygl papur newydd a ysgrifennwyd flynyddoedd lawer ar ôl iddo gael ei ryddhau ceir rhagor o fanylion am brofiadau Gamble. : [Yn Inkerman]' cafodd ei friw sabr uwchlaw ei lygad, ond parhaodd i ymladd tan iddo gael ei anafu’n ddifrifol â bwled a fu’n agos at fod yn farwol ac a dreiddiodd i labed uchaf yr ysgyfant chwith, gan adael dan y balfas. Tra’r oedd yn yr ysbyty, ysgubwyd y babell lle’r oedd yn gorffwys mewn cyflwr difrifol ymaith gan storm eira erchyll [Corwynt Mawr 14 Tachwedd], a phan gafodd ei ganfod, credwyd ei fod wedi marw, ond yn ffodus fe wellodd. Cafodd ei anfon adref yn glaf a phenderfynwyd nad oedd yn ffit i wasanaethu’n filwrol eto. Disgrifir ef yn ei bapurau rhyddhau yn 27 oed, 5’10” o daldra a chyda chreithiau’r frech wen ar ei wyneb yn ogystal â marc anaf ar ei frest chwith. Ei fwriad oedd ymgartrefu yn nhref Coleford, Swydd Gaerloyw.

Y flwyddyn ar ôl diwedd ei yrfa fel milwr, priododd Gamble ei gyfnither Mary a chawsant ddau fab cyn iddi hi farw ym 1876. Priododd unwaith eto ym 1879 yn Eglwys St Mary's, Weston Super Mare, â Hannah Singer a chafodd ragor o blant. Erbyn hyn roedd yn gweithio fel Clerc Rheilffordd yng Ngholeford yn Fforest y Ddena. Roedd hefyd yn hyfforddwr drilio i Gwmni 'G' (Coleford) Gwirfoddolwyr y Reiffl.

Pan ffurfiwyd Cymdeithas Cyn-filwyr y Crimea a Miwtini’r India ym Mryste ym 1892, daeth Gamble yn aelod anrhydeddus. Mynychodd lawer o’u digwyddiadau a’u gorymdeithiau, a ddwywaith roedd yn y llinell pan arolygodd y Brenin Edward VII y cyn-filwyr yn Avonmouth a Chaerloyw. Codai arian yn rheolaidd i gyfrannu at giniawau Nadolig y cyn-filwyr yn eu pencadlys yn Orchard Street, Bryste.

Bu farw ym mis Mehefin 1914 ac fe’i claddwyd ar y 27ain o’r mis hwnnw ym mynwent plwyf Lydney. Cludodd chwe chyn-filwr o’r Crimea a Miwtini’r India ei arch: y Rhingyll John Fisher (Brigâd y Reifflwyr), y Rhingyll James George (Y Llynges Brydeinig a’r 3edd Gatrawd), y Rhingyll J. Milton (y 3edd Gatrawd), y Preifat Isaac Brooks (6ed Dragŵn)  a’r Preifat George Singleton (6ed Gatrawd )

Glenn Fisher

Ffynonellau : Papurau Cymdeithas Cyn-filwyr y Crimea a Miwtini’r India, Bryste; Archifau Cenedlaethol Kew, Dogfennau Rhyddhau Milwyr WO97/1469; The Lydney Observer 3 Gorffennaf 1914; Patrick Mercer 'Inkerman 1854' Osprey Military Campaign series no.51, 1998; Ron McGuigan 'Into Battle!' British Orders of Battle for the Crimean War 1854-56, Withycut House 2001.         

---------------------------------------------

3855 Y Preifat William Stone, 23ain Gatrawd, y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.

 

Mae’r ffotograff sy’n cyd-fynd â’r erthygl hon yn dangos dyn yn ei bumdegau â barf, yn gwisgo dillad sifiliad. Ar ei siaced gwelir pedair medal. Islaw’r ddelwedd ysgrifennwyd 'W Stone 23rd & 12th Regts.'  Uwchlaw’r teitl hwn mewn inc pŵl ceir y manylyn pellach 'Died 7 May 1900.' Tynnwyd y ffotograff ar ôl 1892 a ffurfio Cymdeithas Cyn-filwyr y Crimea a Miwtini’r India, Bryste.
Creadigaeth y Parchedig Joseph Kettlestring Wain, James Fuller Eberle a Walter S. Paul oedd y corff hwn. Fe’i sefydlwyd i gynorthwyo hen filwyr a morwyr a fu’n ymladd yn y ddau gyrch. Roedd rhai o’r rhain bellach yn profi caledi. Rhan o waith y gymdeithas oedd trefnu portreadau ffotograffig o rai o’r aelodau yn gwisgo eu medalau.
Ganwyd William Stone ym mhlwyf St Phillips and St Jacobs ar 17 Awst 1836.[1]
Mae cyfrifiad 1851 yn dangos bod teulu o’r enw Stone yn byw ym mhlwyf St Phillips and St Jacobs gyda gweddw, Harriet yn benteulu, ag iddi ferch a dau fab, William yn 13 oed a Joshua yn 11. Mae'n bosibl mai hwn oedd y William Stone a ymunodd a'r fyddin a thrwy hynny leddfu cyfrifoldeb ei fam drosto. Rhestrir ei alwedigaeth yn y cyfrifiad fel ‘gwas’.
Ar 17 Chwefror 1853, yn 16 a 6 mis oed ardystiwyd Stone i’r 23ain gatrawd ym Mryste. Fel gyda llawer o’i flaen cafodd drafferth yn trosglwyddo o fod yn sifiliad i fywyd y fyddin ac ar 1 Ebrill 1853, carcharwyd Stone am bythefnos. Dengys ei gofnodion milwrol ei fod yn 18 oed ar 17 Awst 1853 a gellir cyfrif ei wasanaeth milwrol o’r dyddiad hwnnw. [2]
Pan dorrodd y rhyfel gyda Rwsia ddiwedd mis Mawrth 1854, hwyliodd Stone o Southampton ar 4 Ebrill gyda’i gatrawd ar y llong stêm 'Trent' a chyrhaeddodd y dwyrain ar 25 Ebrill 1854. Hwyliodd y gatrawd gyda 31 o swyddogion a 909 o rengoedd eraill. Gadawyd dau gwmni depot, yn cynnwys 168 o bob rheng yn Winchester. [3]
Roedd y daith wedi mynd â nhw i Constantinople drwy Gibraltar a Malta.  Defnyddiwyd paentiad yn dangos y llong yn cyrraedd Malta fel wynebddarlun yn y gyfrol 'Troopships and Their History' gan y Cyrnol H C B Rogers a gyhoeddwyd gan y Llyfrgell Gwasanaethau Ymerodrol ym 1963. Teitl y darlun oedd 'RMSP Trent, ym Malta 1854, gyda’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ar ei bwrdd’ ac roedd drwy haelioni Cwmni Anrhydeddus y Capteiniaid Llong.  Cyhoeddwyd ysgythriad o’r gadlong gyda’r 23ain gatrawd ar ei bwrdd wrth iddi stemio i fyny’r Dardanelles yng Ngallipoli yn yr Illustrated London News Supplement ar 27 Mai 1854.
Ar ôl treulio cyfnod annymunol yn Varna drwy fis Mehefin, symudodd y 23ain a rhai catrodau eraill i Devna 7 milltir i’r gorllewin. Fodd bynnag roedd y gwersyll hwn yr un mor ddiflas â’r un blaenorol gyda dognau gwael, gwres tanbaid a dim gwair i’r ceffylau. Yn y ddau fis o ddiwedd mis Mehefin gwanhaodd a gwywodd Byddin Prydain oherwydd cholera, diflastod a diffyg cyflenwadau digonol. Pan gychwynnon nhw am y Crimea ar 5 Medi, roedd ymdeimlad cyffredinol o ryddhad eu bod o'r diwedd am wneud rhywbeth.
Glaniodd y 23ain Gatrawd yn rhan o’r Adran Ysgafn dan arweiniad Syr George Brown, a fu'n ymladd yn Rhyfel y Penrhyn, ym Mae Kalamita ar 14 Medi. Chwe diwrnod yn ddiweddarach wynebodd y dynion Fyddin Rwsia wrth iddi feddiannu’r llechweddau uwchlaw afon Alma.
Heddiw mae’r llethr hir ac esmwyth sy’n arwain o’r Alma i safle amddiffynfa’r Rwsiad yn debyg iawn i’r hyn yr oedd ym 1854. Erbyn hyn mae safle’r amddiffynfa wedi’i hamgáu â wal. O fewn ei therfynau ceir cofebion a beddau torfol y milwyr a syrthiodd yn y frwydr. Mae un o'r cofebion hyn i swyddogion a dynion y 23ain Gatrawd. Ar 20 Medi 1854 byddai gan saethwyr a reifflwyr y Rwsiaid faes clir i danio wrth i’r Adran Ysgafn symud i fyny’r llethr tuag atynt. Roedd anafiadau yn y catrodau oedd ym Mrigâd Gyntaf yr Adran Ysgafn yn drwm. Enillodd y Rhingyll Luke O'Connor o’r 23ain Gatrawd Groes Fictoria yn dilyn yr ymosodiad ar yr amddiffynfa Rwsiaidd a chafodd William Stone ddau anaf. Mae ei bapurau rhyddhau’n dangos iddo gael ei anafu yn ei ysgwydd (anaf i’r cnawd dros badell ei ysgwydd chwith) ac yn ei goes. Roedd yr anafiadau’n ddigon difrifol i’w anfon i ysbyty Scutari yng Nghonstantinople.  Dengys rhôl fwstro’r gatrawd iddo gael ei gludo o'r Crimea ar 25 Medi i Scutari [4]
Heddiw mae’r barics yn Scutari yn Istanbul fodern yn adeilad nodedig. Yn ei hanfod mae’n edrych yr un fath â’r hyn yr oedd ym 1854 ond erbyn hyn mae’n lân a dilychwyn oddi fewn a’r tu allan. Dyma bencadlys Byddin Gyntaf Twrci. Ym 18554 fodd bynnag roedd mewn cyflwr gwahanol iawn. Adroddwyd am yr amgylchiadau yn ysbyty Scutari yn dilyn Byddin Alma ym mhapur newydd y Times a daeth yn sgandal cenedlaethol. Yn sicr roedd William Stone, â’i ddau anaf, mewn perygl marwol wrth iddo yntau, ac eraill, gael eu gadael ym mudreddi ac anhrefn yr ysbyty. Yn rhyfeddol, goroesodd. Cyrhaeddodd Florence Nightingale Scutari ym mis Tachwedd 1855 a gwellodd amodau’r ysbyty’n raddol. Roedd hyn yn rhannol oherwydd ei gwaith caled hi a hefyd gwaith gwasanaeth Meddygol y Fyddin.
Dychwelodd William Stone at y gatrawd yn y Crimea ar 25 Chwefror 1855. [5]  Roedd Sevastopol wedi bod dan warchae’r cynghreiriaid ers diwedd mis Medi’r flwyddyn flaenorol. Roedd yr Atgilfur yn wrthglawdd amddiffynnol gref i Sevastopol.  Roedd y Rwsiaid yn ei amddiffyn yn dda, gan wrthsefyll yn ystyfnig a chadarn.  Roedd y 23ain Gatrawd yn rhan o’r llu ymosod ar yr Atgilfur ar 18 Mehefin 1855 ond fel catrawd wrth gefn, ac ni anafwyd neb yn y rhengoedd. Fodd bynnag methodd yr ymosodiad. Yn yr un modd ar 8 Medi 1855 roedd y 23ain yn rhan o’r llu cefnogol ond y tro hwn dioddefodd anafiadau difrifol yn yr ymosodiad aflwyddiannus ar yr Atgilfur. Yn ystod yr ymosodiad hwn achubodd y Corporal Robert Shields o’r 23ain Gatrawd y Dirprwy Is-gapten Douglas Dyneley ac arweiniodd hyn at ddyfarnu Croes Fictoria iddo’n ddiweddarach. [6]  Ond cipiwyd gwrthglawdd gerllaw'r Atgilfur, a elwid y Malakoff, gan y Ffrancwyr. Sylweddolodd y Rwsiaid fod hyn yn gwneud eu sefyllfa’n anghynaladwy a thynnodd y llu’n ôl i ochr ogleddol Sevastopol yr un noson. Dyma i bob pwrpas ddiwedd gwarchae Sevastopol.
Gwasanaethodd William Stone gyfanswm o 2 flynedd a 88 o ddiwrnodau ym Myddin y Dwyrain cyn dychwelyd gyda’r gatrawd ym mis Gorffennaf 1856.
Roedd gyda’r gatrawd yn yr India yn ystod ataliad miwtini’r India ym 1857. Roedd y gatrawd wedi hwylio i wasanaethu yn Tsieina ond fe’u dargyfeiriwyd i’r India. Bu’r 23ain Gatrawd yn rhan o’r gweithredu o gwmpas Lucknow.  Dywed papurau rhyddhau William Stone ei fod yn meddu ar Fedal Miwtini’r India â chlasb am ryddhau a chipio Lucknow.  Arhosodd y 23ain Gatrawd yn yr India tan 1869.  Yn ystod y cyfnod hwnnw ailgyflogwyd Stone am 10 mlynedd a 320 diwrnod arall ym mis Hydref 1864. Pan ddaeth cyfnod y 23ain Gatrawd yn yr India i ben ni ddychwelodd Stone gyda nhw. Gwirfoddolodd i ymuno â’r 2/12 gatrawd ac arhododd gyda nhw tan fis Mehefin 1875 pan gafodd ei ryddhau o’r fyddin ar ôl gwasanaethu am gyfanswm o 17 flynedd ac 8 mis yn yr India.
Mae ei bapurau rhyddhau’n datgelu bod ei wasanaeth yn yr India wedi niweidio ei iechyd. Dywed ei fod yn dioddef ‘llesgedd a thueddiad at Locomotor Ataxy.'  Dywedai ei adroddiad meddygol fod ei gyflwr yn ganlyniad uniongyrchol i‘w 18 mlynedd o wasanaeth yn yr India, ac nid unrhyw ffaeleddau neu anghymedroldeb. Ychwanegodd hefyd na fyddai cyflwr Stone, gyda gwendid ei aelodau a’i gerddediad ansicr, yn gwella ac ‘na all gyfrannu at ei gefnogaeth ei hun’.  Fe’i rhyddhawyd yn yr ysbyty yn Netley ger Southampton ar 7 Mehefin 1875.  Roedd Stone wedi gwasanaethu 20 mlynedd a 190 diwrnod a disgrifiwyd ei ymddygiad a’i gymeriad yn ‘dda iawn' ac ar wahân i’w fedalau cyrch cafodd hefyd fedal am wasanaeth hir ac ymddygiad da gyda rhodd o £5.  Ei rif pensiynwr Chelsea oedd 32601 a’i fwriad oedd byw ym Mryste. Ceir rhagor o fanylion yng nghyfrifiad cenedlaethol 1991 am ei fywyd yn 19 Kenilworth Terrace, St Philip and St Jacob. Pan ddychwelodd o’r India roedd yn ŵr priod â theulu. Roedd ei wraig, Margaret, yn dod o Derby ond ganwyd eu pedwar plentyn yn yr India. Cofnodwyd fod y ddau fab hynaf, George a Joseph yn ‘ofaint’. Roedd y plant iau, merch o’r enw Margaret a mab o’r enw Francis yn ‘sgolorion’. Disgrifiwyd  William Stone fel llafurwr mewn purfa siwgr, gan wrthbrofi’r datganiad ar ei bapurau rhyddhau am ei allu i weithio.
Ef oedd un o aelodau gwreiddiol Cymdeithas Cyn-filwyr Rhyfel y Crimea a Miwtini’r India, Bryste, ac mae’n bosibl ei fod yn un o'r ugeiniau o gyn-filwyr a wahoddwyd i Windsor. Gadawodd y parti ar drên arbennig ar fore 16 Mai 1898. Fe'u cyflwynwyd i'r Frenhines Fictoria yng ngerddi Castell Windsor. Nododd y Frenhines yn ei dyddiadur iddi archwilio’r cyn-filwyr. Cyn gadael am Fryste cafodd y cyn-filwyr ginio. Pan ymwelodd y Frenhines Fictoria â Bryste y flwyddyn ganlynol cafodd y Frenhines gard anrhydeddus gan gyn-filwyr Bryste wrth iddi ddod o’i cherbyd yn Oriel Gelf Bryste.[7]

Glenn Fisher
Cymdeithas Ymchwil Rhyfel y Crimea

Cyfeirnodau’r ffynonellau:
1 Yr Archifau Cenedlaethol WO97/ 1471, Dogfennau Rhyddhau Milwyr 1855-1873.
2 ibid.
3 Michael Glover 'That Astonishing Infantry' Leo Cooper . London 1989. tt64.
4 TNA WO12/4012 a 4013 Rhôl Fwstro’r 23ain Gatrawd 1854-56.
5 ibid
6 Glover, op. cit. pp 79.
7 Papurau Cymdeithas Cyn-filwyr y Crimea a Miwtini’r India, Bryste.

Bataliwn Cyntaf y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn Saint-Venant, Mai 1940

Cafwyd y cyswllt cyntaf rhwng Bataliwn Cyntaf y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a'r Almaenwyr ar 14 Mai 1940 ar Afon Dyle yn Ottenburg, i’r gogledd o Wavre a thua 20km i’r de ddwyrain o Frwsel. Wynebodd y cwmni blaen danio morter dwys a chyfres o ymosodiadau aflwyddiannus drwy gydol y diwrnod canlynol. Yn y cyfamser roedd yr Almaenwyr wedi torri drwodd ger Sedan, gan fygwth ystlys ddeheuol Byddin Alldeithiol Prydain, a daeth gorchymyn i’r Bataliwn dynnu’n ôl dros nos ar 15-16 Mai.


Dynion y Bataliwn Cyntaf, Gwanwyn 1940


Methodd y cerbydau a addawyd i’w cludo’n ôl i Afon Escaut â chyrraedd ac am dri diwrnod roedd rhaid symud ar droed, a phob nos roedd rhaid cloddio safleoedd amddiffynnol a'u gwarchod. Roedd prydau bwyd yn frysiog ac anghyson, yn aml byddai da byw a laddwyd yn ychwanegu at y dognau oedd ar gael, ond doedd dim yn amharu ar allu’r Bataliwn i orymdeithio. Mewn un cyfnod o ddeg awr ar hugain teithiwyd deugain milltir heb adael yr un milwr ar ôl. Yn hwyr ar 18 Mai cyrhaeddodd y cerbydau o’r diwedd gan gludo’r Bataliwn i Tournai ar afon Escaut lle llwyddwyd i ddal llinell yr afon am wyth awr a deugain, dan danio a bomio trwm. Roedd pawb bellach yn hynod o flinedig a phrin y cysgodd neb yn y Bataliwn fwy na dwy awr mewn unrhyw gyfnod o bedair awr ar hugain.

Yn hwyr ar 20 Mai, gyda lluoedd yr Almaen unwaith eto’n bygwth y Fyddin Alldeithiol, fe’u gorchmynnwyd i dynnu’n ôl i’r ardal i’r gogledd o Béthune, gan gyrraedd yno ar 24 Mai, a rhoddwyd sicrwydd iddynt y byddai'r frigâd yn mynd i orffwys fel ffurfiant wrth gefn. Dwy awr yn unig y parhaodd y gorffwys hwn, oherwydd daeth gorchymyn iddynt symud ymlaen i gyfeiriad y gorllewin i gipio pedair pont dros Gamlas La Bassée, i’r de o Saint-Venant, oedd yn rhan o’r hyn a elwid yn Llinell y Gamlas. Roedd hwn yn rhwystr pwysig os oedd y Fyddin Alldeithiol am ffurfio ffrynt newydd yn wynebu’r de a’r gorllewin, a gwrthsefyll ymosodiadau’r Almaenwyr o’r dwyrain ar yr un pryd.

Roedd y ffaith fod un bataliwn blinedig yn cael ei gorchymyn i gipio pedair pont dros bellter o dair milltir yn arwydd o’r sefyllfa roedd y Fyddin Alldeithiol bellach ynddi. Doedd hi’n ddim cymorth i’r dasg pan gollwyd yr unig gymorth tanio oedd ar gael, sef yr unig forter tair modfedd oedd ar ôl. Yn y pen draw, pan gyrhaeddodd pedwar gwn maes i gynorthwyo’r Bataliwn, doedd gan eu swyddog arsylwi blaen ddim map, a chan mai pedwar map digon annigonol oedd gan y Bataliwn cyfan, roedd nodi’r targedau fwy neu lai’n amhosibl. Roedd yr holl fapiau o Ffrainc wedi'u tynnu oddi ar y Bataliwn pan symudodd i wlad Belg.

Gwnaed yr ymdrech gyntaf i gipio’r pontydd gyda’r nos ar 24 Mai gyda mwyafrif y Bataliwn yn symud ymlaen tua’r gorllewin, yn gyfochrog â'r Canal de la Lys ar y dde. Cipiwyd pentrefan Saint-Floris, ond doedd dim modd gwthio eu ffordd i Saint-Venant. Yn y cyfamser rhedodd Cwmni D i gudd-ymosodiad gan ddioddef colledion trwm. Y bore wedyn cipiodd Cwmni B bentref Robecq, i’r de o Saint-Venant, gyda’r cwmni’n symud ymlaen mewn trefn agored yn defnyddio tanio a symudiad y platwnau - ymarfer cyfarwydd yn arwain at ruthro gyda bidogau. Yn anffodus, er iddynt gyrraedd un o’r pontydd yr ochr draw i’r pentref, cawsant eu hamgylchynu dan warchae, gyda thri o’u pedwar swyddog yn dioddef anaf. Daliwyd y pentref tan iddi nosi ar 26 Mai pan dorrodd y rhai a oroesodd allan mewn partïon bach. Ychydig iawn ohonynt a lwyddodd i gyrraedd man diogel.

Yn y cyfamser roedd y Bataliwn wedi cipio Saint-Venant ar fore 25 Mai gyda charcharorion yn cael eu dal a llawer o’r gelyn yn cael eu hanafu. Yr ymosodiadau hyn oedd yr unig achlysur yn ystod yr ymgyrch i fataliwn Prydeinig lwyddo i ail-gipio tir a gipiwyd gan yr Almaenwyr. Gwthiodd Cwmni A a Chwmni C yn eu blaen, gan anelu at y bont fwyaf gorllewinol. Chwarter milltir o’r nod taniwyd atynt gan y gelyn ar dir agored a chafwyd cryn drafferth i adennill eu llinell ddechreuol yn Saint-Venant.

Ar wahân i fomio trwm a gweld nifer o danciau a throedfilwyr yr Almaenwyr yn symud ar draws y ffrynt, ni ddigwyddodd llawer ar 26 Mai. Cipiodd Troedlu Ysgafn Durham Saint-Floris, gan ganiatáu i’r Bataliwn grynhoi o gylch Saint-Venant. Ar ôl anfon y drafnidiaeth dros y gamlas, ceisiodd yr Is-gyrnol Harrison ganiatâd i dynnu’n ôl i’r lan gogleddol, ond gwrthodwyd hyn, felly doedd dim i’r Bataliwn ei wneud ond aros am yr ymosodiad anochel. Dechreuodd hyn am  8 a.m. ar 27 Mai, a daeth yn glir yn fuan nad oedd unrhyw arfau ar gael a allai atal tanciau canolig Trydedd Adran y Panzer. Am 9 a.m. gorchmynnodd y Brigadydd i Droedlu Ysgafn Durham dynnu’n ôl drwy’r Ffiwsilwyr Cymreig, ond roeddent yn rhy agos i allu symud i ffwrdd. Felly gorchmynnodd y Cyrnol Harrison yr holl ddynion a allai wneud hynny i droi’n ôl dros bont y gamlas oedd bellach dan ymosodiad gynau peiriant o'r ddwy ochr. Fe’u dilynodd ond fe’i lladdwyd yn fuan ar ôl cyrraedd y lan ogleddol. Ar y cam hwn canfuwyd nad oedd y peirianwyr oedd yn aros i ddinistrio’r bont yno bellach felly roedd modd i’r tanciau Almeinig groesi yn ôl troed y goroeswyr, gan ladd rhai a chipio eraill.

Ers 10 Mai, roedd y Bataliwn wedi dioddef cyfanswm o tua 750 o achosion o filwyr yn cael eu hanafu, eu lladd, mynd ar goll neu’n cael eu cipio. Mae’r gofeb i’r rhai fu farw wedi’i gosod ger y bont, nad yw yno bellach, lle digwyddodd cynifer o’r anafiadau hyn, a ger y fynwent lle mae o leiaf dri deg un ohonynt wedi’u claddu. Ni fydd y gwir nifer fyth yn wybyddus, gan fod y fynwent yn cynnwys beddau deugain o filwyr Prydeinig nad ydynt wedi'u hadnabod. Mae'n debygol eu bod yn cynnwys rhai o'r pum dyn ar hugain o'r Bataliwn nad oes ganddynt fedd.

Byddai’n amhriodol enwi’r sawl a enillodd anrhydeddau a gwobrau ym mis Mai 1940, oherwydd yn wyneb yr amgylchiadau, mae’n rhaid bod llawer o weithredoedd dewr wedi’u cyflawni heb gael eu hadrodd. Fodd bynnag dylid  nodi bod aelodau o’r Bataliwn wedi derbyn y dyfarniadau canlynol:

Y Groes Filwrol 2
Medal Ymddygiad Rhagorol 3
Medal Filwrol 5
Enwyd Mewn Cadlythyrau 15

 


Cofeb y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn Saint-Venant.  Ffotograff: David Pickering

 

Bataliynau Tiriogaethol y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig 1908-2008

Hynafiaid Gwirfoddol

Oherwydd diffyg ymddiriedaeth yn Ffrainc a gwendid cymharol Byddin Reolaidd Prydain, ffurfiwyd nifer o Gorffluoedd Reiffl Gwirfoddol rhwng 1859 a 1863 fel unedau “amddiffyn cartref”. Codwyd unedau o’r fath yn siroedd gogledd Cymru, yn Sir Gaernarfon, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Sir Feirionydd a Sir Drefaldwyn. Ym 1881, fel rhan o Ddiwygiadau’r Fyddin, cysylltwyd y tair cyntaf o’r unedau hyn â’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a’r ddwy arall â Chyffinwyr De Cymru. Ym 1884 daeth Bataliwn Sir Ddinbych yn Fataliwn Cyntaf (Gwirfoddol) y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, a Sir Gaernarfon a Sir y Fflint yn ail Fataliwn. Ym 1897 ffurfiwyd Trydedd Fataliwn.

Bataliynau’r Llu Tiriogaethol
Pan aildrefnwyd y Fyddin ym 1908 daeth y Bataliynau Cyntaf, a’r Ail a Thrydydd (Gwirfoddolwyr) yn Bedwaredd, Pumed a Chweched Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn y Llu Tiriogaethol newydd. Daeth Pumed Bataliwn (Gwirfoddolwyr) Cyffinwyr De Cymru’n Seithfed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Yn y flwyddyn ganlynol rhoddwyd dynodiad tiriogaethol i’r bataliynau hyn yn eu teitlau a daethant yn Bedwaredd (Sir Ddinbych), Pumed (Sir y Fflint), Chweched (Sir Gaernarfon a Sir Fôn) a’r Seithfed (Sir Feirionydd a Sir Drefaldwyn) Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig (TF).

Y Rhyfel Byd Cyntaf 1914-1918
Yn ystod y Rhyfel Mawr profodd y Gatrawd ehangu rhyfeddol. Ar ôl dechrau’r rhyfel ym 1914 â saith bataliwn - dwy Reolaidd, un Arbennig Wrth Gefn a phedair yn y Llu Tiriogaethol - roedd tri deg a thri arall yn dwyn teitl y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig cyn i’r rhyfel ddod i ben. Cododd pob un o’r bataliynau Tiriogaethol unedau Ail a Thrydedd Llinell a alwyd y 2/4ydd, 3/4ydd, 2/5ed etc.

Er nad oedd unrhyw ymrwymiad i wneud hynny, roedd brwdfrydedd y “Terriers” dros y rhyfel yn ei ddyddiau cynnar mor fawr fel bod y mwyafrif wedi ymrestru ar gyfer gwasanaeth dramor. Y Bedwaredd Fataliwn (TF) (Sir Ddinbych) oedd un o’r ychydig unedau Tiriogaethol oedd yn barod ar unwaith am wasanaeth dros y môr pan dorrodd y rhyfel. Cyrhaeddodd Ffrainc ar 5 Tachwedd 1914 ac ar ôl cael ei neilltuo i’r Adran Gyntaf treuliodd y gaeaf mewn ffosydd yn Festubert. Ym mis Mai 1915 bu’r Bedwaredd yn rhan o’r ymosodiad aflwyddiannus ar Gefnen Aubers gan ddioddef yn drwm. Ym mis Medi 1915 trosglwyddwyd y Bataliwn i’r 47fed Adran (Llundain) a swyddogaeth newydd fel Arloeswyr, heb os oherwydd y nifer fawr o lowyr yn y rhengoedd. Treuliodd weddill y rhyfel yn palu ac yn atgyweirio ffosydd, ffyrdd a llinellau tram, yn aml ar y Llinell Flaen ac mewn sefyllfaoedd peryglus.

Roedd y Bumed (Sir y Fflint), Chweched (Sir Gaernarfon & Sir Fôn) a Seithfed (Sir Feirionnydd & Sir Drefaldwyn) Bataliwn (TF) yn Adran Cymru, ac ym mis Mai 1915 daeth hon yn 53fed Adran (Cymru) a chymrodd ran yng Nghyrch Gallipoli yn ystod haf 1915. Dioddefodd pob un yn drwm, llawn cymaint oherwydd salwch â brwydro’r gelyn, ac erbyn mis Hydref roedd y Pumed a’r Chweched mor wan fel y’u hunwyd yn un endid dros dro. Ym mis Tachwedd roedd y tair bataliwn unwaith eto yn y llinell flaen pan olchwyd y ffosydd ymaith gan lifogydd sydyn a achoswyd gan storm. Yn dilyn hyn ar unwaith cafwyd eira trwm ac oerfel difrifol a achosodd i nifer o filwyr ddioddef ewinrhew a dolur traed y ffosydd.

Ar ôl tynnu’n ôl o Gallipoli aeth yr 53fed Adran i’r Aifft a Phalestina ac adeiladwyd y Pumed, Chweched a Seithfed Bataliwn yn ôl i’w cryfder cywir. Parhaodd y bataliynau i wasanaethu ochr yn ochr â’i gilydd gan gymryd rhan ym Mrwydr Rumani (yr Aifft) ym mis Awst 1916, tair Brwydr Gaza ym 1917 a Tel ‘Asur ym mis Mawrth 1918 (y cyfan ym Mhalestina). Yna unodd y Pumed a’r Chweched unwaith eto gan dreulio gweddill y flwyddyn yn ardal Jerwsalem. Gwelodd y Seithfed Bataliwn ragor o ymladd yn Nyffryn yr Iorddonen.

Tua diwedd y rhyfel cafodd y Llu Tiriogaethol dair bataliwn arall. Troswyd catrodau Iwmyn, oedd eisoes yn gwasanaethu yn yr Aifft, yn filwyr troed yn gynnar ym 1917 gan ymuno â chatrodau milwyr troed oedd eisoes yno. Daeth dau ohonynt yn Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig - Bataliynau’r 24ain (Iwmyn Sir Ddinbych) a’r 25ain (Iwmyn Sir Feirionnydd a Cheffylau Cymru). Yn olaf, ail-ddynodwyd bataliwn Ddarpariaethol yn 23ain Bataliwn a gwasanaethodd gartref.

Adran Gynau Peiriant y Pumed Bataliwn (Sir y Fflint) (TF) 1915




Gwneud y llun yn fwy

Bataliynau’r Fyddin Diriogaethol (TA)
Dadfyddinwyd pedair bataliwn y Llu Tiriogaethol ym 1919 ond fe’u hail-ffurfiwyd ym 1921 fel rhan o’r Fyddin Diriogaethol newydd, gyda’r un dynodiadau ag yn flaenorol, ond gyda ‘TA’ mewn cromfachau ar ôl eu teitl. Y pedair bataliwn oedd 158fed Brigâd Troedfilwyr (Cymry Brenhinol). [Newidiwyd y teitl o (Gogledd Cymru) i (Cymry Brenhinol) ym 1924]. Roedd yn ddechrau anodd i’r holl fataliynau Tiriogaethol wrth i doriadau mewn gwariant amddiffyn ar ôl y rhyfel arwain at brinder cyfarpar cyfoes. Bron iawn yr unig beth oedd yn cadw unedau i fynd oedd eu brwdfrydedd.

Yn y 1930au lleddfwyd y sefyllfa a chafwyd newidiadau. Ym 1938 troswyd y Bumed Bataliwn (Sir y Fflint) yn fagnelaeth a daeth yn 60ain Magnelaeth Frenhinol y Gatrawd Gwrth-Danciau (Ffiwsilwyr Brenhinol Cymru) (TA). Goroesodd, gyda rhai newidiadau o ran y teitl ond bob amser â ‘RWF’ yn rhan ohono, tan 1956. Ym 1939, pan oedd rhyfel â’r Almaen yn anochel, dyblwyd maint y Fyddin Diriogaethol a ffurfiodd y Bedwaredd, Chweched a Seithfed RWF fataliynau dyblyg, yr Wythfed, Nawfed a Degfed yn eu tro.

Y Bedwaredd, Pumed, Chweched a Seithfed Bataliwn yn gorymdeithio ym Mhorthcawl 1930


Gwneud y llun yn fwy

Yr Ail Ryfel Byd 1939-45

Roedd y Bedwaredd, Chweched a Seithfed Bataliwn yn 158fed Brigâd y 53fed Adran (Cymru), Adran Diriogaethol. Buont yn gwasanaethu yng Ngogledd Iwerddon rhwng 1939 a 1941.

Arhosodd yr Wythfed a’r Nawfed Bataliwn yn y Deyrnas Unedig drwy’r rhyfel, ond newidiwyd y Ddegfed i swyddogaeth awyrol ym 1942 gan ddod yn Chweched Bataliwn (Frenhinol Gymreig) y Gatrawd Parasiwt. Gwasanaethodd yn anrhydeddus yng Ngogledd Affrica, yr Eidal, de Ffrainc a Groeg. Ar ôl y rhyfel fe’i hanfonwyd i Balestina lle’r arhosodd tan 1947 pan ddaeth y cysylltiad â’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig i ben.

O fis Tachwedd 1941 arhosodd y Bedwaredd, Chweched a Seithfed Bataliwn yn Lloegr tan oresgyniad Ewrop ym 1944. Roedd y 53fed Adran yn un o’r adrannau dilynol yn “Operation Overlord” a glaniodd y Bataliynau yn La Rivière ar y Traeth Aur ar 25 Mehefin. Cafwyd y prawf cyntaf i’r Bataliynau ganol mis Gorffennaf pan ddioddefwyd anafiadau trwm eithriadol wrth ymladd o gwmpas Evrecy, i’r de-orllewin o Caen.

Oherwydd yr anafiadau trwm a gafwyd, rhannwyd tair bataliwn y 158fed Brigâd (Brenhinol Cymreig). Arhosodd y Seithfed gyda’r 158fed Brigâd; symudodd y Bedwaredd at y 71ain Brigâd a’r Chweched i’r 160ain Brigâd. Dilynodd y 53fed Adran y gelyn oedd yn encilio ar draws Ffrainc i’r Isalmaen. Roedd porthladd Antwerp, yr oedd ei angen ar y Cynghreiriaid i lanio eu cyflenwadau, yn cael ei amddiffyn yn gryf gan Bymthegfed Fyddin yr Almaen. Roedd yn derbyn cyflenwadau drwy ’s-Hertogenbosch , lle’r oedd ffyrdd, rheilffyrdd a chamlesi’n cwrdd. Ym mis Hydref 1944 gorchmynnwyd i’r 53fed Adran ei gipio ac roedd tair Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn rhan o’r ymladd caled dros bum diwrnod cyn cipio’r dref.

Ym mis Rhagfyr 1944 lansiodd y gelyn ei gyrch mawr olaf yn yr Ardennes. Symudodd y 53fed Adran i atgyfnerthu'r ffrynt a dinistrio’r “bulge”. Derbyniodd y Seithfed Battalion golledion trwm yn Fforest Hampteau cyn atal y cyrch. Ym mis Chwefror 1945 dechreuodd y 53fed Adran symud ymlaen i dir y Rhein drwy’r Reichswald. Yma, mewn môr o fwd, cafwyd peth o ymladd mwyaf chwerw’r rhyfel. Ym mis Mawrth cliriwyd safle olaf yr Almaenwyr i’r gorllewin o Afon Rhein, ond nid cyn i’r Seithfed Bataliwn ddioddef yn Höst a’r Bedwaredd yn Goch. Ar ôl ysbaid fer symudodd yr Adran i ben y bont ar lan ddwyreiniol afon Rhein a pharhau i symud ymlaen i mewn i’r Almaen yn erbyn gwrthwynebiad caled gan y gelyn enciliol. Pan ildiodd holl luoedd yr Almaen yn ddiamod ar 7 Mai 1945 roedd y Bedwaredd a’r Chweched Bataliwn yn Hamburg a’r Seithfed yn yr Isalmaen, ar ôl cael eu trosglwyddo o’r 49fed Adran. Ym mis Mai 1946 cynrychiolodd y Chweched Bataliwn Fyddin Prydain yng Ngorymdaith y Fuddugoliaeth ym Mharis.

Y Chweched Battalion yn yr Ardennes, mis Ionawr 1945


Gwneud y llun yn fwy

Y Fyddin Diriogaethol ers 1945
Ym 1946 ataliwyd bataliynau’r Fyddin Diriogaethol dros dro tan 1 Ionawr 1947 pan ailgyfansoddwyd y TA. Caniatawyd un fataliwn yn unig i’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig sef y Bedwaredd. Newidiwyd y Chweched a’r Seithfed Bataliwn yn Gatrodau Gwrth-Awyrennau Ysgafn 635 a 636 (Brenhinol Cymreig). Cafodd y rhain eu huno ym 1955 i ffurfio Magnelaeth Frenhinol Gwrth-Awyrennau Ysgafn 446 (Brenhinol Cymreig) (TA). Uned fyrhoedlog oedd hon oherwydd ym 1956 dychwelodd i swyddogaeth troedlu, a’i hail-ddynodi’n Chweched/Seithfed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig (TA).

Ym 1966 aildrefnwyd y Fyddin Diriogaethol yn ddwy adran. Byddai’r leiaf, y Gwirfoddolwyr, yn atgyfnerthu unedau Rheolaidd pe ceid rhyfel. Dim ond un o’i tair bataliwn ar ddeg a ddyrannwyd i Gymru. Cyfraniad y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig oedd un cwmni o Wirfoddolwyr Cymreig, wedi’u lleoli yn Wrecsam.
Roedd gan weddill y TA swyddogaeth Amddiffyn Cartref a llai o ymrwymiad hyfforddi. Goroesodd y Chweched/Seithfed Bataliwn tan 1969 pan gawsant eu lleihau yn gadres a ffurfiwyd ail gwmni o Wirfoddolwyr Cymreig yng Nghaernarfon. Roedd yr arbrawf yn un byrhoedlog oherwydd ym 1971 ehangodd y TA. Disodlwyd y Gwirfoddolwyr Cymreig yn y gogledd gan Drydedd Fataliwn (Gwirfoddolwyr) y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Ymunodd trydydd cwmni â’r ddau gyfredol ym Mae Colwyn. Y swyddogaeth oedd Amddiffyn Cartref. Ychwanegwyd pedwerydd cwmni yng Nghei Conna ym 1986.

Rhwng 1990 a 2000 newidiodd y pwyslais o ran hyfforddiant ac ymrwymiad wrth i’r TA fod y cyntaf i ymateb i alwadau am gymorth milwrol gan awdurdodau sifil. Ym mis Chwefror 1990 pan dorrodd stormydd dros amddiffynfeydd y môr yn Nhywyn a pheri llifogydd, sefydlodd Trydedd y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ganolfannau brys a gofalu am 400 o bobl yn ogystal â chydlynu gwaith awdurdodau lleol a sefydliadau gwirfoddol. Yn yr un modd yn 2000-2001 unwaith eto cydlynodd y Fataliwn yr ymateb i epidemic y Clwy’ Traed a’r Genau.

Ar yr un pryd, ymgymerodd cwmnïau, platwnau neu hyd yn oed unigolion o’r TA â gwasanaeth ymarferol i gefnogi’r Fyddin Reolaidd. Anfonwyd aelodau o Drydedd y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ar gyrchoedd i Bosnia, Kosovo ac Ynysoedd y Falklands. Erbyn 2000 roedd yn arferol i 10% o’r lluoedd yn y Balcanau gynnwys milwyr Tiriogaethol neu wrth gefn.

Digwyddodd hyn oll ynghyd â gwasgfa ariannol, gan ddod i benllanw gyda’r Adolygiad Amddiffyn Strategol ym 1998. Gyda defnydd cynyddol o filwyr Tiriogaethol ac wrth gefn, penderfynwyd lleihau eu niferoedd. Dim ond un Bataliwn, neu bedwar cwmni fyddai gan Gymru. Canlyniad hyn oedd dychwelyd at drefniadau’r Gwirfoddolwyr Cymreig gyda dau gwmni Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yng ngogledd Cymru a dau gwmni Catrawd Frenhinol Cymru yn ne Cymru. Rhoddwyd enw catrodol i’r cwmni newydd - y Gatrawd Frenhinol Gymreig. Peidiodd y Trydydd Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig â bod ar 1 Mawrth 1999. Ym mis Mawrth 2006 gyda ffurfio Catrawd Frenhinol Cymru, parhaodd y Gatrawd Frenhinol Gymreig ond fe’i hailenwyd yn Drydedd Fataliwn Frenhinol Gymreig.

Y Drydedd y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn hyfforddi ymladd tân, haf 1976

Y Drydedd y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn ymladd yn ystod Ymarfer Cleddyf Celtaidd, 1985


Gwneud y llun yn fwy

Gwneud y llun yn fwy

Cadoediad y Nadolig yn Frélinghien
Cyfrannwr: H J Krijnen

Ar Noswyl y Nadolig 1914 roedd yr Almaenwyr oedd yn y ffosydd gyferbyn â Chwmni "A", Ail Fataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig wedi bod yn gweiddi draw, ond ar fore Dydd Nadolig roedd popeth yn dawel. Cododd un o’r Ffiwsilwyr, y Rhingyll Arloesi J.J. "Nobby" Hall, fwrdd ag arno’r neges “Nadolig Llawen” a chododd y gelyn fwrdd tebyg. Yna, tua hanner dydd, gwelwyd Almaenwr yn dod allan o’r niwl ar hyd y llwybr tynnu, â’i ddwylo yn yr awyr. Aeth y Preifat Ike Sawyer i gwrdd ag ef. Ysgwydodd y ddau law â’i gilydd a chynigiwyd blwch o sigarau i Sawyer.

Roedd nifer o Almaenwyr eraill yn dechrau gadael eu ffosydd. Roedd y Cymry wedi’u gwahardd yn bendant rhag gwneud yr un peth, ond dechreuon nhw daflu tuniau o “bully beef” a jam eirin ac afal draw. Erbyn hynny roedd nifer o Almaenwyr yn sefyll ar eu parapet, yn chwifio eu breichiau ac yn gweiddi “Peidiwch â saethu! Dydyn ni ddim am ymladd heddiw. Fe anfonwn ni gwrw atoch chi.” Llusgodd tri o’r milwyr gasgen i’r parapet a’i rholio ar draws Tir Neb.

Yn ddiweddarach, ysgrifennodd Comander Cwmni "A" y Capten Clifton Inglis Stockwell, ei fod wedi derbyn rhybudd gan ringyll pryderus oedd ar ddyletswydd. Dringodd Stockwell dros y parapet a gweiddi yn ei Almaeneg gorau ar i gomander y cwmni ymddangos. Daeth swyddog Almaenig allan a cherdded i Dir Neb lle cyfarfu Stockwell ag ef. Saliwtiodd y ddau ei gilydd yn ffurfiol. Cyflwynodd yr Almaenwr ei hun, yng ngeiriau Stockwell, fel "y Cownt Rhywbeth-neu-gilydd.” Fe wyddom bellach mai Hauptmann Maximilian Freiherr (y Barwn) von Sinner oedd y dyn, ac mai ef oedd Prif Swyddog Cwmni Gwn Peiriant 6ed Bataliwn Jäger Prwsia o Oels yn Silesia oedd wedi bod yn gysylltiedig â’r 40fed Adran Saxon ac wedi dal safle’r Almaenwyr ym mragdy Frélinghien. Yna galwodd Von Sinner ei is-swyddogion ato, ac fe’u cyflwynwyd i gyd yn ffurfiol i Stockwell "gyda llawer o glicio sodlau a saliwtio”. Esboniodd Stockwell ei fod wedi’i orchymyn i beidio â chaniatáu cadoediad a’i fod yn beryglus i’r milwyr Almaenig fod allan ar dir agored. Cytunodd Von Sinner, gan iddo yntau dderbyn gorchymyn tebyg, ac anfonodd ei ddynion yn ôl i’w ffosydd. Yna cytunodd y ddau swyddog ar gadoediad tan y bore trannoeth..

Aiff Stockwell yn ei flaen, “Doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w gynnig iddynt i ddiolch am eu cwrteisi ond feddyliais i yn sydyn am bwdin plwm gan obeithio y byddai’r swyddogion yn ei dderbyn. Yna fe es i’w nôl ac anfonodd y Saxon ei ddynion yn ôl i’r ffosydd. Pan ddes i’n ôl fe roddais y pwdin iddo. Yna tynnodd allan ddwy botel o gwrw a gwydr. Yfais i’n gyntaf gan ddymuno iechyd da iddo (cymeradwyaeth o’r ddwy ochr) ac yna gwnaeth yntau’r un peth i mi (mwy o gymeradwyaeth). Yna fe siaradais i ychydig gan holi am y swyddogion Almaenig roeddwn i’n eu hadnabod yn Tsieina. Yna ffarweliodd y ddau ohonom ni’n seremonïol, gyda llawer o saliwtio ac ymgrymu, a dychwelyd i’n ffosydd.”

Stori ychydig yn wahanol sydd gan y Preifat Frank Richards yn ei gofiant clasurol "Old Soldiers Never Die" a gyhoeddwyd ym 1933. Dywed ef fod cymaint o Ffiwsilwyr eisoes wedi gadael eu ffosydd fel nad oedd gan y Capten Stockwell ddewis ond derbyn y sefyllfa ac ynghyd â’i gyd-swyddogion cerddodd yntau i Dir Neb. Yn lle aros yn y ffosydd fel y disgrifia Stockwell, dywed Richards "Fe gymysgon ni â’n gilydd drwy’r dydd” ac aiff ymlaen i adrodd sgyrsiau rhwng y milwyr Cymreig ac Almaenig. Ddychwelodd y dynion ddim i’w ffosydd tan gyda’r nos. Mae tinc y gwirionedd yn y stori hon. Doedd dim ots gan Richards am briodoldeb milwrol gan ddisgrifio pethau fel y gwelai nhw, ond go brin y byddai colli rheolaeth, gyda’i ddynion yn “cymysgu â’i gilydd drwy’r dydd " yn rhywbeth y byddai disgyblwr llym fel y Capten Stockwell yn dymuno cyfaddef iddo ddigwydd, hyd yn oed yn ei ddyddiadur ei hun. Mae erthygl a ddarganfuwyd yn ddiweddar mewn papur newydd cyfoesol, sy’n cynnwys cyfweliad â’r Ail Lefftenant Michael Murphy, yn cadarnhau fersiwn Richards. Siaradodd Richards â nifer o filwyr Almaenig. Dysgodd eu bod hwythau, fel y Cymry, wedi cael llond bol o’r rhyfel, “hyd at y gwddf” fel y dywed ef, a bod yr amgylchiadau yn eu ffosydd hwy'r un mor wael. Dychwelodd y dynion i’w ffosydd wrth iddi nosi, mewn pryd i gael cinio Nadolig oedd yn cynnwys Maconochie’s (cig tun a llysiau) a phwdin plwm.

Gyda’r nos, a thros nos ni thaniwyd yr un ergyd gan y naill ochr na’r llall. Ar fore dydd San Steffan dringodd y Capten Stockwell ar y parapet, saethu tair ergyd yn yr awyr a chodi baner ag arni’r geiriau “Nadolig Llawen.” Yna ymddangosodd Hauptmann von Sinner ar barapet yr Almaenwyr, ac ymgrymodd a saliwtiodd y ddau swyddog. Yna saethodd Von Sinner yntau ddwy ergyd yn yr awyr a dychwelyd i’w ffos. Roedd hi’n rhyfel unwaith eto.

Ond arhosodd popeth yn dawel. Yn ôl Richards, drwy gydol dydd San Steffan roedd llawer o weiddi ar draws Tir Neb, yn aml am ansawdd y cwrw Ffrengig. Cafwyd heddwch drwy’r dydd, gyda chaneuon Cymraeg ac Almaeneg yn cael eu canu. Gyda’r nos, pan ddaeth Troedfilwyr Durham i gymryd lle’r Ail Fataliwn yn annisgwyl, clywodd y dynion fod pethau tebyg wedi bod yn digwydd ar hyd y llinellau.

Yn wir, bu’n Nadolig cofiadwy

HJK

Clifton Inglis Stockwell

Maximilian Freiherr von Sinner

Frank Richards

 

Yn 2007 roedd Amgueddfa Gatrodol y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn ddigon ffodus i dderbyn, gyda chymorth aelodau o'i deulu, y Groes Filwrol a ddyfarnwyd i Siegfried Sassoon.

Mae'n debyg mai Siegfried Sassoon yw'r mwyaf adnabyddus o feirdd 1914-18. Roedd ei wrthwynebiad cyhoeddus i'r rhyfel ym 1917 yn safiad dewr yn erbyn grym awdurdodau milwrol a gwleidyddol y cyfnod, a braenarodd y tir i genedlaethau'r dyfodol feddwl am wirioneddau rhyfel yn hytrach na derbyn, heb gwestiynau, barn pobl eraill. Heuodd Sassoon hadau ymgyrch heddwch sy'n ffynnu hyd heddiw, naw deg o flynyddoedd ar ôl ei brotest unigol.

Gwasanaethodd Siegfried Lorraine Sassoon (1886-1967), awdur, bardd rhyfel a gwrthwynebydd y rhyfel, fel swyddog gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig rhwng 1915 a 1919 ac enillodd y Groes Filwrol ym mis Mai 1916 pan oedd yn rhan o'r Bataliwn Gyntaf oedd yn gwasanaethu yn Ffrainc.

Doedd dim byd yn ei gefndir wedi paratoi Sassoon am realiti rhyfel, nac yn wir am fywyd y tu hwnt i'w fyd breintiedig a mewnblyg. Achosodd y rhyfel, â'i greulondeb, ei ddioddefaint a'r amddifadedd ffisegol ac emosiynol i Sassoon wynebu argyfwng nad oedd yn gallu ei ddeall ac nad oedd ganddo'r gwrthrychedd i ymdopi ag ef, fel y dysgodd yn ddiweddarach gan W H Rivers yn Craiglockhart.

Mae'r Groes Filwrol yn gynrychiolaeth ffisegol o argyfwng Sassoon.

Er gwaethaf ei natur swil, sensitif, a chan frwydro â'i rywioldeb, dangosodd Sassoon ddewrder, gwrhydri ac arweinyddiaeth eithriadol ar y Ffrynt Gorllewinol. Cafodd y llysenw “Mad Jack” gan ei gyd swyddogion, ac roedd ei weithredoedd, a daniwyd gan alar ac oedd yn aml yn hunanddinistriol, yn fynych yn wyllt. Aeth ati'n fwriadol i ennill Croes Filwrol â'r un penderfyniad ag yr oedd wedi'i ddangos wrth ennill rasys ceffylau cyn y rhyfel. Pan gafodd ei Groes Filwrol yn y pen draw, fe'i henillodd am ei ran mewn cyrch ffos a fethodd ger Fricourt ar faes cad y Somme. Gyda bwledi a grenadau'r gelyn yn tanio trefnodd fynd ati i gasglu a dychwelyd y clwyfedig a'r meirw yn nannedd y saethu.

Roedd Sassoon yn credu mai'r unig ddihangfa o boen y rhyfel oedd bod yn ei ganol lle nad oedd amser i resymu. Roedd ei farddoniaeth, a ysgrifennwyd yn y Ffrynt, yn finiocach ac yn galetach oherwydd ei brofiadau, yn fwy gwir o ganlyniad. Dychwelodd Sassoon i Loegr gyda phroblemau anadlu ym mis Gorffennaf 1916 a daeth i gysylltiad â heddychwyr, yn benodol y Morrelliaid, Bertrand Russell ac aelodau blaenllaw o Grŵp Bloomsbury, oedd yn fwy na hapus i fwydo ei ansicrwydd. Gyda'i argyhoeddiad am gyfiawnder y rhyfel wedi'i ysgwyd, ac yn llawn euogrwydd am beidio â bod ar y Ffrynt, ysgrifennodd Sassoon am ei Groes Filwrol - "Fy addurn absẃrd yw'r unig beth sy'n rhoi unrhyw ymdeimlad o gyfrifoldeb o gwbl i mi."

Yn ôl ar y Ffrynt roedd Sassoon yn ysu am gael mynd adref neu gael ei saethu'n farw - y rhyddhad eithaf. Parhaodd ei gasineb at y rhai oedd yn dymuno ac yn cynllwynio i weld y rhyfel yn parhau i danio ei ddychan. Cyhoeddwyd detholiad o'i gerddi, y gwyddai y gallent fod yn croesi llinell sylwadau derbyniol, ym mis Hydref 1916.

Parodd anaf i Sassoon orfod dychwelyd adref eto ym mis Ebrill 1917. Erbyn hyn roedd wedi ymwrthod â barddoniaeth fel unig ddull protestio. Aeth ati i ysgrifennu datganiad i'w gyhoeddi lle byddai'n datgan "ar ran milwyr" nad oedd cyfiawnhad i barhau â'r rhyfel. Ar unwaith gwelodd ei gefnogwyr heddychlon fod hyn yn gyhoeddusrwydd gwych - datganiad yn erbyn y rhyfel a wnaed gan awdur adnabyddus oedd yn arwr rhyfel ac oedd â Chroes Filwrol. Cwblhawyd "Datganiad" Sassoon ar 15 Mehefin 1917. Anfonwyd copïau at gefnogwyr a chyhoeddwyd y Datganiad.

Gweithiodd ei gydawdur a chyd-swyddog gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig Robert Graves, ynghyd â chyfeillion eraill oedd yn bryderus am Sassoon, i berswadio awdurdodau'r fyddin mai canlyniad blinder rhyfel oedd ei weithredoedd ac y dylid ymdrin â'i achos fel cyflwr meddygol yn hytrach na gwrthryfel. Ond roedd Sassoon yn benderfynol i osgoi unrhyw awgrym o fethiant meddyliol neu orludded. Roedd am osgoi Tribiwnlys Meddygol ar bob cyfrif. Roedd Sassoon am gael cwrt-marsial oherwydd gallai'r cyhoeddusrwydd a ddeilliai o swyddog Prydeinig yn protestio yn erbyn y rhyfel annog eraill i godi eu llais.

Roedd awdurdodau uwch yn dymuno atal y Datganiad rhag dod yn achos cyhoeddus a rhoddwyd amser i Sassoon ailystyried. Drwy wneud hyn dros amser roedd y Fyddin yn tynnu'r colyn o'r brotest. Roedd amynedd Sassoon yn pallu. Ag yntau bellach yn ôl gyda Thrydedd Fataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn Litherland ger Lerpwl, aeth ar y trên i Formby, ac mewn rhwystredigaeth rhwygodd ruban y Groes Filwrol oddi ar ei ffurfwisg a'i lluchio i afon Mersi. "Syrthiodd y truan bach i'r dŵr ac arnofio i ffwrdd fel pe bai'n anymwybodol o'i oferedd ei hun". Hon oedd y weithred fwyaf eithafol o wrthryfela yn erbyn y Fyddin y gallai Sassoon ei chyflawni.

Yn y pen draw, ar ôl i Graves ei argyhoeddi na fyddai byth yn cael cwrt-marsial ac os byddai'n parhau i wrthod Bwrdd Meddygol byddai'n cael ei dawelu drwy gael ei anfon i ysbyty meddwl, ildiodd Sassoon. Dyfarnodd ei Fwrdd Meddygol fod Sassoon yn dioddef Neurasthenia ac fe'i hanfonwyd i Ysbyty Rhyfel Craiglockhart at Dr W H R Rivers.

Mae'r mwyafrif o'r adroddiadau o'r digwyddiad yn Formby yn datgan fod Sassoon wedi taflu ei Groes Filwrol i Afon Mersi. Mae'r ffaith fod ei brotest yn cynnwys y rhuban yn unig, ac nid y fedal, yn adlewyrchiad diddorol o'i ddeuoliaeth arteithiol. Parhaodd y Groes Filwrol ymhlith eiddo Sassoon tan ddeugain mlynedd ar ôl iddo farw.

Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, i gyd-fynd â'r Groes Filwrol benthycwyd Medal Aur y Frenhines am Farddoniaeth a ddyfarnwyd i Siegfried Sassoon ym 1957 i'r Amgueddfa. Mae'r ddwy fedal i'w gweld yn yr Amgueddfa Filwrol yn y Castell yng Nghaernarfon.

Croes Filwrol a thag adnabod Siegfried Sassoon

Medal Aur y Frenhines am Farddoniaeth, a ddyfarnwyd i Sassoon ym 1957. Sefydlwyd y Fedal Aur am Farddoniaeth gan y Brenin Siôr V ym 1933 ar awgrym Bardd y Brenin ar y pryd, Dr John Masefield.

Cefn Medal Aur y Frenhines am Farddoniaeth. Mae'r dyluniad gan Edmund Dulac (1882-1953), yn dangos “Gwirionedd yn codi o'i ffynnon ac yn dal yn ei llaw dde fflam ddwyfol ysbrydoliaeth - Prydferthwch yw Gwirionedd a Gwirionedd yw Prydferthwch”.

 

Preifat Samuel E. Hall (11eg Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig) a’r Ffrynt Anghofiedig (Salonika 1916-18) gan Dr. C. M. Hall
Ar ôl dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf ar 4 Awst 1914, ymatebodd dynion ifanc gwladgarol ledled Prydain i alwad Kitchener i ymrestru dros eu ‘Brenin a’u gwlad’. Ar y dechrau roedd syniadau hiraethlon am ryfela’n flaenllaw ond yn fuan iawn arweiniodd cyfuniad o hen dactegau ac arfau newydd at erchyllterau rhyfela’r ffosydd, nad oedd yr un milwr wedi’i ragweld. Hawliodd brwydrau enwog Verdun, Jutland, y Somme a Passchendaele lawer o fywydau Prydeinig ifanc, gan ddileu cenhedlaeth gyfan dros bedair blynedd hir. Fodd bynnag nid yw’r ‘Ffrynt Anghofiedig’ ym Macedonia a Salonika 1916-1918 wedi derbyn cymaint o sylw â Gallipoli a Mesopotamia am ei fod yn cael ei ystyried ar y pryd yn amherthnasol. Dioddefodd 11eg Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig bron y cyfan ond am ddau fis o’r Rhyfel yn Salonika. Ym misoedd olaf un y rhyfel, cwympodd llawer oedd wedi goroesi’r amgylchiadau erchyll ac ymosodiad y gelyn ym Mrwydr Doiran yn Salonika. Un o’r milwyr hyn oedd y Preifat Samuel E. Hall.
Preifat Samuel E. Hall (ganwyd 1895) oedd yr hynaf o bedwar o blant. Roedd ei dad, Joseph Hall (g. 14 Ebrill 1861), saer maen a phregethwr lleyg, a’i fam Jane Hall (g. 16 Ionawr 1873) yn byw yn 2 Mount Pleasant, Penrhynside, Llandudno. Bu dau o’i frodyr, Ephraim (y Llynges) a William (y Fyddin) yn ymladd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gydag Ephraim a’i frawd ieuengaf, Joseph, hefyd yn ymladd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Fel y plentyn hynaf, y Preifat Samuel Hall oedd y cyntaf i ymrestru. Ymrestrodd yn Neuadd y Dref ar Stryd Lloyd yn Llandudno (gweler y poster recriwtio isod). Fel cynifer o’r ‘pals’ fel y’i gelwid, ymrestrodd gyda chyfeillion plentyndod oedd hefyd yn byw yn Mount Pleasant. Ymunodd Edward Evans (3 Mount Pleasant), a ymrestrodd yn Wrecsam ag ef, ac a aeth yntau ymlaen i fod yn yrrwr gyda Batri “B” y 298fed Brigâd, y Fagnelaeth Maes Frenhinol. Fe’i lladdwyd yn y frwydr ar 30 Tachwedd 1917. Yna, dyna  Robert Harris, mab Robert a Annie Harris o 10 Mount Pleasant. Ar ôl ymrestru ym Mae Colwyn, aeth Harris yn ei flaen i fod yn breifat yng nghwmni “B” 14eg Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Cwympodd Roberts ar 2 Medi 1917 yn 27 oed. Yn olaf roedd George Frederick Sanford (13 Mount Pleasant) oedd yn breifat ym Mataliwn Cyntaf y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Ychydig iawn o’r rhyfel a welodd yntau gan iddo gael ei ladd ar faes y gad ar 30 Hydref 1914 yn 24 oed.
Ar ôl ymrestru clustnodwyd y Preifat Samuel E. Hall i gatrawd milwyr troed hynaf Cymru, Ffiwsilwyr Brenhinol Cymru. Ffurfiwyd yr 11eg Bataliwn yn Wrecsam ar 18 Medi 1914. Yn fuan ar ffurfio ymunodd â’r 22ain Adran. Yna symudodd yr adran gyfan i amrywiol wersylloedd i’w hyfforddi cyn teithio i Ffrainc yn gynnar ym mis Medi 1915. Ar ôl cyfnod byr yn Ffrainc fe’i gorchmynnwyd ar 20 Hydref 1915 i symud i gyrchfan anhysbys. Ddeng niwrnod yn ddiweddarach, ar 30 Hydref, hwyliodd Bataliwn y Preifat Samuel E. Hall, ynghyd ag 8fed Cyffinwyr De Cymru a rhan o Droedlu Ysgafn Swydd Amwythig am Salonika am 4.30pm.

Ar ôl taith gymharol dawel, angorodd y llu yn harbwr Salonika ar 5 Tachwedd. Ymunodd â lluoedd Prydain oedd eisoes wedi bod yno am fis. Roedd y Preifat Hall, ynghyd â gweddill milwyr Prydain yn Salonika, yno i rwystro Bwlgaria rhag ymuno â’r Almaen ac Awstria-Hwngari, yn ymosod ar Serbia. Roedd Prydain yn ystyried y rhyfel yn Salonika yn amherthnasol oherwydd doedd gan Brydain ddim diddordebau gwleidyddol, masnachol na strategol yn y rhanbarth ar wahân i ddiweddu’r Rhyfel Byd Cyntaf mewn modd ffafriol. Roedd amgylchiadau yn Salonika yn erchyll. Roedd llawer o’r dynion wedi cyrraedd mewn ffurfwisg khaki ysgafn hafaidd, ond ym mis Tachwedd 1915 daeth stormydd eira a niwl trwchus i’w poeni. Roedd diffyg ffyrdd felly roedd cyflwr y tir yn golygu nad oedd modd pasio dros rannau o’r wlad gyda’r cerbydau’n suddo i’r mwd. Pan ddaeth yr haf ym 1916, cododd y tymheredd yn uchel iawn. O ganlyniad lledaenodd clefydau drwy’r dynion. Yn Salonika, am bob un a laddwyd yn y frwydr, bu farw tri o falaria, ffliw neu glefydau eraill.
Dioddefodd y Preifat Samuel E. Hall ergydion y gelyn, salwch, blinder a diffyg cyflenwadau am yn agos i bedair blynedd yn Salonika. Yn anffodus ni ddaeth adref gan iddo gwympo ym Mrwydr Doiran ar 18 Medi 1918, rai wythnosau’n unig cyn diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Cynhaliwyd Brwydr Doiran ar 18 a 19 Medi 1918 yn ardal Rheilffordd Dora Tepe-Doiran-Karasuli ac afon Vardar. Gorchmynnwyd y 22ain Adran (oedd yn cynnwys 11eg Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig) i gipio Bryn Doiran, Bryn Teton a’r Petite Couronne. Nid oedd hyn yn dasg hawdd. Roedd mantais dactegol gan y gelyn gyda rhwydwaith da o ffosydd dwfn, roedd y dirwedd yn anodd ei chroesi a’r clymau weiren yn eithriadol o dda. Hefyd, oherwydd yr haf hynod o boeth trawyd y Bataliwn gan epidemic o ffliw, malaria a dysentri. A hwythau’n wynebu diflastod heb obaith am neb i’w hatgyfnerthu, roedd y milwyr wedi ymlâdd.

Roedd Brwydr Doiran yn drychineb i Brydain. Collwyd llawer o fywydau Prydeinig mewn ymosodiad ar ôl ymosodiad gan fod y gelyn mewn sefyllfa lawer mwy manteisiol a bod ganddynt wybodaeth flaenorol am y dirwedd. Ceisiodd y Prydeinwyr gipio llinellau’r gelyn ond wynebent wrthymosodiadau a nwy. Yn ystod 18 Medi 1918 gorchmynnwyd 113eg Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig i adael Senelle a symud i gipio ffosydd y gelyn ger Dyfnentydd Dagger a Sabre. Ar ôl wynebu gwrthymosodiadau caled symudodd y Bataliwn gyda gweddill y milwyr i’r Hilt lle wynebodd gwrthwynebiad cryfach fyth. Llwyddodd rai dynion i gipio’r Hilt ond yn ddiweddarach cawsant eu gwthio’n ôl. Roedd yn amhosibl i ailgipio’r Hilt oherwydd diffyg dynion. Yn lle hynny dewiswyd atgyfnerthu’r llinell yn croesi Dyfnant Jumeaux a Dyfnant Root. Curwyd gwrthymosodiad gwan gan y gelyn cyn gorffwys gan obeithio am noson dawel. Yn anffodus roeddent wedi profi colledion enfawr drwy gydol y dydd. O 20 o swyddogion, dim ond 3 a oroesodd ac o 480 o filwyr, dim ond 100 a oroesodd. Ag yntau’n ddim ond 23 oed, y Preifat Samuel E. Hall oedd un o’r 380 na oroesodd Brwydr Doiran.

Nododd yr hanesydd blaenllaw A.J.P Taylor fod ‘brwydr Doiran yn un o achlysuron anghofiedig y Rhyfel Byd Cyntaf.’ (1981) Gyda nodi 90 o flynyddoedd ers diwedd y Rhyfel eleni, dylid cofio hanes y rheini a gwympodd ar y ‘ffrynt anghofiedig’. Ymladdodd milwyr fel y Preifat Samuel E. Hall ar ‘ffrynt anghofiedig’ yn yr hyn a ddaeth i fod yn fyddin anghofiedig, ond heddiw yn yr 21ain Ganrif nid yw wedi’i anghofio.
Byddwn ni yn eu cofio

 

Bedd y Preifat Hall ym Mynwent Doiran (llun drwy garedigrwydd Dean Freeman)

Private Samuel E. Hall
(Source: Hall Family Collection)

(Source: Caernarfon Record Office, Gwynedd Archives Ref: XM/6601)

PENRHYNSIDE WAR MEMORIAL
Unveiled on Wednesday 25th May 1921 at 3 p.m. by Captain A. Taylor
Private Samuel E. Hall is commemorated on this memorial.

 

Ym mis Awst 1910 bu farw Florence Nightingale, y nyrs flaengar yn Rhyfel y Crimea, a ddathlwyd fel “y fenyw gyda’r lamp”, yn Llundain.  Ar ôl gwasanaeth angladdol yn Eglwys Gadeiriol St Paul’s, cafodd ei harch ei dychwelyd i’w chartref yn East Wellow, ger Romsey, Swydd Hampshire i’w chladdu ym mynwent Eglwys St Margaret’s.

Er bod yr holl bentref wedi dod i’r gladdedigaeth, dim ond un feteran o Ryfel y Crimea oedd yn bresennol. Y gŵr hwnnw oedd John Kneller o bentref cyfagos King’s Somborne oedd wedi gwasanaethu fel Preifat gyda’r 23ain Catrawd (y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig).  “Yn 84 oed, yn fregus ac un llygad yn unig ganddo” fel y’i disgrifiwyd gan bapur newydd y Times, safodd John Kneller yng nghyntedd yr eglwys yn ystod y gladdedigaeth. Tynnwyd ei lun i bapur y Daily Mirror a defnyddiwyd y llun i gyd-fynd ag adroddiad am yr angladd.

Yn ôl y cofnodion, ganwyd 4614 Preifat John Kneller yn King’s Somborne, Hampshire ym 1832 ac yn 22 oed ymunodd â’r 23ain Catrawd ar 9 Rhagfyr 1854 yng Nghaer-wynt.  Gwasanaethodd â’r Gatrawd yn y Crimea a chollodd lygad yn ystod gwarchae Sebastopol.  Bu’n gorwedd am dri mis yn yr ysbyty yn Scutari lle gwelodd Florence Nightingale yn aml yn cario ei llusern ar ei hymweliadau nosweithiol â’r wardiau. Yn y pen draw gollyngwyd ef yn wael o’r Fyddin ym 1856.


Ym 1914, roedd yr hen filwr balch a rhyfeddol hwn yn dal i allu bod yn bresennol yn Southampton i groesawu ail Fataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig adref ar ôl 18 mlynedd o wasanaeth tramor. Ag yntau’n gwisgo ei Fedal Crimea roedd “ei ffigur crwm a’i wallt gwyn yn cyferbynnu â’r milwyr â lliw haul y bu’n sgwrsio â nhw”. Er bod Kneller bron yn gwbl ddall, gofynnodd a gâi weld Lliwiau'r Gatrawd. Ar orchymyn y Cyrnol fe'u hagorwyd a’u cyhwfan a safodd Kneller oddi tanynt. Nodwyd yn ogystal â’i Fedal Crimea, bod Kneller yn gwisgo medal lai o faint “a gyflwynwyd iddo gan edmygwyr" i nodi ei bresenoldeb fel yr unig feteran o'r Crimea yn angladd Florence Nightingale.

Photographs by courtesy of Jean Clarke and Heather Hurley.

 

Ellis Humphrey Evans “Hedd Wyn”

Ganwyd Ellis Evans ar 13 Ionawr 1887 ym Mhen Lan, tŷ yng nghanol Trawsfynydd ym Meirionydd. Ef oedd yr hynaf o 11 o blant a anwyd i  Evan a Mary Evans. Yn ystod gwanwyn 1887 symudodd y teulu i fferm Yr Ysgwrn, ychydig filltiroedd y tu allan i Drawsfynydd.

Cafodd Ellis Evans addysg sylfaenol yn yr ysgol elfennol a’r Ysgol Sul. Nid oedd yn ddisgybl disglair ond roedd yn meddu ar ddawn barddoni naturiol. Ysgrifennodd ei gerddi cyntaf pan oedd yn un ar ddeg mlwydd oed. Gadawodd yr ysgol yn bedair ar ddeg gan fynd i weithio fel bugail ar fferm ei dad.

 Dechreuodd gystadlu mewn eisteddfodau pan oedd yn 19 oed, gan ennill ei gadair farddol gyntaf yn y Bala ym 1907. Ym 1910 dechreuodd arddel yr enw barddol “Hedd Wyn”. Y prif ddylanwad ar waith Hedd Wyn oedd Shelley a phrif themâu ei waith oedd natur a chrefydd. Ym 1913 enillodd gadeiriau ym Mhwllheli a Llanuwchllyn ac ym 1915 bu’n llwyddiannus ym Mhontardawe a Llanuwchllyn. Yn yr un flwyddyn ysgrifennodd ei gerdd gyntaf i’r Eisteddfod Genedlaethol, awdl i “Eryri”.  Ym 1916 daeth yn ail yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth gydag awdl i abaty canoloesol Strata Florida. Roedd yn benderfynol y byddai’n ennill y gadair y flwyddyn ganlynol.

 Erbyn hyn roedd y Rhyfel Mawr ar ei anterth. Roedd cefnogaeth frwd i’r rhyfel yng Nghymru ac anogodd David Lloyd George, y Prif Weinidog ers 1916, ei gydwladwyr i aberthu ar gyfer ymdrechion y rhyfel. Roedd Cymry wedi gwirfoddoli’n llu ers 1914 a doedd dim pall ar y gefnogaeth ym 1916 pan gyflwynwyd gorfodaeth filwrol. 

 Yn naturiol fe effeithiodd y rhyfel ar waith Hedd Wyn a chynhyrchodd rhai o’i gerddi gorau gan gynnwys “Plant Trawsfynydd”, “Y Blotyn Du”, “Nid â’n Ango” a “Rhyfel”.

 Roedd dewis anodd yn wynebu’r teulu Evans ym 1916 - roedd rhaid i un mab ymuno â’r fyddin er bod ffermio yn waith o bwysigrwydd cenedlaethol. Ymrestrodd Ellis yn hytrach na’i frawd iau, Bob, oedd yn briod. Ym mis Chwefror 1917 derbyniodd ei hyfforddiant yng Ngwersyll Litherland, Lerpwl, lle’r enillodd ei natur stoicaidd ond siriol lawer o ffrindiau iddo. Ym mis Mawrth 1917 galwodd y Llywodraeth am weithwyr fferm i gynorthwyo â gwaith aredig a rhyddhawyd llawer o filwyr am gyfnod. Rhyddhawyd  Hedd Wyn am saith wythnos, a threuliodd lawer o’r cyfnod hwn yn gweithio ar “Yr Arwr”, ei ymgais ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Dychwelodd at yr hyfforddiant ym mis Mai, yn ddigon bodlon â chynnydd ei waith.

 Ym mis Mehefin 1917 ymunodd Hedd Wyn â phymthegfed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn Fléchin yn Ffrainc. Fe’i digalonnwyd gan yr hyn a welodd  “Tywydd trwm, enaid trwm, calon drom. Trindod anghysurus, onid e?”  Er hynny, yn Fléchin llwyddodd i gwblhau ei gerdd i’r Eisteddfod Genedlaethol a’i llofnodi “Fleur de Lis”.  Fe’i hanfonwyd drwy’r post ar 15 Gorffennaf 1917. Ar yr un dyddiad symudodd ei Fataliwn tuag at y Llinell Flaen yn barod ar gyfer yr ymosodiad mawr a gâi ei adnabod fel Trydedd Frwydr Ypres neu Passchendaele.

 Dechreuodd yr ymosodiad ar 31 Gorffennaf 1917 am 0350.  Trowyd maes y gad yn gors gan y glaw trwm. Cipiodd y 15fed Bataliwn Pilckem ac yna symud ymlaen tuag at Iron Cross, gan ddioddef ymosodiad trwm gan fagnelau a gynau peiriant. Trawyd Hedd Wyn yn ei frest gan shrapnel ac fe’i cludwyd at Orsaf Cymorth Cyntaf. Ac yntau’n dal i fod yn ymwybodol, gofynnodd i’r meddyg a oedd yn credu y byddai’n goroesi. Roedd yn amlwg fodd bynnag nad oedd ganddo fawr o obaith, a bu farw Hedd Wyn am tua 1100, un o filoedd o filwyr a gollwyd y diwrnod hwnnw.

 Ar 6 Medi 1917 cynhaliwyd defod Cadeirio’r Bardd yn yr Eisteddfod Genedlaethol, oedd yn cael ei chynnal y flwyddyn honno ym Mirkenhead. Roedd David Lloyd George yn bresennol. Cyhoeddodd y beirniaid mai ymgais “Fleur de Lis” oedd yn fuddugol, a seiniwyd yr utgyrn iddo gael ei ddangos ei hun. Ni safodd neb a darganfuwyd bod yr enillydd wedi marw chwe wythnos ynghynt.  Gorchuddiwyd y gadair wag â lliain du. “Yr Ŵyl yn ei dagrau a’r Bardd yn ei fedd” meddai’r Archdderwydd Dyfed.

 Claddwyd Ellis Humphrey Evans, “Hedd Wyn” ym Mynwent Artillery Wood yn Boezinge.  Cyhoeddwyd ei waith “ Cerddi’r Bugail”, ym 1918

Ellis Humphrey Evans – “Hedd Wyn”

Y Gadair Ddu, a enillwyd gan Hedd Wyn yn Eisteddfod Genedlaethol Birkenhead 1917, ar ôl iddo farw.

Roedd Jenny Jones o Dal y Llyn, Meirionnydd yn Waterloo gyda’i gŵr cyntaf, y Preifat Lewis Griffiths o’r 23ain Gatrawd (y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig). Ym 1876 cyhoeddwyd hanes ei bywyd, yng ngeiriau Jenny ei hun, yn y “Cambrian News”.  Er ei bod yn anodd cysoni rhai o’r pethau y soniodd amdanynt â’r ffeithiau sy’n wybyddus, mae’n adrodd hanes bywiog a ac yn rhoi darlun gonest o fywyd gwraig milwr ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r canlynol yn ymdrech i atgynhyrchu bywyd cynnar Jenny.

Ganwyd Jenny (neu Jane) Jones yn Iwerddon, ym 1797 siŵr o fod, a’i henw morwynol oedd Drumble. Mae’n debyg mai yn nhref Granard yn Swydd Longford oedd ei chartref.

Cyfarfu Jenny â’i gŵr cyntaf, Lewis Griffiths, yn Iwerddon, lle’r oedd wedi’i leoli gyda Milisia Brenhinol Meirionnydd. Roedd hi’n 14 oed, yn ferch i ffermwr, ac roedd yntau’n 19 (fe’i ganwyd ym 1793). Priododd y pâr, yn erbyn dymuniadau teulu Jenny yn ôl pob golwg, ac ni fu mewn cysylltiad â hwy ar ôl hynny. Nid oes cofnod o briodas Jenny a Lewis wedi’i ganfod hyd yma (gweler Nodyn 1).

Y Preifat Lewis Griffiths
Roedd Lewis Griffiths yn hanu o Dal y Llyn, yn fab i Humphrey a Jane Griffiths o Bentre Dol y March, grŵp bach o dai ar lan gogleddol y llyn. Lewis oedd enw morwynol ei fam.

Yn ôl y Deddfau Milisia roedd rhaid i bob Sir godi cwota penodol o ddynion i wasanaethu yn y Gatrawd Milisia i amddiffyn y Sir honno. Mewn cyfnod o ryfel gellid ymgorffori’r catrodau Milisia i wasanaethu y tu allan i ffiniau’r Sir. Cafwyd Deddf Diwygio ym 1799 a gynyddodd Cwota Milisia Meirionnydd i 226 o ddynion.



Ar ôl i Ffrainc Chwyldroadol gyhoeddi Ryfel yn erbyn Prydain ym mis Mai 1803 ymgorfforwyd Milisia Meirionnydd (Catrawd Frenhinol o 1804 ymlaen) ar gyfer dyletswydd garsiwn. Gwasanaethodd yn Ne Lloegr tan 1811 pan gafodd ei drosglwyddo o Swydd Devon i Iwerddon, i Granard, Swydd Longford. Ym mis Awst roedd y Gatrawd yn 135 o ddynion, wedi’u trefnu’n Gwmnïau. Mae  Lewis Griffiths yn ymddangos ar Rôl Fwstro 1811 Milisia Brenhinol Meirionnydd a gedwir yn yr Archifau Cenedlaethol yn Kew.

Gwirfoddolodd llawer o ddynion y Milisia i wasanaethu gyda’r Catrodau Llinell “rheolaidd”. Yn eu plith oedd Lewis Griffiths a ymunodd â’r 23ain Gatrawd (Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig) ym 1814. Mae cofnod Griffiths ar Rôl Medalau Waterloo yn dweud ei fod “gyda’r Corfflu” o 5 Ebrill 1814. Caiff ei ddisgrifio fel llafurwr, 19 oed. Roedd hefyd yn ddyn priod. Gwasanaethodd Lewis Griffiths â Chwmni Rhif 7 o’r 23ain, dan y Capten Thomas Farmer.

Roedd Lewis Griffiths yn nodweddiadol o’r milwyr yn y 23ain ym 1815, ag yntau’n dod o gefndir amaethyddol. Dim ond 30% o’r dynion fodd bynnag oedd yn Gymry. Roedd y rhan fwyaf o siroedd Lloegr wedi’u cynrychioli yn y rhengoedd ac roedd 10% yn Wyddelod (fel oedd yn arferol yn yr holl Gatrodau Llinell Prydeinig). Roedd  Lewis Griffiths yn un o 76 milwr preifat oedd wedi ymuno â’r 23ain ers yr Heddwch ym 1814. Roedd y mwyafrif o’r milwyr preifat yn 20 oed neu’n iau. Fodd bynnag, o’i chymharu â chatrodau eraill yn Waterloo roedd y 23ain yn uned brofiadol gan fod llawer wedi bod yn brwydro yn Sbaen neu Dde Ffrainc.

Tynnwyd y 23ain Gatrawd i fyddin Wellington yn Ewrop, gan ymdeithio yn erbyn yr Ymerawdwr Napoleon oedd wedi’i ail-orseddu. Yn hwyr yn y dydd ymunodd â Brigâd ychwanegol, y 4ydd Brigâd dan yr Is-gyrnol H H Mitchell. Ffurfiodd ran o’r 4edd Adran, dan orchymyn yr Is-gadfridog Syr Charles Colville.


Y 23ain Gatrawd yn Waterloo 18 Mehefin 1815
Gadawodd y 23ain Gatrawd Gosport ar 23 Mawrth 1815 a glanio yn Ostend ar 30 Mawrth. Aeth Jenny gyda’i gŵr ar y cyrch i Waterloo, yn ôl pob tebyg yn gweithredu fel nyrs/cogydd/golchwr dillad i’r Gatrawd. Mae’n bosibl fod ganddi blentyn erbyn hynny - mae rhai cofnodion yn dweud fod ganddi ferch.
(gweler Nodyn 2). Symudwyd y Gatrawd ar gwch camlas i Ghent, drwy Bruges.  Cafodd ei hadolygu gan Wellington, ynghyd â gweddill y Frigâd, yn Oudenarde, ar 20 Ebrill. O’r fan honno ymdeithiodd at y cantonments yn Grammont ar 24 Ebrill, gan aros yno tan 16 Mehefin. Yna ymdeithiodd i Braine-le-Leud, gan gyrraedd ar y 17eg, a threulio’r nos mewn cenllif o law.

Gosododd Wellington ran helaeth ei gryfder, gan gynnwys Brigâd Mitchell, ar ochr dde ei linell. Roedd hyn yn ffodus i’r 23ain Gatrawd oherwydd dioddefodd lai o anafiadau na’r rheini a osodwyd yn y canol ac ar y chwith. Serch hynny lladdwyd pedwar swyddog ac unarddeg o ddynion, ac anafwyd wyth swyddog a saith deg wyth o ddynion.

Yn gynnar yn y bore ar 18 Mehefin 1815 aeth y 23ain i’w safle, yn yr ail linell, i’r chwith o Ffordd Nivelles. O’u blaenau roedd bataliwn o’r Gwarchodlu. Symudodd i’r llinell a gorchmynnwyd y dynion i orwedd gan fod gynau Ffrainc yn saethu atynt ar unwaith o’r ffordd. Lladdodd ergyd o fagnel Brif Swyddog Cwmni Lewis Griffiths, y Capten Thomas Farmer, ac mae’n bosibl mai dyma sut yr anafwyd Lewis hefyd yn ei ysgwydd ac, yn ôl y stori, ag ergyd magnel.

Symudodd y 23ain i’r llinell flaen i gymryd lle bataliwn y Gwarchodlu, a dynnwyd yn ôl i fynd i roi cymorth yn Hougoumont.  Ffurfiodd sgwâr ac aros yn y ffurf honno drwy’r dydd, gan wynebu llawer o ymosodiadau gan y marchoglu Ffrengig.  Gorchmynnodd Prif Swyddog y 23ain, y Cyrnol Syr Henry Ellis na ddylai unrhyw ddyn dorri’n rhydd o’r rhengoedd, hyd yn oed i roi cymorth i gydymaith clwyfedig. Ni phetrusodd y Gatrawd, er bod y tanio gynau’n parhau, a methodd pob ymosodiad arni gydag anafiadau trwm. Dychwelodd y sgwâr i’w safle blaenorol, ac yna symud ymlaen eto a diweddodd y 23ain y dydd drwy symud ymlaen yn y llinell heb ddim yn ei gwrthwynebu.

Fodd bynnag yn ystod y prynhawn trawyd y Cyrnol Ellis yn ei frest â phêl fwsged. Parhaodd i roi gorchmynion tan iddo gael ei orfodi, ag yntau mewn gwendid oherwydd iddo golli cymaint o waed, i farchogaeth i’r cefn. Yn ei wendid, syrthiodd oddi ar ei geffyl. Daethpwyd o hyd iddo a’i gludo i dŷ fferm lle cafodd ei glwyfau eu trin. Bu farw’r diwrnod canlynol, yn 32 oed.

Ar ôl Waterloo
Ar ôl y frwydr bu Jenny’n chwilio am Lewis ac yn y pen draw daeth o hyd iddo mewn ysbyty ym Mrwsel - yr Elizabeth.  Y tebygrwydd yw ei bod hi’n dal gydag ef pan ymdeithiodd y 23ain i Baris, ac ar 4 Gorffennaf, pan wersyllodd yn y Bois de Boulogne.

Rhyddhawyd Lewis Griffiths o’r Gatrawd ar 6 Ebrill 1821. Ni chafodd bensiwn a chafodd ei Fedal Waterloo ei dwyn. Dychwelodd Lewis a Jenny i Dal y Llyn i fyw mewn tŷ o’r enw Cildydd. Cawsant nifer o blant - chwech o bosibl. Bu Lewis Griffiths yn gweithio yn chwareli llechi Corris, gan gerdded yno dros y bryniau o’i gartref. Lladdwyd Lewis ym 1837 yn Chwarel Aberllefenni, yn 45 oed (rhaid mai ym 1792 neu 1793 y’i ganed). Fe’i claddwyd mewn bedd heb ei farcio ym mynwent Tal y Llyn.

Dechreuodd Jenny weithio yng ngolchdy un o westai Tal y Llyn.  Am gyfnod efallai iddi fod yn athrawes ysgol ym Maes y Pandy.

Ar ôl rhai blynyddoedd yn weddw, priododd Jenny John Jones o Y Powis, Tal y Llyn ar 1 Mehefin 1853.  Roedd Jones yntau’n ŵr gweddw. Nododd y ddau Cildydd yn gyfeiriad iddynt, a llofnododd y ddau y gofrestr ag X (oedd yn rhyfedd os oedd Jenny’n athrawes ysgol!). Nododd Jenny mai ei henw morwynol oedd  Drumble.  Nid oedd yn uniad hapus gan fod Jones yn ŵr diog, ac yn lle lliniaru ei thlodi, ar ôl priodi roedd Jenny’n dlotach. Ar ôl marwolaeth John Jones aeth Jenny i fyd i Bant-y-Dwr ac yn ddiweddarach i Dyn yr Ywen, Tal y Llyn, lle bu farw ar 11 Ebrill 1884, yn 94 oed. Mae’n fwy tebygol mai 87 oedd hi (gweler Nodyn 3).

Claddwyd Jenny ym mynwent eglwys plwyf Tal y Llyn ar 15 Ebrill 1884.  Ar ei gorffwysfa olaf ceir carreg fedd ysblennydd, ymhell y tu hwnt i’r hyn y gallai fod wedi dyheu amdano. Yr arysgrif arni yw’dirgelwch olaf Jenny Jones.  Mae’n darllen: 

“I will never leave you nor forsake thee
This cross was placed here by a friend.

Sacred to the memory of Jenny Jones
Born in Scotland 1784
She was with her husband of the 23ain Royal Welch Fusiliers at the battle of Waterloo and was on the field three days.”

Brian R Owen
Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig
2010

 

Nodyn 1:
Roedd y Fyddin yn amheus o bresenoldeb menywod a byddai’n ceisio annog y milwyr i beidio â phriodi. O 1685 caniatawyd priodas â chaniatâd y Prif Swyddog yn unig. Cyfyngwyd nifer y milwyr priod i 6% o gryfder y fyddin - fel arfer chwe gwraig i bob cwmni. Dyma oedd y nifer “swyddogol” ond byddai’r system yn cael ei cham-ddefnyddio a byddai llawer mwy o wragedd a merched answyddogol yn y barics. Roedd sefyllfa gwraig yn hynod ansicr, yn enwedig pan fyddai’r uned yn cael ei hanfon dramor.

Nodyn 2:
Dim ond 4 neu 6 o wragedd ym mhob Cwmni a gâi eu caniatáu ar gyrch, a chaent eu hethol drwy bleidlais. Byddai trallod mawr ymhlith y gwragedd a gâi eu gadael gartref ac yn aml byddent yn diweddu mewn tlotai neu ar y stryd.

Nodyn 3: 
Yng Nghyfrifiad 1841 a 1851 nododd Jenny Iwerddon yn fan geni. Yng Nghyfrifiad 1851 nododd mai 54 oedd ei hoed, ac mae hyn fwy na thebyg yn gywir.

Daw’r braslun pensil hwn o gyfres o ddarluniau gan David Jones sy’n cofnodi ei brofiadau fel milwr cyffredin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Fe’i lluniadwyd ym mis Tachwedd 1916 pan oedd yn gwasanaethu fel sylwedydd gyda’r Ail Gwmni Arolwg Maes yng Nghoedwig Ploegsteert. Mae’r testun yn nodweddiadol ddi-nod, yn adlewyrchu diddordeb Jones yn agweddau mwy cyffredin bywyd milwr. Mae darluniau eraill, oedd yn llenwi ei lyfrau nodiadau milwrol, yn dangos cyfarpar, adeiladau a chyfeillion y bu’n gwasanaethu gyda nhw.

Ymrestrodd David Jones â 15fed Bataliwn (1af Cymry Llundain) y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ym mis Ionawr 1915, yn 19 oed. Codwyd y bataliwn yn wreiddiol o blith Cymry oedd yn byw yn Llundain, lle’r oedd Jones yn astudio yn Ysgol Gelf Camberwell.  Ar ôl hyfforddi yng ngogledd Cymru a Chaer-wynt, aeth Jones gyda’r bataliwn i Ffrainc fel rhan o’r 38fel Adran (Gymreig). Bu’n ymladd yn ystod brwydr Coedwig Mametz (Gorffennaf 1916), lle cafodd ei anafu, ac yn ddiweddarach yn Bosinghe, Pilkem, Langemark a Passchendaele (1917). Ym mis Chwefror 1918, gollyngwyd Jones yn wael o’r fyddin gyda Thwymyn y Ffosydd a threuliodd weddill y rhyfel yn Iwerddon.

Ar ôl y rhyfel, cynyddodd ei enwogrwydd fel artist a llenor. Daeth yn aelod blaenllaw o grŵp artistiaid Eric Gill ac yn beintiwr dyfrlliw o fri rhyngwladol. Ym 1937 cyhoeddodd In Parenthesis - a gydnabyddir fel campwaith llenyddol ac sy’n cofnodi ei daith adeg rhyfel o’i amser yn recriwt ifanc i fod yn filwr profiadol.  Roedd hefyd yn ysgythrwr cain a gadawodd enghreifftiau lu o lythrennu hynod o unigolyddol. Bu farw ym mis Hydref 1974, ac fe’i claddwyd ym Mynwent Ladywell yn ne ddwyrain Llundain.

 

Mae’r portread olew rhagorol hwn a baentiwyd ym Marics Wrecsam ym 1948 yn darlunio ffiwsilwr Brenhinol Cymreig yn gwisgo gwisg filwrol a chyfarpar rhyfel. Roedd yr artist wedi cael gwahoddiad i aros yn y barics gan y Brigadydd Skaife, Cyrnol y Gatrawd ar y pryd, er mwyn paentio rhai o’r dynion. Er gwaethaf y ffaith fod nifer o filwyr golygus wedi gorymdeithio o’i flaen iddo gael dewis o’u plith, honnodd Kyffin yn ddiweddarach ei fod bob amser yn dewis yr unigolion mwyaf anniben yn y Gatrawd, gan ychwanegu bod y Ffiwsilwr Dean “yn amlwg wedi diflasu, ond yn hapus iawn iddo lwyddo i ddianc rhag ryw ddyletswydd ofnadwy o egniol”.

Gwasanaethodd Kyffin Williams ei hun â’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig rhwng 1936 a 1941. Aeth yn ei flaen i astudio yn Ysgol Celfyddyd Gain Slade yn Llundain a daeth yn artist o fri rhyngwladol ac yn aelod o’r Academi Frenhinol. Mae nifer o’i frasluniau llai adnabyddus o fywyd yn y fyddin, ynghyd â thri phortread olew o aelodau o’r Gatrawd, yn cael eu harddangos yn barhaol yn yr Amgueddfa.

 

Ar y cleddyf hwn ceir patrwm swyddogion troed 1803 wedi’i ysgythru i’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig (y diweddar 23ain Catrawd Troed) gyda grenâd, plu Tywysog Cymru a 'XXIII'. Fe’i cyflwynwyd i’r Gatrawd ym 1956 gan Mrs Rosalie Cockburn. Roedd wedi bod yn ei theulu er 1809.

Ym mis Ionawr y flwyddyn honno ymosododd Prydain ar Martinique, oedd yn bencadlys gweithgaredd Ffrengig yn India’r Gorllewin. Gyda methiant y gwarchae o’r môr, penderfynodd y cadlywyddion llyngesol a milwrol yn y fan a’r lle ar gyrch i gipio’r ynys.
Glaniodd Bataliwn Cyntaf y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig gyda Brigâd y Ffiwsilwyr ar 30 Ionawr. Tua’r un pryd glaniodd y Capten George Cockburn RN gyda charfan lyngesol gref, a llwyddodd gyda help y fyddin i sefydlu cyfres o ynnau i beledu Fort Bourbon, cadarnle olaf Ffrainc ar yr ynys.
Ar 1 Chwefror gyrrwyd y Ffrancwyr o Morne Bruno i ucheldir Sourier. Dringodd y Ffiwsilwyr Cymreig, dan arweiniad Cwmni’r 'Grenadwyr' i’r ucheldiroedd lle’r oedd y frwydr yn “hynod anhydrin gyda’r Ffrancwyr yn ymosod yn ôl dro ar ôl tro a sain drymiau’n curo. Fodd bynnag daliodd y Grenadwyr eu tir. Yna daeth gweddill y bataliwn i fyny a chafwyd gweithredu llym a’r diwedd fu i’r Ffrancwyr encilio" ac fe’u gorfodwyd yn ôl yn y pen draw i Fort Bourbon.

Plediwyd y gaer a’i difrodi gan y fagnelaeth ar yr ail, gan gynnwys gynnau llyngesol Cockburn, a buan iawn yr ildiodd y garsiwn.
Dyfarnwyd £850 i’r clwyfedig ym Martinique gan Lloyds o Lundain, gyda dim llai na £250 o’r swm yn cael ei ddyrannu i Gwmni Grenadwyr y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.

Dyfarnwyd safle Uwch-frigadydd y Môr-filwyr i’r Capten Cockburn, a lofnododd yr erthyglau ildio, heb unrhyw ddyletswyddau ond £2,000 y flwyddyn. Oherwydd y cyswllt clos rhwng Cockburn a’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn ystod yr ymgyrch, rhoddwyd cleddyf y Ffiwsilwyr Brenhinol iddo fel cofrodd o’r digwyddiad arwyddocaol. Erbyn iddo farw ym 1853 roedd yn Llyngesydd y Lluoedd ac wedi etifeddu barwnigaeth y teulu.
Dyfarnwyd 'MARTINIQUE, 1809' i’r Ffiwsilwyr Cymreig fel Anrhydedd Brwydr ac mae’n dal i fod ar Liwiau’r Gatrawd hyd heddiw. Ymhellach, cyflwynwyd lluman Eryr Napoleon - sy’n cyfateb i ‘Liwiau’ Prydeinig - Catrawd Troed yr 82, a gipiwyd ym Martinique, i’r Gatrawd.
Gellir gweld cleddyf y Llyngesydd a lluman yr ‘Eryr’ yn yr Amgueddfa. Rwyf i’n ddyledus i EL Kirby am ei nodiadau ar hanes y cleddyf.

Yr Arglwydd Howard de Walden oedd yr ail i’r pennaeth a chomander Nawfed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig rhwng mis Tachwedd 1916 a mis Rhagfyr 1917. Roedd yn ŵr cyfoethog a dyngarol, â diddordeb ganddo yn hanes Cymru, ac roedd wedi rhoi llawer o gyfarpar i’w gatrawd flaenorol, y Westminster Dragoons. Roedd hefyd yn casglu arfau ac arfwisgoedd, a thrwy hyn roedd wedi dod i gysylltiad â Felix Joubert, cyd-gasglwr a hefyd gŵr oedd yn nodedig am ei waith fel artist/crefftwr/adnewyddwr. Ym 1916, cododd Joubert batent ar gyllell i ymladd yn y ffosydd, ag iddi lafn 18” siâp deilen oedd yn agos i 3" o led ar ei mwyaf llydan. Roedd y pwmel yn finiog fel bod modd ei ddefnyddio fel arf pe bai angen. Roedd y gard yn grwn a gellid ei blygu’n fflat yn erbyn y llafn pan nad oedd y gyllell yn cael ei defnyddio, nodwedd a fyddai wedi caniatáu i’r gyllell gael ei phatentio. Yn ôl ei arfer, roedd yr Arglwydd Howard yn dymuno arfogi ei filwyr yn y modd gorau posibl, ac felly trefnodd fod cyllyll yn cael eu gwneud i’r Nawfed Bataliwn. Mae marc Joubert ar rai o’r enghreifftiau sydd wedi goroesi ynghyd â Dros Urddas Cymru. Mae un gyllell i’w gweld yn Amgueddfa’r Gatrawd a cheir 6 arall yn y casgliadau wrth gefn.


Honnir yn fynych fod cynllun cyllell Joubert wedi’i seilio ar gynllun Cymreig penodol a ddefnyddid gan saethwyr o Gymru ym mrwydr Crecy. Ond lol ramantaidd yw hynny, a does dim tystiolaeth i awgrymu bod math Cymreig penodol o gleddyf neu ddagr wedi bodoli.

Mae casgliadau Amgueddfa’r Gatrawd yn cynnwys cofnod mewn llawysgrif o brofiadau’r Rhyfel Byd Cyntaf gan H Lloyd Williams o’r Nawfed Bataliwn sy’n sôn am ddefnyddio’r gyllell yn y frwydr. Ar ddechrau brwydr Messines, 1917, aeth un cwmni ar gyrch i ffosydd yr Almaenwyr ar 5 Mehefin. Dywed y cofnod:

"..a dringodd y magnelwyr Lewis, gyda’r cyllyll rhyfedd a ddarparwyd gan yr Arglwydd Howard de Walden, yr holl Gwmni, gyda’r King's Liverpools ar y chwith, dros y top, a rhuthro dan y bared i ffosydd y gelyn."

Cynhyrchodd Wilkinson Sword un o’r arfau hyn ym 1981 i nodi canmlwyddiant Undeb Rygbi Cymru.  Cafodd ei addurno’n arbennig gydag enwau pob un o’r capteiniaid dros y 100 mlynedd flaenorol arno.

Roedd y rifolferi gwasanaeth a ddefnyddid yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn fawr ac yn drafferthus, wedi’u bwriadu i’w defnyddio yng nghyfyngder y ffos neu’r byncer - neu yn niffyg dim byd arall. Doedd hi ddim yn syndod felly bod swyddogion cyfoethog weithiau’n prynu drylliau llai o faint, mwy hylaw iddynt eu hunain, gyda phistolau lled-awtomatig yn arbennig o boblogaidd.

Un swyddog o’r fath oedd y bardd a’r awdur enwog Siegfried Sassoon. Fel y dywed yn ei atgofion, Memoirs of an Infantry Officer (1930):

"..roeddwn i wedi blino ar fy rifolfer Colt; fe wyddwn na allwn i daro dim ag ef, er i mi ei danio unwaith neu ddwy yn y tywyllwch pan oeddwn i’n esgus bod yn bwysig yng nghanol Tir Neb. Yr unig beth roeddwn i'n sicr y gallwn ei daro oedd fi fy hun."



Ond nid diffyg cywirdeb y rifolfer fel arf ymosodol yn unig oedd yn pryderu Sassoon. Fel llawer o filwyr eraill, roedd y syniad o farwolaeth araf yn ei arswydo, "yn gorwedd mewn twll ffrwydron â rhywbeth mwy difrifol na chlwyf Blighty". Mewn amgylchiadau o’r fath, rhesymai y byddai angen rhoi diwedd cyflym ar bethau, ond byddai "chwythu eich ymennydd i ebargofiant gyda’r Colt chwithig yna y tu hwnt i amgyffred". Gyda’r posibilrwydd erchyll hwn yn ei feddwl, prynodd Sassoon ddryll led-awtomatig 7.62mm Browning o gangen Llundain yr Army and Navy Stores ym mis Mawrth 1916, ar ei ffordd yn ôl i Ffrainc ar ôl ymweliad â’i gartref.
Cyfrannodd y sïon am ymosodiad enfawr yr haf hwnnw hefyd at benderfyniad Sassoon i brynu’r gwn, ac wrth adael ardal ddelfrydol ei blentyndod yn Swydd Caint, ni wyddai a fyddai’n dychwelyd fyth eto.

Dros y ddwy flynedd a hanner nesaf gwasanaethodd Sassoon yn eu tro â Bataliwn Cyntaf ac Ail y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, yn Ffrainc a Fflandrys, a gyda’r 25ain Bataliwn ym Mhalestina a Ffrainc.
Pan oedd ar batrôl yn Nhir Neb, ysgrifennodd Sassoon y byddai’n cydio’n dynn yn y pistol Browning ym mhoced ei drowsus i'w sicrhau ei hun, ac roedd hyn mae'n siŵr yn helpu i roi’r argraff i bobl ei fod yn dawel ei feddwl.


Er iddo gael ei anafu ddwywaith (unwaith yn ei ben) ni fu’n rhaid i Sassoon ddefnyddio’r pistol at y diben truenus y bwriedid ef ar ei gyfer. Ar ôl y rhyfel fe’i rhoddodd i gyd-swyddog, a ymfudodd yn ddiweddarach i Awstralia. Ar ôl nifer o flynyddoedd, dychwelodd y pistol i Gymru a gellir ei weld heddiw yn Amgueddfa’r Gatrawd, gyda’r arysgrif clir 'S. Sassoon 1 RWF'.

Ym 1808 roedd y rhyfel yn erbyn Ffrainc Napoleon ar ei anterth. Hwyliodd Ail Fataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig o Falmouth yng Nghernyw gyda 671 o swyddogion a dynion, 48 o wragedd a 20 o blant i Corunna yn Sbaen, gan gyrraedd ar 13 Hydref. Roeddent ar y ffordd i atgyfnerthu byddin Syr John Moore a chynorthwyo i yrru’r Ffrancwyr allan o Sbaen.

Cyn y Nadolig, clywodd Moore ei fod ar fin cael ei ddal gan Napoleon, gyda byddin oedd ddwywaith mor gryf. Penderfynodd Moore encilio dros y mynyddoedd i Corunna. Roedd yn daith enbyd drwy eira trwchus gyda phrinder bwyd ac esgidiau. Ar y cyfan roedd y dynion, oedd â’u gwragedd a’u plant gyda nhw o hyd, yn droednoeth. Gwaethygwyd eu dioddefaint gan storm gref yn ystod y nos ar 8 Ionawr. Chwalodd disgyblaeth yn y fyddin a chafwyd llawer o ysbeilio a meddwdod. Mae’n glod i’r Ail Fataliwn mai dim ond 78 o ddynion oedd wedi’u colli erbyn iddynt gyrraedd Corunna ar yr 11eg.

Dechreuodd brwydr Corunna am 2 p.m. ar y 16eg. Wrth i symudiad y Ffrancwyr gael ei atal, cafodd Moore anaf angheuol. Am 10 p.m. dechreuodd y milwyr fyrddio ac erbyn y bore trannoeth dim ond y ddwy frigâd oedd wedi bod yn gofalu am y byrddio oedd ar ôl ar y lan. Byrddiodd y rhain ar noson yr 17/18fed ac Ail Fataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig oedd yr olaf i adael y rhan hon o dir Sbaen.


Ysgrifennwyd y cofnod canlynol rai blynyddoedd yn ddiweddarach gan Miss Fletcher, un o ddisgynyddion un o’r swyddogion oedd yn bresennol y diwrnod hwnnw:


"Arweiniwyd ymladdwyr y cefn gan y Capten Thomas Lloyd Fletcher, o’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Ef, gyda’i gorporal, oedd yr olaf i adael y dref. Ar eu ffordd i fyrddio, ac wrth fynd drwy’r gatiau, trodd y Capten Fletcher a’u cloi. Doedd yr allwedd ddim yn troi’n rhwydd felly gwthiwyd bidog i’r twll a llwyddo i’w cloi. Daeth y Capten Fletcher â’r allweddi gydag ef, ac mae’r rhain bellach ym meddiant ei fab…
Caiff yr allweddi ei dal gyda’i gilydd â modrwy, sydd â phlât dur ynghlwm wrthi, gyda’r arysgrif 'Postigo de Puerta de Abajo' (‘Cilborth y gât isaf’). Mae ôl y fidog yn dal i’w weld ar un o’r allweddi.”

Trosglwyddodd Thomas Fletcher i 4ydd Reifflau Ceylon ym 1810. Ymddeolodd o swydd Is-Gyrnol ym 1846 a bu’n byw ym Maesgwaelog, Owrtyn, a Gwern Haulod, Ellesmer, lle magodd ei bum mab a saith merch. Bu farw ym 1850.

Cyflwynwyd yr allweddi i’r Amgueddfa gan H Lloyd Fletcher ym 1955.